Eitem Agenda

Eitemau Agenda'r Cabinet i'w hystyried (i ddilyn)

Cofnodion:

Ailgychwyn, Adfer, Adnewyddu: Y camau nesaf i Gaerdydd

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cyng. Huw Thomas, yr Arweinydd a Paul Orders, y Prif Weithredwr i’r cyfarfod.

Nododd y Cadeirydd fod y Prif Weithredwr wedi gofyn i'r swyddogion canlynol fod ar gael ar gyfer yr eitem hon, i ateb unrhyw faterion gweithredol fyddai’n codi: Chris Lee, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau; Sarah McGill, Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau; Richard Portas, Cyfarwyddwr Rhaglen y Cynllun Trefniadaeth Ysgolion; Neil Hanratty, Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd ac Andrew Gregory, Cyfarwyddwr Cynllunio Strategol, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Arweinydd i wneud datganiad ac ynddo dywedodd ei fod yn ddiolchgar i'r Panel am gynnull gan ddweud ei bod yn bwysig cynnal busnes y Cyngor ac mae hynny'n cynnwys Craffu.  Ychwanegodd y byddai pob Aelod yn ymwybodol o ddull strategol y Cyngor o ymdrin â'r pandemig, yn seiliedig ar fodel gwasanaethau hanfodol, ar sail argyfwng, gan ddarparu gwasanaethau rheng flaen.  Dywedwyd wrth yr Aelodau fod yr adroddiad yn nodi'r heriau hanfodol o ran ailgychwyn ac ail-greu gwasanaethau'n effeithiol; Byddai 3 cham – Ailgychwyn, Adfer, Adnewyddu.  Byddai’r cam Ailgychwyn yn seiliedig ar ymagwedd Iechyd a Diogelwch gan reoli gwasanaethau i ddychwelyd yn raddol mewn ymgynghoriad â'r Undebau Llafur; gan gynnal asesiadau risg, a byddai hefyd yn seiliedig ar ofynion cadw pellter cymdeithasol a rheoli haint.  Amlinellir y cytundeb hwn gyda'r Undebau Llafur mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.  Byddai’r cam Ailgychwyn yn adeiladu ar yr addasiadau llwyddiannus a'r datblygiadau arloesol.  Talodd yr Arweinydd deyrnged i staff a’r Aelodau am barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol, sydd wedi cael ei gydnabod yn eang a'i nodi mewn negeseuon o ddiolch gan ddinasyddion Caerdydd.

Gwahoddodd y Cadeirydd y Prif Weithredwr i wneud datganiad ac ynddo eglurodd mai Ailgychwyn oedd y cam nesaf yn y pandemig.  Byddai’r angen i weithio gartref yn parhau ynghyd â’r angen i gadw pellter cymdeithasol mewn ymdrech barhaus i leihau heintiau.  Ychwanegodd bod rhaid dirnad gwir faint yr her hon ond canmolodd y gallu i symud at wasanaethau hanfodol mewn dim ond pythefnos yn unig ar y dechrau.  Dull cydgysylltiedig graddol fyddai'n adlewyrchu Canllawiau Cenedlaethol fyddai’r cam nesaf.   Iechyd a Diogelwch fyddai'r brif egwyddor y tu ôl i'r yamgwedd Ailgychwyn, gan edrych ar ystod o faterion gan gynnwys diogelwch adeiladau, Cyfarpar Diogelu Personol ac ati.  Mae gweithio gartref yn ganolog i'r model wrth symud ymlaen, os gwneir hyn am amser hir, mae'n bwysig derbyn y goblygiadau a chefnogi’r mesurau sydd eu hangen ar gyfer staff.  Mae gwaith yn mynd rhagddo ar olrhain cysylltiadau yn barod.  Ychwanegodd fod angen sicrhau y byddai’r trawsnewidiadau yn rhai parhaol.   Aesiad ar bwynt mewn amser yw’r atodiad i’r adroddiad a byddai mwy o fanylion yn cael eu hychwanegu wedi cael arweiniad.

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau:

Nodwyd bod lefel y marwolaethau a heintiau yn uwch mewn cymunedau difreintiedig a phobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) a gofynnodd yr Aelodau pa fesurau oedd yn cael eu hystyried ynghlwm â hyn, gan gynnwys sut mae staff yn ymwneud â’r gwaith hwn.  Eglurodd y Swyddogion fod y data a ddadansoddwyd ganddynt wedi dangos nad oes cydberthynas o ran pobl BAME yng Nghaerdydd; o ran ardaloedd difreintiedig, fe ellid egluro hynny ar sail y nifer fawr o gartrefi gofal sy’n yr ardaloedd hynny.  Fodd bynnag, cydnabuwyd bod hwn yn broblem yng Nghymru a'r DG.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr o ran y gweithlu fod hyn yn rhan annatod o asesiad bregusrwydd gwasanaethau a staff  Bydd y meini prawf BAME yn rhan ganolog o'r asesiad hwnnw i ailgychwyn gwasanaethau ar sail ddiogel.

Trafododd yr Aelodau y gwaith a wnaed gan yr Athro Senghal a chawson nhw eu synnu nad oedd cydberthynas wedi'i ganfod yng Nghaerdydd.  Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai gwaith yr Athro Senghal yn llywio'r gwaith o asesu bregusrwydd; mae cyngor technegol gan SAGE i Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod angen deall y materion biofeddygol sy'n ymwneud â ffactorau risg o hyd; bydd mwy o waith i'w wneud pan fyddwn yn symud at lefelau data yn y dyfodol.

Barnodd yr Aelodau fod y mesurau sy’n blaenoriaethu iechyd a diogelwch pan fydd disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol yn rhai y dylid eu croesawu a rhai sy’n angenrheidiol.  A yw'r Cyngor yn fodlon, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, y rhoddir blaenoriaeth ddigonol i staff addysgu a chymorth ar gyfer profi symptomau Covid-19 yn y lle cyntaf, olrhain cysylltiadau a phrofi am wrthgyrff?  Eglurodd yr Arweinydd eu bod wedi byw'r profiad o brofi yng Nghaerdydd ac mae wedi bod yn gadarnhaol iawn, mae gan y Cyngor berthynas dda gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro a chyfleusterau gwych hefyd felly nid oeddent yn poeni am y gallu i brofi'n effeithiol.  O ran olrhain, bydd y Cyngor yn gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg a'r Bwrdd Iechyd ac yn hyderus y bydd yn gweithio gan fod gennym rywfaint o reolaeth er mai hwn yw'r ymyriad iechyd cyhoeddus mwyaf i'r Cyngor ers blynyddoedd lawer.  O fod yn sefyll yn yr unfan dair wythnos yn ôl, mae'r Cyngor bellach wedi rhoi hanfodion Profi, Olrhain, Diogelu yn eu lle, gyda 300 o staff ar gael ac yn barod i gael eu defnyddio pan fydd angen. Erbyn i ysgolion ailgychwyn, bydd y Cyngor mewn sefyllfa dda o ran Profi, Olrhain, Diogelu.

 

Nododd yr Aelodau fod strategaeth Ailgychwyn, Adfer, Adnewyddu'r Cyngor yn rhagweld yn briodol risg uchel o gynnydd yn nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Pa waith cynllunio a wneir ymlaen llaw gan y tasglu adfer y cyfeirir ato o ran Addysg Bellach ac Uwch, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr i fynd i'r afael â'r risg hon?  Cyfeiriodd yr Arweinydd at dudalen 11 yr adroddiad a dywedodd fod y Cyngor yn awyddus i ailgychwyn allgymorth ieuenctid, yn enwedig ar y stryd, ar gyfer y garfan benodol nad ydynt yn ymwneud ag addysg.  Byddai hefyd newid yn y ffocws o brojectau mawr i gymorth busnes a gwasanaethau i mewn i waith.  Mae cyflogwyr yn dweud wrth y Cyngor ei bod yn bwysig cael y negeseuon cywir i bobl yngl?n â gweithio a siopa yn ddiogel yn y ddinas.  Mae’r gwasanaethau i mewn i waith mewn sefyllfa resymol gyda chapasiti sylweddol i helpu pobl ddiwaith i gael gwaith.   Byddai ffocws ar bobl ifanc agored i niwed, a byddai cyfleoedd yn cael eu darparu yn arbennig i'r garfan sy'n gadael yr ysgol. Roedd yr Aelodau o'r farn y bydd nifer o bobl ifanc yn cael eu hoedi rhag mynd i addysg bellach a dylid ystyried hyn hefyd. Cytunodd y Prif Weithredwr a nododd fod hyfforddiant a phrentisiaethau yn bwysig yn y cyd-destun hwn.  Ychwanegodd y swyddogion fod y Cyngor yn bwriadu agor 2 ganolfan anghenion arbennig i helpu gyda phontio i waith a chyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc dros fisoedd yr haf.

 

Nododd yr Aelodau fod ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos y bu 341 o farwolaethau Covid-19 yng Nghaerdydd hyd at 30 Mai 2020.  Ymhlith y naw Dinas Graidd yng Nghymru a Lloegr, Caerdydd sy’n drydydd o ran y nifer uchaf o farwolaethau (y tu ôl i Lerpwl a Birmingham) Mae’r nifer hwn (341 o farwolaethau COVID) yn cynnwys 121 (35.5%) o farwolaethau mewn cartrefi gofal.   Er bod ffigur y gyfradd marwolaethau yn gyson â'r ffigurau cyfradd marwolaethau ychwanegol a briodolir i COVID yn y Gr?p 9 Dinas Graidd, mae cyfran y marwolaethau mewn cartrefi gofal yng Nghaerdydd yn uwch (35%) na chyfartaledd Cymru (28%). Gofynnodd yr Aelodau am y rhesymau dros y gyfradd farwolaethau uchel yng nghartrefi gofal Caerdydd. Beth y gellid bod wedi'i wneud yn well gan y Cyngor a'r Bwrdd Iechyd, fel un o'i bartneriaid allweddol, i atal y gyfradd marwolaethau uchel hon mewn cartrefi gofal yng Nghaerdydd? Pa wersi a ddysgwyd a fyddai'n cyfrannu at strategaethau gweithredol i amddiffyn defnyddwyr gwasanaethau oedrannus ac agored i niwed mewn cartrefi gofal ac ar gyfer y rhai sy'n cael eu derbyn i ysbyty ac a fydd yn symud yn ôl i gartrefi gofal a'u cymunedau?   Eglurodd y swyddogion fod y Cyngor wedi rhoi cymorth sylweddol i gartrefi gofal o ran rhyddhau a derbyniadau; nid oedd y swyddogion yn ymwybodol o unrhyw amgylchiadau unigol lle'r oedd rhywun yn mynd o'r ysbyty i gartref gofal ac yna'n profi'n bositif am Covid-19.  Mae'r trefniadau presennol yn argymhellol iawn, i symud person i gartref gofal, mae cyfnod ynysu o 14 diwrnod cyn bod y person hwnnw’n cael lle mewn cartref gofal Comisiynir gwelyau cartrefi gofal yn unol â gofynion statudol; ynysu am 14 diwrnod gyda phrawf negyddol wrth adael yr ysbyty ac wedyn ail brawf negyddol cyn iddynt fynd i’r cartref gofal.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr mai'r mater allweddol yw bod yr arweiniad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn argymhellol.   Mae'r trefniadau presennol yn effeithiol, ac mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn edmygu lefel y gwaith aml-asiantaeth sy'n gysylltiedig â rheoli heintiau a gall yr Aelodau fod yn hyderus.

 

Nododd yr Aelodau mai’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) sydd wedi cymryd yr awenau o ran rheoli Profi, Olrhain, Diogelu a chyda safleoedd yn ailagor, a chynnydd mewn ymgynnull cymdeithasol, a oes digon o Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd ar gael i wneud hyn? A oes digon o adnoddau i gyflawni'r rôl newydd hon tra'n sicrhau nad yw safonau iechyd, hylendid a diogelu'r cyhoedd yn cael eu gadael i waethygu gan greu peryglon iechyd eraill? Hyd yn oed os oes cymorth ariannol ychwanegol wedi'i roi, a oes SIA ar gael i hyfforddi unigolion a rheoli'r gwaith hwn? Nid yw SIA wedi bod â digon o adnoddau ers peth amser gan na allent recriwtio.   Dywedodd y Prif Weithredwr fod capasiti ym maes Iechyd yr Amgylchedd yn fater o bwys mewn gwirionedd; bydd rhaid ail-ganolbwyntio/ail-hyfforddi staff gan y bydd angen capasiti ar y Cyngor o ran Profi, Olrhain, Diogelu a gaiff ei gynnal gan Gyngor Caerdydd gyda mewnbwn arbenigol ar lefel ranbarthol.  Ychwanegodd swyddogion hefyd eu bod yn ystyried cael myfyrwyr i helpu gyda'r gwaith Phrofi, Olrhain, Diogelu.  Esboniodd y swyddogion fod 4 elfen i'r trefniadau rhanbarthol; Profi ac Olrhain - a gynhelir gan GDC, ar y dechrau gyda 50 o  staff ond yn cynyddu i 150; Hyb Cynghori Iechyd y Cyhoedd Proffesiynol - y bydd y Cyngor yn mynd ato am gyngor penodol ynghylch lleoliadau megis ysgolion, hosteli ac hyd yn oed fusnesau; Profi – Mae Caerdydd a Bro Morgannwg wedi gwneud yn dda iawn o ran profi. Bydd yr orsaf brofi yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn rhan o gapasiti’r Cyngor yn fuan.

Gofynnodd yr Aelodau am y strategaeth ddigartrefedd a sut y gellir adeiladu ar lwyddiant ymgysylltu â phobl ddigartref i ddefnyddio gwasanaethau drwy gydol y pandemig, a lleihau nifer y bobl sy’n cardota ar y stryd.  Roedd yr Arweinydd yn gobeithio y gellir adeiladu ar y llwyddiant ac mae'n hanfodol bod y cyhoedd yn gweithio gyda'r Cyngor ar hyn.  Yr adborth y mae'r Arweinydd wedi ei dderbyn yw bod y cyflenwad o gyffuriau wedi gostwng ac mae'r prisiau felly wedi cynyddu, mae llai o arian parod o gardota ar y stryd felly mae mwy o bobl wedi bod yn ceisio triniaeth gyda chyffuriau synthetig.  Mae'r Arweinydd yn amlwg eisiau i hyn barhau ac i gadw pobl mewn llety ac mae mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i barhau i ariannu'r llety saff a diogel newydd.  Ychwanegodd y swyddogion fod 2 elfen i hyn, sef llety a hefyd nodi'r rhesymau sy'n arwain at bobl i gardota ar y stryd a chamddefnyddio sylweddau.  Mae'n bwysig cofnodi straeon pobl sydd wedi dechrau cael triniaeth yn ystod Covid-19 a chynyddu amlygrwydd cyhoeddus.  Ychwanegodd yr Arweinydd mai dim ond tua 5 o bobl sydd ar y strydoedd bellach nad sydd am fanteisio ar wasanaethau'r Cyngor, ond roedd y ffigurau'n lleihau cyn yr argyfwng, i 30 ym mis Chwefror, sef yr isaf mewn 5 mlynedd.  Gofynnodd yr Aelodau a oedd angen newid polisïau i yrru hyn yn ei flaen, a dywedodd yr Arweinydd y byddai angen i'r llety a'r driniaeth barhau i fod ar gael, ynghyd â negeseuon clir i'r cyhoedd i beidio â rhoi arian i gardotwyr ar y stryd yn uniongyrchol.

Roedd yr Aelodau o'r farn bod y Cyngor yn gwneud gwaith da gyda'i ddull gweithredu 3 cham a'i fod yn gweithredu’n ochelgar iawn, ond roeddent yn meddwl tybed a yw’n bosibl nad yw busnesau ar yr un lefel â'r Cyngor a gofynnon nhw a all y Cyngor adolygu/diwygio'r strategaeth ac a yw'n ddigon ystwyth i gyflymu neu i arafu’r broses.  Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn ddigon ystwyth, roedd yn ddogfen fyw y bydd angen iddi fod yn hyblyg wrth adael y cyfnod cloi, neu ar gyfer cyfnodau cloi pellach pe bai ail don.  Mae angen iddi fod yn ystwyth wrth i’r gwaith o ailddechrau gwasanaethau’n raddol ddechrau, gellir ei defnyddio/peidio ei defnyddio yn ôl yr angen. 

Trafododd yr Aelodau y cymhlethdod y mae busnesau'n ei wynebu yng ngyd-destun polisi ac ymateb, mae'r Cyngor wedi ymgysylltu â dros 7000 o fusnesau gan roi cymorth ac arweiniad yn uniongyrchol a gwirio bod yr hyn sydd ei angen ganddynt; bydd angen i'r Swyddogaeth Datblygu Economaidd fod yn fwy ymarferol i'r perwyl hwn a byddai'r porth rhannu gwybodaeth yn parhau’n weithredol.  Mae angen i bobl deimlo'n ddiogel ac yn hyderus i ddychwelyd i'r gwaith a defnyddio canolfannau manwerthu ac amwynderau eraill, ond mae angen hyn i helpu'r economi. 

Nododd yr Aelodau fod yn rhaid, yn ddealladwy, lacio/dileu’r ddyletswydd statudol o ran plant a chartrefi plant ac ati a gofynnon nhw iddi gael ei rhoi ar waith eto cyn gynted â phosibl.   Cytunodd yr Arweinydd, a dywedodd y byddai hyn yn digwydd cyn gynted â’i bod yn ddiogel gwneud felly, a chan ymgynghori’n rheolaidd hefyd.

Trafododd yr Aelodau ymyriadau sy'n ymwneud â'r defnydd o ofod ffyrdd, eglurodd y swyddogion fod llawer o ymgysylltu wedi bod ynghylch safleoedd canol y ddinas a bod sgyrsiau wedi dechrau gydag ardaloedd megis Heol Wellfield; bydd hyn yn parhau ar draws y ddinas lle maent am wella ymyriadau.  Dywedodd yr Arweinydd fod y broses o wneud cais am grant i fusnesau bach wedi ei gwneud yn hawdd iawn iddynt wneud cais a bod y rhan fwyaf wedi cael eu harian.

Trafododd yr Aelodau y manteision a'r datblygiadau arloesol a ddigwyddodd yn ystod y pandemig, a gofynnon nhw pa bethau newydd fydd yn cael eu cyflwyno i gadarnhau hyn yn y dyfodol.  Dywedodd yr Arweinydd fod digideiddio a gweithio o gartref yn sicr yn 2 faes a fyddai'n cael eu hyrwyddo, nid yw'r Cyngor erioed wedi gwneud digideiddio a gweithio o gartref ac mae wedi profi y gall y model weithio, mae hyn wedi rhoi cyfle i ddileu unrhyw rwystrau cynhenid a fodolai.  Byddai gwasanaethau newydd yn cael eu creu gan ystyried agweddau digidol yn gyntaf, gan newid yn gyflym o analog i ddigidol.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod Digartrefedd a Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig yn hanfodol i'r Cyngor; trefniadau rhyddhau o'r ysbyty i'r gymuned; pwynt cyswllt cyntaf, sy'n hanfodol i effeithiolrwydd y gwaith hwnnw. Mae gweithio’n gallach wedi rhyddhau capasiti mewn ysbytai, bu llawer o ddefnydd o ddigidol gan gynnwys trafodaethau dyddiol ynghylch pryderon, a dyraniad digidol o waith rheoli achosion. Mae angen ymgorffori hyn oll wrth symud ymlaen gan fod nifer o wasanaethau penodol y gellir eu hatgyfnerthu â newid digidol ac y gellir adeiladu arnynt.  Nododd yr Aelodau fod cefnogaeth yr Undebau Llafur wedi bod o gymorth mawr.  Cytunodd y Prif Weithredwr drwy ddweud eu bod wedi bod yn gefnogol iawn drwy gydol yr ymgynghoriadau manwl; mae Iechyd a Diogelwch eu haelodau’n bwysig iawn iddynt.  Ychwanegodd eu bod yn parhau’n gefnogol o ddull y Cyngor o adleoli staff i’r adrannau lle mae eu hangen.

 

Adroddiad ar Reolaeth Ariannol

Croesawodd y Cadeirydd y Cyng. Chris Weaver, Aelod Cabinet a Chris Lee - Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau i'r cyfarfod a nododd y byddai'r Cyng. Huw Thomas, yr Arweinydd a Paul Orders, y Prif Weithredwr yn aros yn y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau:

 

Nododd yr Aelodau fod y Cyngor yn wynebu colled amcangyfrifedig o £11.4m at fis Fehefin 2020, y posibilrwydd y bydd cyfraddau casglu'r Dreth Gyngor yn gostwng, a galw am weld cynnydd yng Nghynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor. Mae cronfa gan Lywodraeth Cymru o £78m wedi'i chyhoeddi i gefnogi Llywodraeth Leol gyda'r her hon. Gofynnodd yr Aelodau am fwy o oleuni ar y goblygiadau o ran sut y bydd hyn yn effeithio ar gyllideb y Cyngor ar gyfer 20/21? Ydych chi’n rhagweld colli incwm hyd at fis Ebrill 2021?   Dywedodd yr Aelod Cabinet ei fod yn gymhleth iawn rhagweld hyd at ddiwedd y flwyddyn.   Byddai rhai penderfyniadau'n seiliedig ar gyhoeddiadau'r Llywodraeth ac agwedd a hwyliau’r cyhoedd.  Roedd y Cabinet yn bwriadu dod â'r adroddiad ar Strategaeth y Gyllideb i gyfarfod nesaf y Cabinet.  Ychwanegodd swyddogion fod CLlLC yn dadansoddi pob un o'r 22 Awdurdod Lleol parthed incwm a gollwyd i nodi cyllid i gefnogi incwm a gollwyd hyd at swm o £78miliwn.  Nid oes meini prawf ar waith hyd yma ar sut i wneud cais.  Mae'r Cyngor yn parhau i fonitro derbyniadau/gostyngiadau'r Dreth Gyngor ac mae llawer o fodelu ar waith ledled Cymru, bydd y Swyddogion yn ymchwilio i hyn yn y tymor canolig.

Trafododd yr Aelodau gyllid CLlLC ac a fu unrhyw drafodaeth gynnar ynghylch lefel yr effaith ar y Cyngor.  Dywedodd yr Aelod Cabinet eu bod yn anelu at y tymor hwy, efallai mis Tachwedd, roedd yr arian i'w groesawu'n fawr ac roedd trafodaethau'n cael eu cynnal er mai'r gobaith oedd y byddai rhai ffynonellau o incwm yn dychwelyd.  Dywedodd y Swyddogion fod trafodaethau wedi’u cynnal ynghylch y cyfnod hyd at fis Mehefin, ond ym mis Medi  y byddai'r drafodaeth nesaf ond roedd yn bwysig gwahaniaethu rhwng incwm a gollwyd ac incwn a ohiriwyd gan y gallai fod peth adlam.

Eglurodd yr Aelodau fod pobl yn dal i allu talu eu Treth Gyngor ar hyn o bryd.

Nododd yr Aelodau fod y papurau'n dangos bod y Cyngor wedi colli £3.4miliwn ar barcio, cosbau parcio a MTOs. A oes gennym bwerau i gosbi gyrwyr sy’n gyrru ar gyflymder sy’n fwy na 20mya? Mae llai o fenywod yn beicio am amrywiaeth o resymau, un ohonynt yw ofn am eu diogelwch. Ydy peidio â rhoi dirwyon yn cael effaith ar Gydraddoldeb?            Eglurodd y Swyddogion mai mater i'r Heddlu oedd gorfodi'r cyfyngiad cyflymder 20mya.  Roedd timau wedi bod yn gweithio tuag at ailgychwyn a pharatoi ar draws y Ddinas a chanolfannau lleol yn sicrhau bod mesurau cadw pellter cymdeithasol yn eu lle ac yn cefnogi busnesau.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd dealltwriaeth am y costau ychwanegol i’w talu’n awr ac yn sicr yn y tymor hwy ac a fyddai hyn yn cael ei ystyried mewn strategaethau ar y gyllideb yn y dyfodol.  Dywedodd yr Aelod Cabinet y bydd Digartrefedd, Cyfarpar Diogelu Personol, Cyflenwi Bwyd ac ati i gyd yn wariant ychwanegol, roedd yn bwysig deall sefyllfa'r gyllideb eleni a lle fyddai'r goblygiadau.  Ychwanegodd y Swyddogion eu bod yn cynnal arolwg nawr i edrych ymlaen y tu hwnt i fis Mehefin i fis Medi a thrafodir hyn yn yr wythnosau nesaf. 

 

Gofynnodd yr Aelodau ynghylch y pwysau ychwanegol ar gyllideb y Gwasanaethau Plant ers dechrau'r pandemig.  Dywedodd yr Aelod Cabinet fod pwysau ychwanegol, rhaid i ffyrdd o weithredu newid, bu pwysau mewn meysydd lle gobeithiwyd sicrhau arbedion, felly mae llawer o'r hyblygrwydd wedi mynd erbyn hyn gan gynnwys llai o wirfoddolwyr a gofalwyr maeth ac ati. 

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y cymorth a roddir i ddarparwyr gofal cartref/cartrefi gofal, gan ystyried bod yr hyn y mae’r Cyngor yn ei ddarparu yn anhygoel a gofynnon nhw a fydd modd hawlio hyn yn ôl gan Lywodraeth Cymru (LlC).  Roedd yr Aelodau'n ymwybodol o'r gwaith a oedd ar y gweill i ail-gomisiynu gofal cartref a meysydd eraill y llynedd a gofynnon nhw ym mhle y mae'r argyfwng hwn yn gadael y gwaith hwnnw?  Dywedodd yr Aelod Cabinet y byddai modd adennill y costau mwy gan LC; roedd gweithio o bell wedi'i gyflymu a oedd yn gam cadarnhaol; roedd yn bwysig nawr edrych ar yr effaith ar y farchnad allanol ond nid oedd modd gwneud hynny eto.  Ychwanegodd y Swyddogion fod angen iddynt wahanu gyda'r darparwyr pa gostau sy'n ymwneud yn benodol â Covid-19, amcangyfrifir mai £40miliwn ledled Cymru yw’r rhain; bydd angen ail-ffocysu ar hyn ymhellach.  Mae darparwyr Gofal Cartref yn awyddus i ail-ymgysylltu ynghylch y dyfodol, mae rhywfaint o wybodaeth ar gael am yr effaith, hynny yw, bod swm y gofal wedi lleihau, sydd wedi gwneud darparwyr yn agored i niwed yn ariannol, ond maent wedi gorfod symud yn agosach at y model gwasanaethau lleol; mae cyfarfodydd cychwynnol wedi dechrau ond roedd yn anorfod y byddai oedi o 6 mis ar yr amserlen wreiddiol.  

 

Gofynnodd yr Aelodau ynghylch cynlluniau caffael ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol i ysgolion a darpariaeth y blynyddoedd cynnar.   Nododd yr Aelod Cabinet fod swm enfawr o'r gwariant ychwanegol wedi bod ar Gyfarpar Diogelu Personol.  Dywedodd y Prif Weithredwr eu bod wedi sicrhau llinell gyflenwi 3 mis ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol gyda chaffael, roedd rhywfaint o fodelu o ran angen ysgolion a’r gymuned ehangach am Gyfarpar Diogelu Personol.  Gofynnodd yr Aelodau beth oedd y broses ar gyfer asesu'r angen hwnnw ac eglurodd y Prif Weithredwr ei bod yn debyg i fodel y Gwasanaethau Cymdeithasol, caffael a gwasanaeth Iechyd a Diogelwch; edrych ar haint/risg posibl a faint o offer i'w brynu.  Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio gyda Storfeydd Canolog LlC ac yn gweithio'n llawer mwy effeithiol o ran Cyfarpar Diogelu Personol nag ar ddechrau'r argyfwng. 

 

Adroddiad ar Strategaeth Adfer Caerdydd

Croesawodd y Cadeirydd y Cyng. Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu; y Cyng. Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, Neil Hanratty, Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd ac Andrew Gregory, Cyfarwyddwr Cynllunio Strategol, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd.

Nododd y Cadeirydd y byddai'r Cyng. Huw Thomas, yr Arweinydd a Paul Orders, y Prif Weithredwr yn aros yn y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

 

Cwestiwn – y Cynghorydd Patel - Beth yw'r effaith ar Fws Caerdydd? Beth yw effaith hyn ar y Cyngor?  Beiciau – Rydym wedi bod yn hyrwyddo Next Bikes. Sut mae'r rhain yn cael eu diheintio rhwng defnyddwyr? Yn y gorffennol, mae'r Pwyllgor Craffu Amgylcheddol wedi codi'r posibilrwydd o gael treialon am ddim i annog defnydd. Os gallwn sicrhau bod Next Bikes yn ddiogel eu defnyddio, a ddylem gynnig treialon am ddim yn awr, i helpu gyda’r gwaith o ailgychwyn ac adfer?  Esboniodd yr Arweinydd fod y ffigurau defnydd wedi gostwng yn sylweddol a bod Bws Caerdydd wedi cynnig teithio am ddim i weithwyr y GIG.  Cafwyd cefnogaeth benodol gan Lywodraeth Cymru am wasanaethau sgerbwd.  Roedd yr Arweinydd dan arddeall fod cynllun gan LC i gynnig pecyn arall o gymorth i wasanaethau bws ledled Cymru.  Mae trafodaethau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd ynghylch yr hyn y gall y Cyngor ei wneud i gynorthwyo yn y tymor byr hefyd o ran rhwymedigaeth pensiwn a moderneiddio'r fflyd; mae yna heriau ond mae'r Cyngor yn gweithio gyda LlC a Bws Caerdydd.   O ran Nextbike – eglurodd yr Aelod Cabinet eu bod wedi bod yn glanhau'r gorsafoedd a gwneud pobl yn ymwybodol y dylent gael eu diheintio cyn eu defnyddio; roedd yn awyddus i gadw'r gwasanaeth hwn i fynd a nododd ei fod yn rhad ac am ddim i staff y GIG ei ddefnyddio.  Gofynnodd yr Aelodau a ystyriwyd cynnig y gwasanaeth am ddim i'r gymuned ehangach er mwyn helpu i ailgychwyn yr adferiad, cytunodd yr Aelod Cabinet i fwrw ymlaen â hyn. 

Nododd yr Aelodau fod yr adroddiad yn amlinellu'r newidiadau i’r llwybrau mynediad ar gyfer canol y ddinas ac yn sôn am roi roi’r ddinas ar batrwm  ‘Digwyddiad’ bron yn barhaol ar gyfer y dyfodol rhagweladwy. Sut rydych yn bwriadu profi'r cynigion hyn i sicrhau na fydd unrhyw ganlyniadau negyddol anfwriadol, er enghraifft, i'r rheini â nam ar eu golwg neu broblemau symudedd neu fenywod, y mae ymchwil wedi dangos nad ydynt yn beicio cymaint â dynion oherwydd pryderon ynghylch aflonyddu a diogelwch.  Dywedodd yr Aelod Cabinet mai'r rheswm dros ddewis y patrwm digwyddiad oedd eu bod â phrofiadau hir o sut mae'r Ddinas yn gweithio yn y modd hwnnw; roedd angen rhoi blaenoriaeth i gadw pellter cymdeithasol ac iechyd a diogelwch.  Mae camau gweithredu a gymerir yn y tymor byr yn rhai y gellir eu gwrthdroi'n gyflym iawn os nad ydynt yn gwneud yr hyn y mae angen iddynt ei wneud.  Gofynnodd yr Aelodau a oedd trafodaethau wedi'u cynnal gyda'r Fforwm Mynediad i sicrhau nad oedd neb yn dioddef gwahaniaethu.   Eglurodd y swyddogion eu bod yn cysylltu'n rheolaidd â grwpiau anabledd amrywiol, a bod cyfarfodydd bob pythefnos wedi'u trefnu yn y dyfodol; Mae’r swyddogion yn ymwneud â chynlluniau manwl a byddai Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael eu cynnal ar bob cynnig.  Nododd yr Aelodau nad oeddent wedi gweld yr AEG ar gyfer y cynlluniau a dywedodd y swyddogion eu bod ar fin cael eu gwneud. 

Roedd yr Aelodau o'r farn y gallai ymddygiad y rhai sy'n gweithio yn y Ddinas newid, efallai y bydd pobl yn amharod i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a gallem weld mwy o ddefnydd o geir a thraffig yn dod i ganol y Ddinas.  Trafododd yr Aelodau y ffaith bod busnesau’n awyddus i agor a bod teithio yn beth pwysig i’w ystyried.  Mae'r Cyngor wedi nodi bod angen lleoli'r maes parcio mor agos â phosibl i Ganol y Ddinas fel y gall pobl gerdded/beicio weddill y daith.  Nodwyd ei fod yn newid sylweddol i'r cyfeiriad teithio y mae'r Cyngor wedi bod yn ei wthio ond mae'n ymateb yn uniongyrchol i bryderon byd busnes.  Ychwanegodd yr Arweinydd fod meysydd parcio Canol y Ddinas yn bwriadu agor â chapasiti llai gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol yn eu lle; bydd gan ffyrdd lai o gapasiti hefyd yn hyn o beth ac roedd yn bwysig annog gweithio gartref lle bynnag y bo modd.  Ychwanegodd yr Aelod Cabinet y byddai llif y traffig yn cael ei reoli gyda’r Ddinas yn gweithredu ar batrwm ‘Digwyddiad’, a bod hyn wedi'i fodelu i osgoi tagfeydd gymaint â phosibl.  Byddai ystyriaethau eraill fel amseroedd dechrau a gorffen cyfnodol ar gyfer busnesau ynghyd â gweithio gartref yn helpu.   Nodwyd bod hon yn sefyllfa ddeinamig ac yn anhysbys o hyd ar hyn o bryd, mae angen system gadarn i gefnogi'r defnydd o geir ond gyda mesurau diogelwch yn eu lle; cefnogi dulliau eraill o deithio ac addasu'n gyflym wrth i ddata ddod i'r golwg ac er mwyn galluogi rheoli'r sefyllfa gyfan yn rhagweithiol. 

 

Nododd yr Aelodau fod yr adroddiad yn sôn am gynllun peilot Heol Wellfield. Beth yw'r amserlenni ar gyfer yr arbrawf hwn? A ddysgwyd unrhyw wersi hyd yn hyn, er enghraifft sut i gyflymu cynnydd o ran cyflawni cynlluniau a hefyd sicrhau ymgynghori da gyda grwpiau yr effeithir arnynt? Bydd angen i ni weithredu cynlluniau'n gyflym - beth yw'r risgiau yn hyn o beth?  Dywedodd y Swyddogion y bu 2 gyfarfod â busnesau ac Aelodau lleol.  Mae'r cam cyntaf yn cael ei wneud trwy ddyblu maint y palmant drwy gael gwared ar ofod y ffordd gyda chonau.  Trafodwyd mesurau cadw pellter cymdeithasol eraill gyda'r gymuned leol megis systemau un-ffordd ac ati.  Os bydd y cynllun yn llwyddiannus, caiff ei roi ar waith mewn ardaloedd lleol eraill ledled y Ddinas.  Mae'r cyfarfodydd wedi bod yn rhai cadarnhaol, gwnaed pwyntiau i gefnogi'r Polisi ac roedd y broses yn parhau.  Byddai cam 2 yn dechrau mewn 4-6 wythnos. 

Cyfeiriodd yr Aelodau at Adferiad Gwyrdd gan ofyn sut y daw hyn i'r amlwg yng Nghaerdydd. Beth fyddwn yn ei wneud i annog a chefnogi hyn?  Nododd y swyddogion y gwelliant sylweddol o ran aer glân ond egluron nhw nad oedd hyn yn ymwneud â gronynnau.  Nodwyd bod angen gwell gwybodaeth o ansawdd aer er mwyn pennu sut y gellir gwella ac atgyfnerthu elfennau er mwyn rhoi cyfle ar gyfer newid parhaol sylweddol, nid oedd hyn yn sicr ond roedd yn drywydd i’w ddilyn.  Byddai'r strategaeth Un Blaned yn dod ymlaen yn unol ag Ewrop a dinasoedd eraill y DG.  Gofynnodd yr Aelodau am leoliad y safleoedd Parcio a Phedlo ac eglurodd y swyddogion fod y lleoliadau hyn yn cael eu paratoi ar hyn o bryd ond y byddent yn hanfodol i lwyddiant y Ddinas o ran adferiad.  Byddai cynllun ffurfiol gyda mwy o fanylion a chynllun gweithredol yn cael eu cyflwyno i’r Panel.  Pwysleisiodd yr Aelodau ei bod yn bwysig ymgynghori ag aelodau wardiau lleol. 

 

Nododd yr Aelodau y gallai newid ymddygiad teithio pobl gael effaith wirioneddol ar drafnidiaeth gyhoeddus a'i hyfywedd. Eglurodd y swyddogion eu bod wedi bod yn ymgysylltu â Trafnidiaeth Cymru, bu effeithiau sylweddol ac maent yn gweithio i gynnig mesurau amgen ar gyfer pob safle.  Mae Bws Caerdydd yn gyfarwydd â gweithredu ar batrwm digwyddiad a dylai'r mannau a reolir yng Nghanol y Ddinas fod o fantais iddynt.  Bydd gwaith yn y dyfodol yn cynnwys edrych ar safleoedd bysus, lleoliadau a mynediad i brif orsafoedd; mae'n bwysig diogelu'r asedau allweddol hyn yn y ddinas wrth symud ymlaen ac mae angen proses i ategu a ddim i gystadlu.  Dywedodd yr Aelod Cabinet ei fod yn peri pryder mawr gan fod y cwmnïau wedi profi colledion sylweddol. 

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at ail-ganolbwyntio Datblygu Economaidd a gofynnon nhw beth mae hyn yn ei olygu o ran projectau mawr sydd eisoes ar y gweill.  Dywedodd yr Aelod Cabinet fod datblygwyr yn parhau i fod yn rhan o'r cynlluniau ar gyfer Arena Dan Do a'u bod yn bwrw ymlaen â'r cynllun gyda swyddogion.  Mae angen ail-ganolbwyntio ar yr hyn y mae Datblygu Economaidd yn ymgymryd ag ef wrth symud ymlaen, ac ar hyn o bryd mae angen mwy i gefnogi busnesau bach.   Bydd yr Aelod Cabinet yn monitro hyn a'r hyn sy'n digwydd mewn dinasoedd eraill a bydd sgwrs yn y Cabinet yn y dyfodol ynghylch hyn. 

 

Ymateb i Effaith Covid-19 ar Raglen Cyflenwi Tai’r Cyngor

Esboniodd y Cadeirydd fod yr adroddiad terfynol hwn yn edrych ar effaith Covid-19 ar Raglen Cyflenwi Tai'r Cyngor ac yn cynnig ymateb i sut i ddelio â hyn.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cyng. Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau; Sarah McGill, Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau a Dave Jaques, Rheolwr Gweithredol Datblygu ac Adfywio ar gyfer yr eitem hon.

 

Nododd y Cadeirydd y byddai'r Cyng. Huw Thomas, yr Arweinydd a Paul Orders, y Prif Weithredwr yn aros yn y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

 

Esboniodd y Cadeirydd fod yr eitem hon yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol yn Atodiad 1. Byddai'r cyfarfod yn dechrau gyda sesiwn agored, gofynnwyd i'r Aelodau beidio â chyfeirio at yr Atodiad hwn. Pe bai angen, byddai'r cyfarfod yn troi’n sesiwn gaeedig er mwyn galluogi’r Aelodau i ofyn cwestiynau am yr eitemau hyn maes o law.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cyng. Thorne i wneud datganiad ac ynddo eglurodd fod yr adroddiad yn amlinellu'r effaith y mae pandemig Covid19 wedi'i gael ar Raglen Cyflenwi Tai’r Cyngor hyd yn hyn, yr effaith barhaus debygol a'r cyfleoedd i symud y rhaglen yn ei blaen.

 

Arweiniodd y cyfnod cloi at oedi gyda throsglwyddiadau ar ddiwedd y flwyddyn ac effeithiodd ar waith datblygu parhaus y Cyngor oedd yn yr arfaeth fel a ganlyn:

§  Methiant i gwblhau trefniadau prynu’n ôl 

§  Gohiriwyd trosglwyddiadau o gynllun Cartrefi Caerdydd

§  Gohiriwyd 30 cartref yn Courtenay Rd (staff ar gyfnod ffyrlo)

§  Methu â chychwyn y gwaith ar Caldicot Road yn ôl y bwriad (staff ar gyfnod ffyrlo)

§  Gohiriwyd cynlluniau oedd yn yr arfaeth

 

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bryderon ynghylch yr effaith uniongyrchol ar y farchnad Dai. Oherwydd y pryderon hyn, mae Wates yn ceisio dull amgen o wneud gwaith ar y pedwar safle gweithredol o fewn cam 1.

 

§  Willowbrook, Llaneirwg

§  Briardean, Gabalfa

§  Highfields, Y Mynydd Bychan

§  Llandudno Road, Tredelerch

Felly mae'r adroddiad yn ceisio amrywio'r cytundeb datblygu, y gellir ei weld yn Atodiad 1 sy’n gyfrinachol, bydd hyn yn rhoi cyfle i ddiogelu'r cynllun a darparu mwy o gartrefi Cyngor -ymgynghorwyd ag Aelodau'r Ward a hyd yma ni chafwyd unrhyw ymatebion negyddol.

Mae'r adroddiad hefyd yn trafod sut y gallai amrywio ein dull o adeiladu helpu i gynnig rhywfaint o hyblygrwydd o fewn ein rhaglen drwy addasu i amodau cyfnewidiol y farchnad a sicrhau cartrefi sy'n wirioneddol niwtral o ran daliadaeth. 

 

Crynhodd y Cyng. Thorne fel a ganlyn;

  • Mae'r adroddiad yn dangos - ar y cyfan - bod yr effaith hyd yn hyn wedi bod yn ymwneud ag oedi o ran adeiladu ein cartrefi newydd a chartrefi i'w gwerthu
  • Mae'n argymell y dylai'r Cabinet gymeradwyo "mewn egwyddor" brynu 102 o gartrefi ychwanegol sy'n codi rhai pryderon uniongyrchol am effaith economaidd y pandemig ar y farchnad dai ehangach
  • Mae'r Aelod Cabinet wedi gofyn i Swyddogion gadw ffocws clir ar hynny dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
  • Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod ein rhaglen ddatblygu yn ymwneud â mwy na chyflenwi'r tai sydd eu hangen ond gall hefyd fod yn sbardun allweddol ar gyfer adfywio economaidd a'r cyfeiriad teithio a ddangosir yn yr adroddiad, lle'r ydym yn gweithredu mwy fel datblygwr ein hunain mewn cynlluniau cyffrous yn y dyfodol, megis Trem y Môr a'r Gwaith Nwy.
  • Bydd yr adroddiad nesaf i'r Cabinet ar uchelgeisiau tai - ym mis Medi - yn ymdrin â hyn yn fanylach.
  • Mae’r dirywiad a ragwelir yn ystod cyfnod adfer wedi’r cloi mawr yn golygu ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn gwneud popeth y gallwn i gynyddu’r targed cyfredol o 2,000 cartref a dod o hyd i ffyrdd o symud y rhaglen honno yn ei flaen yn gyflymach.

Gofynnodd yr Aelodau a fyddai'n ddoethach aros i weld tystiolaeth glir na all Wates werthu'r tai cyn i'r Cyngor eu prynu.  Dywedodd yr Aelod Cabinet fod y cartrefi bron yn barod ac nad yw am eu gweld yn wag, ychwanegodd ei bod bron yn sicr y bydd effaith yn sgil Covid-19 gan fod pobl yn poeni am gael morgeisi.  Roedd yr Aelod Cabinet o'r farn ei fod yn gyfle i'r Cyngor ddarparu mwy o gartrefi Cyngor.  Ychwanegodd swyddogion y gallai aros olygu oedi ar y safle, gallai gweithredu nawr symud cynlluniau yn eu blaen, sicrhau bod mwy o gartrefi ar gael, a hyd yn oed gynnig perchentyaeth â chymorth.  Roedd y Swyddogion o'r farn pe na bai safleoedd yn gweithredu byddai effaith negyddol wrth symud ymlaen.   Gofynnodd yr Aelodau a oedd prynu'r tai nawr yn ffordd y gallai'r Cyngor sicrhau’n hawdd ei fod ar y trywydd iawn eto o ran bwrw ei darged i ddarparu cartrefi Cyngor.  Dywedodd yr Arweinydd fod Wates wedi cyflwyno'r cais i'r Cyngor, ac nid fel arall, mae’r Cyngor ar y trywydd iawn o hyd ar gyfer bwrw ei darged i ddarparu’r cartrefi.   Mae perfformiad gwerthu a gwerthiannau ar y farchnad Wates hyd yma yn creu argraff drawiadol, maent yn aml yn gwerthu i drigolion lleol.  Roedd yr Arweinydd o'r farn ei bod yn annheg i'r Swyddogion a'r Weinyddiaeth awgrymu bod hyn yn wir.  

Gofynnodd yr Aelodau pa ystyriaeth a roddwyd i ddefnyddio cadwyni cyflenwi lleol a chynnig prentisiaethau lleol.  Dywedodd yr Aelod Cabinet fod cynnig i adeiladu canolfan hyfforddi symudol ar safle Ysgol Uwchradd Llanrhymni. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol i sefydlu hyn. 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd unrhyw gyfle i ddatblygu unrhyw eiddo ar safleoedd Wates fel Cartrefi Plant.  Dywedodd swyddogion nad yw hyn yn bosibl ar 4 safle Wates ond maent yn edrych ar ystod eang o gyfleoedd i ddarparu ar gyfer pobl ifanc sydd angen lefelau penodol o gymorth neu sydd ag anghenion cymhleth i geisio'u cadw yng Nghaerdydd.  Gallai hyn olygu defnyddio'r stoc bresennol hefyd ar gyfer gofal seibiant, ond bydd adeiladau newydd yn cael eu defnyddio i fodloni anghenion gofal cymdeithasol ar draws Caerdydd.

Nododd yr Aelodau'r cynllun cyflenwi uchelgeisiol iawn ar gyfer cartrefi fforddiadwy a nodon nhw effaith Covid-19 ar gyllidebau, gan ofyn a oedd y cynllun yn gyflawnadwy o hyd.  Dywedodd yr Aelod Cabinet fod angen iddo gyd-fynd â chynllun busnes y cyfrif refeniw tai.  Ychwanegodd swyddogion y gallai greu cyfleoedd mewn rhai ffyrdd, a chafwyd trafodaethau â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ynghylch sut y gallai'r cyllid posibl, gan gynnwys y grant tai cymdeithasol, wneud y defnydd gorau o safleoedd; nid oes unrhyw effaith negyddol ar hyn o bryd ond bydd hyn yn cael ei fonitro; bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno ym mis Medi yn dangos enghreifftiau da o arloesi.

Trafododd yr Aelodau dai 'fforddiadwy' a sut mae rhai pobl yn drysu ynghylch a yw hyn yn golygu rhentu/cyd-berchnogi ac ati ac mae dryswch hefyd yngl?n â meini prawf cymhwyster.  Mewn perthynas â chydberchnogaeth, nodwyd bod y taliadau morgais yn aml yn llai na thaliadau rhent.   Mae angen datblygu'r gwasanaeth ac mae angen mwy o hyrwyddo arno a chyngor i ymgeiswyr.  Ychwanegodd y Swyddogion eu bod, ar y cyfan, yn niwtral o ran daliadaeth, gyda chymysgedd o rent/prynu; cymunedau cymysg ond mae gan y Cyngor elfen o reolaeth.  Trafododd yr Aelodau bwysigrwydd cynnwys pobl sydd am symud i gartrefi llai ar y rhestr o bobl sy’n gymwys a chytunodd y Swyddogion fod angen iddynt lenwi'r bylchau yn y farchnad lle nad yw adeiladwyr cenedlaethol yn gwneud hynny; mae cynlluniau ar waith i dargedu rhoi cartrefi llai i bobl ond dylid ystyried pob cyfle.

CYTUNWYD: i ysgrifennu at Aelodau unigol y Cabinet gyda sylwadau ac argymhellion y Panel ynghyd ag unrhyw argymhellion y maent yn dymuno'u gwneud.