Ystyried rhestr hir o ymgeiswyr ar gyfer swydd Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes.
Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor Penodi ei ymgynnull i ystyried rhestr hir yr ymgeiswyr ar gyfer penodi’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes.
Adolygodd y Pwyllgor dau ddeg un o geisiadau a gyflwynwyd ar gyfer y swydd hon ac ystyriodd sut yr oedd ymgeiswyr yn bodloni’r galluoedd hanfodol o’r Fframwaith Galluoedd Ymddygiadol a’r proffil rôl; a nododd yr ymgeiswyr hynny i fynd ymlaen i’r Ganolfan Asesu.
PENDERFYNWYD: Y bydd ymgeiswyr 4, 10, 12, 13, 14, 16, 17 ac 18 yn cael eu hasesu.
Dogfennau ategol: