(Papurau i ddilyn)
Craffu cyn penderfynu ar yr Adolygiad Polisi cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet.
Cofnodion:
Datganodd y Cynghorydd Bridgeman a Joyce, yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau, fuddiant personol yn yr eitem hon ar y sail eu bod yn Gynghorwyr Ward ar gyfer Llanrhymni. Datganodd y Cynghorydd Dan Naughton fuddiant personol ar y sail ei fod yn Llywodraethwr Awdurdod Lleol yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant.
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet - Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes), Richard Portas (Cyfarwyddwr Rhaglen, Rhaglen Trefniadaeth Ysgol) a Michele Dudridge-Friedl (Rheolwr Gweithredol, Cynllunio a Darpariaeth) i'r cyfarfod.
Gwahoddwyd y Cynghorydd Merry i wneud datganiad lle amlinellodd y cynigion a wnaed gan Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg a dywedodd fod un gwrthwynebiad wedi dod i law.
Cyflwynwyd yr adroddiad a gwahoddwyd yr Aelodau i wneud sylwadau neu ofyn cwestiynau fel a ganlyn:
|
Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth mewn perthynas â'r 15 lle ychwanegol o ganlyniad i drosglwyddo i safle Sant Edeyrn ac fe'u cynghorwyd y byddai'r lleoedd hynny'n cael eu gweinyddu gan y Cyngor yn ystod y cyfnod pontio o 3 blynedd, ac ar ôl hynny byddai'r cyngor yn gyfrifol am weinyddu pob un o'r 30 lle.
|
|
Dywedwyd wrth yr Aelodau y bydd llwybrau cerdded gwell o Lanrhymni i safle'r ysgol newydd yn cael eu gweithredu yn barod ar gyfer agor yr ysgol newydd – Medi 2021 |
CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: