Galluogi’r Aelodau i adolygu Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol.
Cofnodion:
Rhoddodd yr adroddiad hwn gyfle i'r Aelodau adolygu Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol.
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod
Cabinet dros Blant a Theuluoedd), Deborah Driffield (Cyfarwyddwr
Cynorthwyol Dros Dro, Gwasanaethau Plant) ac Angela Harris (Rheolwr
Mabwysiadu Rhanbarthol) i'r cyfarfod. Cyflwynodd Angela Harris ei
hadroddiad.
Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau.
|
Trafododd yr Aelodau nifer y plant, 35, a oedd wedi'u lleoli y tu allan i'r rhanbarth a'r rhesymau dros hynny. Nodwyd bod diffyg mabwysiadwyr o hyd, yn enwedig wrth ymdrin â grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a phlant h?n. Mae hon yn broblem genedlaethol. Nododd yr Aelodau fod angen ymgysylltu'n well â chymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i annog mabwysiadwyr. |
CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: