Eitem Agenda

Brîff Atal a Chymorth Cynnar

Galluogi’r Pwyllgor i roi brîff ar y cynnydd sy’n cael ei wneud yn y gwaith o weithredu’r Gwasanaeth Cymorth ac Atal Cynnar.

 

Cofnodion:

Mae'r eitem yn galluogi Aelodau i gael eu briffio ar y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran gweithredu'r Gwasanaeth Cymorth ac Atal Cynnar.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd), Deborah Driffield (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro, Gwasanaethau Plant) Jane Thomas (Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaethau Oedolion) ac Avril Hooper (Rheolwr Gweithredol, Cymorth Cynnar) i'r cyfarfod. Dangoswyd fideo i'r Aelodau yn manylu ar effaith y Gwasanaeth Cymorth Cynnar.

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau.

 

  •  

Trafododd yr Aelodau fanylion y model newydd; beth sydd wedi newid a beth sydd i'w gyflawni.  Dywedwyd wrth yr Aelodau ei bod yn bwysig datblygu system newydd er mwyn dwyn ynghyd amrywiaeth o ddarpariaeth amlasiantaeth gyda'r nod o leihau effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar lesiant.   Yr hyn a oedd yn peri pryder arbennig oedd mynediad at y gwahanol wasanaethau a’r cyswllt â hwy.   Mae'r model newydd bellach yn rhoi un pwynt cyswllt i deuluoedd drwy ffôn, e-bost, testun neu'r rhyngrwyd ac oddi yno gellir cysylltu â'r tîm cywir.    Dywedwyd wrth yr Aelodau bod adnoddau digonol ar gael a bod y llwyth achosion yn cael ei reoli.   Ar hyn o bryd mae targedau ar gyfer y galwadau a dderbynnir, maent hefyd yn cael eu monitro at ddibenion hyfforddi.   Nid oes unrhyw dargedau ar gyfer ymyrryd, fodd bynnag, bydd fframwaith ansawdd.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.

 

 

Dogfennau ategol: