English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Cynnig 1

Cynigiwyd gan:                       Y Cynghorydd Rhys Taylor

 

Eiliwyd gan:     Y Cynghorydd Joe Boyle

 

 

Mae'r Cyngor hwn:

 

1.     Yn croesawu’r ffaith i’r weinyddiaeth gyfredol ddatgan argyfwng hinsawdd ym mis Mawrth 2019, gan nodi bod tystiolaeth yn dangos effaith newid yn yr hinsawdd a achosir gan fodau dynol.

 

2.     Yn derbyn canfyddiadau datganiad proffesiynol ‘Asesiad carbon bywyd cyfan ar gyfer yr amgylchedd wedi’i adeiladu’ y Sefydliad Brenhinol y Syrfëwyr Siartredig 2017 bod yr ynni sy’n cael ei ddefnyddio i weithredu adeiladau cyfredol yn cynrychioli’r effaith carbon fwyaf sylweddol o’r amgylchedd wedi’i adeiladu, gan gyfrannu 30% o allyriadau cyfan y DU yn 2017.

 

3.     Yn cydnabod, bod, yng ngeiriau Cyngor Adeiladau Gwyrdd y DU [UK GBC], ‘the UK building industry currently rarely measures or reports on embodied carbon impacts for the maintenance, repair, refurbishment and end-of-life stages of a building’s lifecycle.’

 

4.     Yn credu bod gan awdurdodau lleol rôl allweddol i’w chwarae i sicrhau bod rhaid i brojectau adeiladu mawr, y mae ganddynt fudd ynddynt, ystyried a lleihau’r holl effeithiau carbon sy’n dod o’r projectau hynny.

 

5.     Yn gwrthod, yng ngoleuni ei Argyfwng Hinsawdd a ddatganwyd, cyfiawnhau, cymeradwyo neu symud ymlaen brojectau adeiladu mawr na allant brofi y byddant yn brojectau sero carbon o ran defnyddio ynni gweithredol ac adeiladu.

 

Felly bydd y Cyngor hwn:

 

·       Yn mabwysiadu diffiniad fframwaith Adeiladau Sero Carbon Net Cyngor Adeiladau Gwyrdd y DU, fel y mae yn awr ac fel y bydd yn y dyfodol, gan atodi’r fframwaith i gynllun datblygu, polisiau allweddol a chanllaw cynllunio’r Cyngor, fel sy’n berthnasol.

 

·       Yn gofyn bod yr holl brojectau adeiladu mawr yn dangos eu bod wedi cyflawni statws carbon sero net, trwy roi fframwaith Adeiladau Sero Carbon Net UKGBC, cyn cael cymeradwyaeth y cabinet.

 

·       Yn cofrestru ar gyfer Ymrwymiad Adeiladau Sero Carbon Net Cyngor Adeiladau Gwyrdd y Byd, sy’n ‘herio cwmniau, dinasoedd, gwladwriaethau a rhanbarthau llofnodol i gyflawni carbon sero net ar gyfer ynnig gweithredol yn eu portffolios erbyn 2030, ac i eirioli i’r holl adeiladau fod yn rhai sero net wrth weithredu erbyn 2050.’

 

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.