Mae’r adroddiad hwn yn galluogi’r Pwyllgor i gael eu briffio ar y cynnydd a wneir o ran datblygu’r Cwricwlwm Newydd yng Nghaerdydd.
Cofnodion:
Nododd yr Aelodau fod y cwricwlwm newydd i Gymru yn broject helaeth gyda dyddiad gweithredu o 2022. Y briff a ddarparwyd oedd i alluogi'r Pwyllgor i ddeall y llinell amser sydd ar waith er mwyn sicrhau y caiff ei chyflwyno'n effeithiol yn 2022.
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Diprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) Mike Tate (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Natalie Gould o’r Consortiwm i’r cyfarfod.
Rhoddwyd cyflwyniad i'r aelodau - Addysg yng Nghymru: Ein Cenhadaeth Genedlaethol. Rhoddodd Natalie Gould wybodaeth i'r Aelodau ynghylch ble y dylai ysgolion fod ar y pwynt hwn, beth mae'r consortia yn gwneud i gefnogi ysgolion a sut y gall y system wneud ysgolion a'r haen ganol yn atebol am eu cyflawniadau. Roedd cryn dipyn o waith yn cael ei wneud ar draws y gwahanol ddiwygiadau:
|
Y dull cenedlaethol o ddysgu proffesiynol a'r ffaith bod strategaeth genedlaethol a rhanbarthol ond nododd y gallai'r strategaeth edrych yn wahanol yn dibynnu ar ble mae'r ysgol ar ei thaith.
|
|
Y camau sy'n cael eu cymryd i gynyddu dysgu ysgol i ysgol, ysgolion clwstwr, grwpiau gwella ysgolion ac ymarferwyr arweiniol. Nodwyd hefyd bod cefnogaeth broceru i ysgolion penodol.
|
|
Gan gyfeirio'n benodol at ddiwygio ADY a'r ffocws ar degwch a lles ceir model hyfforddi, mae hyn yn cynnwys hyfforddi hyrwyddwr mewn clwstwr sydd wedyn yn lledaenu'r wybodaeth. Mae gwaith yn cael ei wneud ar y polisïau a'r prosesau, ond efallai y bydd angen ei adolygu gan gadw mewn cof y newidiadau i'r graddfeydd amser.
|
|
Cafodd y broses o ddiwygio Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ei hadfywio a'i diwygio a chafodd ei lansio ym mis Medi. Mae darparwyr newydd a bydd tri arall y flwyddyn nesaf. Erbyn hyn mae 11 o ysgolion yn gweithio gyda phartneriaid AGA.
|
|
Mae'r Academi Genedlaethol dros Arweinyddiaeth Addysg wedi cael ei sefydlu, erbyn hyn mae rhaglenni ar gyfer penaethiaid newydd a dros dro.
|
|
Y cwricwlwm newydd yw’r rhan o'r diwygiadau y mae pobl yn canolbwyntio arnynt. Mae newidiadau wedi eu gwneud yn barod a bydd y ddogfen yn edrych yn wahanol iawn i'r un a ryddhawyd yn y crynodeb. Y dyddiad targed ar gyfer rhyddhau yw mis Ionawr 2020 o hyd.
|
Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau i ofyn cwestiynau:
|
Soniodd yr Aelodau am faint o waith sydd angen ei wneud ac roeddent yn pryderu am y pwysau ychwanegol a fyddai'n dod, yn sgil gweithredu'r holl bolisïau newydd hyn, i ysgolion a oedd eisoes yn tangyflawni. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod angen cynllunio'r newidiadau ond bod angen sylweddoli beth yw'r pwysau ar y pryd. Mae dal yn rhaid i athrawon ymgymryd â'r gwaith bob dydd. Mae'n ymwneud â chapasiti. Mae gwaith ysgol i ysgol yn wirfoddol ac mae'n bwysig bod ysgolion yn ymgysylltu ar yr adeg iawn.
Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y Consortia ond yn gofyn i athrawon baratoi eu hysgol ar gyfer newid. Bydd hyfforddiant a chefnogaeth.
|
|
Holodd yr Aelodau am Ysgolion Arloesi ac roeddent yn pryderu bod gan yr ysgolion hynny fantais dros ysgolion eraill. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod ysgolion yn cael cyllid i helpu. Mae angen disgwyliadau sylfaenol ar gyfer yr ysgolion. Mae angen i bob un ohonynt fod ar bwynt penodol ar adeg benodol.
Gofynnodd yr Aelodau hefyd a oedd yr arloeswyr hynny yn drawstoriad cynrychioliadol. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod yna broses ddethol a bod amrywiaeth o ysgolion yn cymryd rhan. I ddechrau roedd ysgolion cynradd, uwchradd, cyfrwng Cymraeg a ffydd yn cymryd rhan, er bod rhai wedi rhoi'r gorau iddi felly mae'n bosibl y bu rhai newidiadau.
|
|
Roedd yr Aelodau o'r farn bod saith o'r naw o ddiwygiadau y cyfeiriwyd atynt yn ymwneud â datblygiad proffesiynol, a dim ond cwpl o flynyddoedd yn ôl oedd yn cael eu gweithredu. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y bydd drafft terfynol y cwricwlwm yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr a fydd yn nodi meysydd dysgu, ac y bydd y canllawiau'n cael eu cynnwys yn y ddogfen honno. Dysgu proffesiynol yw'r galluogwr ar gyfer y newidiadau. Bydd cerrig milltir ar gyfer ysgolion a bellach mae fframwaith newydd Estyn yn gweithio.
Bydd gan y cwricwlwm rywfaint o fanylion a deddfwriaeth ond bydd y cynllunio ar gyfer y cwricwlwm ar lefel yr ysgol i raddau helaeth.
Yr oedd rhywfaint o bryder ein bod yn colli golwg ar yr hyn sy'n bwysig, sef plant sy'n cael addysg dda. Deellir bod athrawon yn credu bod y cwricwlwm newydd yn ymwneud ag addysgu yn hytrach na chael gwybod beth i'w addysgu. Mae'r cwricwlwm yn seiliedig ar ragoriaeth ac ar gydraddoldeb i blant.
|
|
Cododd yr Aelodau fater capasiti a gofyn am gyfraniad Llywodraethwyr Ysgolion. Nodwyd y bydd hyfforddiant ar gael i Lywodraethwyr a bod eu cefnogaeth yn hanfodol.
|
|
Dywedwyd wrth yr Aelodau bod rôl yr Ymgynghorydd Her yn datblygu ac yn cael ei hadolygu'n barhaus. |
CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: