Cytunodd y Cyngor, yn ei gyfarfod blynyddol ar 23 Mai 2019, ar y Cylch Gorchwyl canlynol:
(a) Hyrwyddo cyfleoedd bywyd a hawliau Plant sy’n Derbyn Gofal; Plant mewn angen; Pobl sy’n Gadael Gofal a phlant a phobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol ar draws y Cyngor, gydag Aelodau Etholedig a phartneriaid.
(b) Hyrwyddo’n weithredol gwelliannau go iawn a gynhelir trwy sicrhau bod mecanweithiau ar waith i:
(c) Llunio a chyflawni rhaglen o ddigwyddiadau ymgynghori, gwrando ac ymgysylltu gyda Phlant sy'n Derbyn Gofal, Plant mewn Angen a Phobl sy'n Gadael Gofal, yn ogystal ag ymweliadau i wasanaethau sy’n cynnig cyngor a chymorth i’r plant a’r bobl ifanc hynny.
(d) Argymell ffyrdd y gellir datblygu gwasanaethau mwy integredig ym mhob un o Gyfarwyddiaethau'r Cyngor, ysgolion a rhanddeiliaid eraill â’r nod o sicrhau
· Cyrhaeddiad a chyflawniad addysgol gwell i Blant sy’n Derbyn Gofal, Plant mewn Angen a Phobl sy'n Gadael Gofal;
· Cymorth Emosiynol, Iechyd Meddwl a Llesiant i Blant sy’n Derbyn Gofal, Plant mewn Angen a Phobl sy'n Gadael Gofal;
· Gwella gwasanaethau ar gyfer plant sydd ag anableddau
· Annog Plant sy'n Derbyn Gofal, Plant mewn Angen a Phobl sy'n Gadael Gofal i ddod yn ddinasyddion actif.
(e) Sicrhau bod systemau monitro perfformiad ar waith, ac adolygu data perfformiad yn rheolaidd i sicrhau gwelliannau cyson o ran cyflawniadau;
(f) Meincnodi a dysgu gan arfer gorau Awdurdodau Lleol eraill
(g) Derbyn yr holl adroddiadau archwilio a blynyddol perthnasol y Gwasanaethau Plant, gan gynnwys: Adroddiad Safonau Gofal Cartrefi Plant; Themâu Adolygiadau Ymarferion Plant, Adroddiad Blynyddol Ansawdd Gofal Maethu; Adroddiad Blynyddol Ansawdd Gofal Mabwysiadu a Maethu; Comisiynu 4C; Adroddiad Blynyddol y Tu Allan i’r Ardal; Adroddiad Addysg; adroddiadau Cwynion gan Blant; a’r Adroddiad Blynyddol ar Eiriolaeth;
(h) Llunio, monitro ac adolygu strategaeth rhianta corfforaethol, a sicrhau y caiff honno ei rhoi ar waith yn effeithiol drwy gynlluniau gwaith a rhaglenni hyfforddiant rhianta corfforaethol.
(i) Cyflwyno adroddiad blynyddol ar gynnydd i’r Cabinet a gwneud argymhellion i’r Cabinet pan fo’r cyfrifoldeb am y swyddogaeth honno yn nwylo'r Cabinet;
(j) Adrodd i’r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn ôl yr angen;
(k) Argymell penodi aelodau cyfetholedig i'r Pwyllgor i'w cymeradwyo gan y Cyngor;
(l) Cyflwyno Adroddiad Blynyddol ar waith y Pwyllgor i’r Cyngor Llawn.
(m) Bydd gofyn i bob Aelod o’r Pwyllgor ddilyn hyfforddiant perthnasol i’w galluogi nhw i gyflawni eu dyletswyddau’n iawn.