Craffu ar, mesur a hybu gwelliant ym mherfformiad y Cyngor wrth ddarparu gwasanaethau a chydymffurfio â pholisïau, nodau ac amcanion y Cyngor ym maes gwasanaethau cymunedol ac oedolion, gan gynnwys:
· Tai Cyhoeddus a Phreifat
· Grant Cyfleusterau i’r Anabl
· Diogelwch Cymunedol
· Adnewyddu Cymdogaethau a Chymunedau Nesaf
· Cyngor a Budd-daliadau
· Amddiffyn Defnyddwyr
· Strategaeth Pobl H?n
· Gofal Cymdeithasol i Oedolion
· Gwasanaethau Gofal Cymunedol
· Iechyd Meddwl ac Anableddau Corfforol
· Strategaeth Comisiynu
· Partneriaeth Iechyd
Asesu effaith ein partneriaethau â sefydliadau allanol, adnoddau a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau llywodraeth leol ar y cyd, Cyrff Cyhoeddus dan Nawdd Llywodraeth Cymru a chyrff lled-adrannol anllywodraethol a gwasanaethau iechyd ar effeithiolrwydd gwasanaethau’r Cyngor.
Adrodd y canfyddiadau yn y cyfarfod Cabinet neu Gyngor perthnasol a rhoi argymhellion ynghylch mesurau a all wella perfformiad y Cyngor a’i wasanaethau yn y maes.
Gweithredu fel Pwyllgor Trosedd ac Anrhefn y Cyngor yn ôl Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 ac unrhyw ailddeddfiad neu ddiwygiad ohoni; ac fel dirprwy i'r Cyngor, arfer ei bwerau a'i swyddogaethau a ganiateir dan y Ddeddf.