Craffu, mesur a hybu gwelliant ym mherfformiad y Cyngor wrth ddarparu gwasanaethau a chydymffurfio â pholisïau, nodau ac amcanion y Cyngor ym maes adfywio economaidd.
· Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
· Mewnfuddsoddiad a marchnata Caerdydd
· Strategaeth Economaidd a Chyflogaeth
· Cyllid Ewropeaidd a Buddsoddiad
· Cymorth i Fentrau Bychan i Ganolig
· Awdurdod Harbwr Caerdydd
· Dysgu Gydol Oes
· Canolfannau Hamdden
· Datblygu Chwaraeon
· Parciau a Mannau Gwyrdd
· Llyfrgelloedd, y Celfyddydau a Diwylliant
· Adeiladau Dinesig
· Digwyddiadau a Thwristiaeth
· Projectau Strategol
· Arloesedd a Chanolfannau Technoleg
· Hyfforddiant Lleol a Menter
Asesu effaith ein partneriaethau â sefydliadau allanol, adnoddau a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau llywodraeth leol ar y cyd, Cyrff Cyhoeddus dan Nawdd Llywodraeth Cymru a chyrff lled-adrannol anllywodraethol ar effeithiolrwydd gwasanaethau’r Cyngor.
Adrodd y canfyddiadau yn y cyfarfod Cabinet neu Gyngor perthnasol a rhoi argymhellion ynghylch mesurau a all wella perfformiad y Cyngor a’i wasanaethau yn y maes.