(a)
Y swyddogaethau a restrir yn
Adrannau B a C a pharagraff 10 Adran I Atodiad 1 Rheoliadau
(Trefniadau Gweithredol) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau)
Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007 (y Rheoliadau), unrhyw ddiwygiadau
i'r rhain ac unrhyw faterion cysylltiedig fel y diffinnir yn
Rheoliadau 3 (2) i (4) y Rheoliadau ac eithrio hyd nes y bydd
materion felly’n dod at sylw’r Pwyllgor Trwyddedu trwy
Adran 7 Deddf Drwyddedu 2003 neu Ddeddf Gamblo 2005.
(b)
Mewn perthynas
â’r swyddogaethau hyn, bod yn Bwyllgor Apêl pan
fo’n addas.
(c)
Rhyddhau unrhyw swyddogaeth
sy’n berthnasol i reoli llygredd neu reoli ansawdd yr
aer.
(d)
Pasio penderfyniad y dylai
Atodiad 2 Deddf S?n a Niwsans Statudol 1993 fod yn berthnasol i
ardal yr Awdurdod.
(e)
Unrhyw swyddogaeth
sy’n berthnasol i dir wedi ei heintio.
(f)
Cyflwyno hysbysiad diddymu
s?n o ran niwsans statudol.
(g)
Unrhyw swyddogaeth dan
ddeddf leol â naws trwyddedu neu reoleiddio.
(h) Unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â gwneud Gorchymyn Yfed Alcohol Mewn Mannau Cyhoeddus Dynodedig dan ddarpariaethau Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001.