Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Iona Gordon
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Owen Jones
Mae’r Cyngor hwn yn nodi ‘Adroddiad Arbennig ar Gynhesu Byd-eang o 1.5°C’ y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2018, a ddaeth i’r casgliadau canlynol:
· Cyrhaeddodd cynhesu byd-eang gan fodau dynol tua 1°C yn uwch na lefelau cyn y Chwyldro Diwydiannol yn 2017, gan gynyddu 0.2°C y degawd.
· Bydd cynnydd o 1.5°C yn arwain at effeithio negyddol lluosog, gan gynnwys cynnydd yn amlder, dwysedd a/neu swm dynodiad trwm mewn sawl rhanbarth, a bydd y rhan fwyaf (70-90%) o greigresi gwrel d?r twym (trofannol sy’n bodoli heddiw yn diflannu.
· Bydd cynnydd o 2°C yn arwain at lawer mwy o niwed, gan gynnwys risg mwy o brinder d?r mewn rhai rhanbarthau a digwyddiadau tywydd, sychderau, llifogydd difrifol mwy aml, lefelau’r môr yn codi, cnydau’n methu a thir ac ecosystemau morol yn cael eu difrodi.
· Gyda strategaethau cyfredol, mae’r byd ar y trywydd iawn i fynd y tu hwnt i gyfyngiad o 1.5°C Confensiwn Fframwaith y CU ar Gytundeb Newid yn yr Hinsawdd Paris erbyn 2050 ac yn mynd y tu hwnt i 3°C erbyn 2100.
· Gallai fod yn bosibl cyfyngu ar gynhesu byd-eang i 1.5°C o hyd gyda chamau gweithredu uchelgeisiol gan awdurdodau cenedlaethol ac is-genedlaethol, y gymdeithas ddinesig y sector preifat, pobl frodorol a chymunedau lleol.
Mae’r Cyngor yn nodi ymhellach:
· yr ymrwymiad i symud ystod eang o brojectau ymlaen i ategu’r Strategaeth Leihau Carbon gyfredol, sy’n cynnwys:
- cynllun hydro-drydanol Cored Radur;
- fferm haul arfaethedig Ffordd Lamby;
- y cynllun rhwydwaith cynhesu ardaloedd sy’n gwasanaethu Bae Caerdydd a Chanol y Ddinas;
- mentrau arbed ynni, gan gynnwys troi goleuadau stryd i oleuadau LED;
- defnydd mwy o gerbydau electrig (e.e. bysus, tacsi a cherbydau’r Cyngor) a gosod mannau gwefru o fewn y ddinas;
- yr ymrwymiad i gyflawni rhaniad moddol 50:50 rhwng ceir a dulliau cynaliadwy o deithio ar gyfer teithiau i’r gwaith erbyn 2026;
- adeiladu cartrefi cyngor newydd sy’n effeithlon o ran ynni; a
- yr ymrwymiad i weithio gyda’r Pwyllgor Pensiwn i ystyried cael buddsoddiadau’r Cyngor gan gwmnïau tanwydd ffosiledig.
· y buddsoddiad £13.9m mewn creu ynni cynaliadwy a glan a oedd yn rhan o gyllideb 2019/20 a gytunwyd ar 28 Chwefror 2019.
· rhan plant a phobl ifanc o Gaerdydd a ledled y byd mewn arddangosiadau i fynnu camau gweithredu byd-eang ar newid yn yr hinsawdd gan lywodraethau cenedlaethol.
· y gall camau gweithredu mentrus i leihau allyriadau carbon greu buddion economaidd o ran swyddi newydd, arbedion economaidd a chyfleoedd marchnad, a gallant gyfrannu at gyflawni’r Nodau Llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae’r Cyngor hwn felly yn penderfynu:
1. ymuno â chynghorau eraill ledled y DU i ddatgan ‘argyfwng hinsawdd’ byd-eang mewn ymateb i ganfyddiadau adroddiad IPCC.
2. cefnogi’r gwaith o weithredu Cynllun Cyflawni Carbon Isel newydd Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag ystod o fesurau i leihau allyriadau carbon o weithrediadau’r Cyngor ei hun, i helpu i gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru i’r sector cyhoeddus yng Nghymru i fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030.
3. gwneud sylwadau i Lywodraethau Cymru a'r DU, fel sy'n briodol, i roi pwerau, adnoddau a chymorth technegol sydd eu hangen i awdurdodau lleol yng Nghymru i’w helpu i fwrw targed 2030 yn llwyddiannus.
4. parhau i weithio gyda phartneriaid ledled y ddinas a’r rhanbarth i ddatblygu a gweithredu dulliau arfer gorau a all sicrhau bod carbon yn cael ei leihau a helpu i gyfyngu ar gynhesu byd-eang.