Craffu cyn penderfynu ar y cynigion i bennu Trefniadau Derbyn i Ysgolion ar gyfer 2020/2021
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Michele Duddridge Hossain (Rheolwr Gweithredu Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion) i’r cyfarfod.
Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Merry wneud datganiad. Adroddiad blynyddol i'r Cabinet oedd hwn, ac mae'r trefniadau'n mynd allan ar gyfer ymgynghoriad bob blwyddyn. Cydnabuwyd yn flaenorol y bu twf yn nifer y disgyblion, ac o ganlyniad, roedd adolygiad wedi'i gynnal o feini prawf derbyn yr ysgol. Ar hyn o bryd, mae polisi derbyn cydgysylltiedig yn cael ei weithredu, er nad yw tair ysgol yn yr ardal yn cymryd rhan. Byddai o fudd i bawb pe bai pob ysgol yn cymryd rhan.
Gwahoddwyd y Pwyllgor i wneud sylwadau, gofyn am eglurhad neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:
|
Holodd yr Aelodau ynghylch nifer y dewisiadau sydd ar gael i rieni mewn ysgolion ar y ffurflen gais. Nodwyd y gall rhieni roi hyd at 5 dewis, tra bod cynnydd yn nifer y rhieni sy'n dewis yn cofnodi bod rhai yn dal yn afrealistig yngl?n â'u dewisiadau. Mae'r arweiniad ar gwblhau wedi gwella fodd bynnag, derbynnir bod angen mwy o gefnogaeth mewn rhai meysydd wrth symud ymlaen.
|
|
Cododd Aelodau fater ansawdd y cyfieithiad Cymraeg ar y system ymgeisio ar-lein ac fe'u cynghorwyd bod llawer o waith wedi'i wneud yn awr i ansawdd y cyfieithiad mewnol ac mae hefyd wedi cael ei godi gyda Capita, un o'r enghreifftiau o'r newidiadau a wnaed yw yn hytrach na Ie neu nage, mae opsiynau ticio neu nodi croes yn cael eu defnyddio bellach i osgoi dryswch.
|
|
Codwyd pryderon ynghylch y dull ymgynghori; mae'n anodd i bobl ddeall yn union beth yw testun yr ymgynghori. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod yna her wirioneddol o ran y dewisiadau go iawn ac na ellir gwneud diwygiadau heb ymgynghori yn eu cylch. Mae problem bob amser o ran gwneud yr ymgynghoriad yn glir ac yn ddealladwy. Holodd yr Aelodau a fyddai'r newidiadau yn cael eu hamlygu yn yr ymgynghoriad ar wahân er mwyn galluogi'r cyhoedd i weld y newidiadau'n glir, yn enwedig os oedd y newidiadau arfaethedig yn fach.
|
· |
Bu'r Aelodau'n trafod niferoedd derbyn, dewis ysgolion, gwahanu a'r angen i adolygu'r polisi derbyn. Nododd yr Aelodau y bydd rhieni'n gwneud penderfyniadau gwahanol wrth wneud cais am ysgol. Mae angen ceisio delio â'r materion sy'n sbarduno pryder ymysg rhieni. Bydd yn rhaid i ddalgylchoedd ardal gael eu hystyried maes o law o gofio am ehangu lleoedd. |
CYTUNWYD: Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: