Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Carter
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Wood
Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod bod lleihau allyriadau
carbon o gartrefi yn creu buddion ariannol i’r meddianwyr a
buddion amgylcheddol i’r gymdeithas.
Mae’r
Cyngor hwn yn nodi:
· Targed Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau nwyon t? gwydr gan o leiaf 80% erbyn 2050, yn erbyn gwaelodlin 1990.
· Mae adeiladau preswyl yn creu 7.5% o allyriadau Cymru.
· Mae 23% o gartrefi Cymru mewn tlodi nwy.
· Llwyddiant sefydliadau megis Prifysgol Caerdydd i ddangos y gellir adeiladu cartrefi dim carbon ar gost isel.
Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i:-
1. Ymrwymo i sicrhau bod tai cyngor a adeiladir ar ôl 2022 yn rhai dim carbon gyda chyflenwadau glan o ynni ac effeithlonrwydd ynni uchel wedi’i gynnwys yn y dyluniadau o’r dechrau.
2. Datblygu Canllaw Cynllunio Atodol i gynyddu nifer y cartrefi preifat a adeiladir at safonau dim carbon.
Dogfennau ategol: