Eitem Agenda

CTY 21ain Ganrif (Band B) – Ailddatblygu Ysgolion Cantonian, Woodlands a Riverbank

Adroddiad Cabinet Drafft - i ddilyn

 

Ystyried ac adolygu'r wybodaeth a’r argymhellion yn yr adroddiad drafft.

 

Cofnodion:

Dychwelodd y Cynghorydd Bridgeman yn ôl i’r Gadair.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet, Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Janine Nightingale (Sefydliad Penaethiaid Ysgol, Mynediad a Chynllunio) a Michele Duddridge-Hossain (Rheolwr Gweithredol, Cynllunio a Darpariaeth) i’r cyfarfod.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Merry i wneud datganiad a dywedodd fod Ysgol Uwchradd Cantonian yn un o’r cynlluniau Banc B o ganlyniad i gyflwr yr adeilad a’r gofyniad am ragor o lefydd ysgol yng nghanol y ddinas a gan nad yw'r adeiladau yn Riverside a Woodlands bellach yn addas.  Felly mae’n angenrheidiol bod yr ymgynghoriad yn digwydd er mwyn ystyrid ail-godi ac ehangu Ysgol Uwchradd Cantonian, ehangu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn y safle ac adleoli Ysgol Arbennig Woodlands ac Ysgol Arbennig Riverbank i’r safle hwnnw.

 

Gwahoddwyd Aelodau i roi sylwadau, gofyn am eglurhad pellach neu holi cwestiynau ynghylch y cyflwyniad.  Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

  •  

Trafododd Aelodau’r trefniadau dros dro ar gyfer adeiladu’r ysgolion newydd a chawsant wybod y bydd yr ysgol bresennol yn aros ac y caiff Ysgol Uwchradd Cantonian ei chodi ar y safle; caiff yr ysgol newydd ei chodi yn y cefn.  Yna, câi'r hen ysgol ei dymchwel.  

 

Clywyd y byddai cynllun trafnidiaeth manwl o ystyried nifer yr ysgolion ar y safle. Rhoddodd swyddogion wybod mai oherwydd nad oes modd galw’r safle yn Cantonian y’i gelwir yn Doyle Avenue, a bydd y cynllun yn cynnwys gwybodaeth ynghylch pa fynediad sydd orau ar gyfer pob ysgol ar y safle.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet ar ran y Pwyllgor yn mynegi eu sylwadau a’u harsylwadau a wnaethant yn ystod y drafodaeth ar y ffordd ymlaen.

Dogfennau ategol: