Derbyn Ymateb y Cabinet ar adroddiad ymchwiliad y Pwyllgor.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd), Claire Marchant (Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Deborah Driffield (Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaethau’r Plant) i’r cyfarfod.
Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Hinchey i wneud datganiad lle cadarnhaodd bod 11 o’r 19 argymhelliad a nodir yn yr adroddiad yn cael eu cydnabod yn llawn, rhai yn rhannol ac un yn unig yn cael ei wrthod. Y sefyllfa bresennol yw y bydd 5 cartref gofal i blant yn y flwyddyn nesaf. Mae angen gwahanol fathau o lety, mae’r rhain yn fath cartref teulu bychan, gyda 2-3 ystafell wely.
Gwahoddwyd Aelodau i roi sylwadau, gofyn am eglurhad pellach neu holi cwestiynau ynghylch yr adroddiad. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:
|
Clywodd Aelodau fod strategaeth comisiynu lleoliadau yn cael eu datblygu, sy’n trafod datblygu cynllun gofal cywir trwy sicrhau bod y gwasanaeth a gomisiynir yn paru â’r canlyniad ar gyfer y person ifanc yn hytrach na chydymffurfio â'r ddarpariaeth bresennol sydd ar gael. Er bod swyddogion yn derbyn bod gorwariant sylweddol, mae rhan fwyaf o hyn yn gysylltiedig â lleoliad; cafodd Aelodau wybod ei bod yn bwysig cael yr ystod gwasanaethau yn gywir wrth symud ymlaen.
|
|
Pwysleisiodd Aelodau ar bwysigrwydd sicrhau bod y dull gweithredu hwn ar sail nerthoedd yn cael ei sefydlu gyda’n partneriaid, er enghraifft yr Heddlu a’r Gwasanaeth Prawf ac y dylid ei gadw dan arolwg. |
CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet ar ran y Pwyllgor yn mynegi eu sylwadau a’u harsylwadau a wnaethant yn ystod y drafodaeth ar y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: