Eitem Agenda

Gwasanaeth Mabwysiadu Cydweithredol y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd – Adroddiad Blynyddol

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Mabwysiadu Cydweithredol y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd ar gyfer 2017/18 er mwyn ei ystyried a sylwadau.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd), Angela Harris (Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol), Claire Marchant (Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Deborah Driffield (Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaethau’r Plant) i’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd Angela Harris yr adroddiad a dywedodd wrth Aelodau mai hwn oedd y trydydd adroddiad blynyddol, sy’n trafod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018. Comisiynwyd Adolygiad Gwerth Gorau ac adroddwyd arno.  Dywedwyd bod rhan fwyaf y camau gweithredu a gododd o’r argymhellion wedi eu gwneud, ond mae rhai eisoes yn aros. O ran yr argymhellion fel canlyniad yr adolygiad, mae ystod y mesurau wedi cynyddu bob blwyddyn, sydd wedi codi angen am gofnodi mwy cyflawn.  

 

Gwahoddwyd Aelodau i roi sylwadau, gofyn am eglurhad pellach neu holi cwestiynau ynghylch yr adroddiad.  Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

  •  

Trafododd Aelodau ôl troed daearyddol ychydig yn anarferol Cydweithrediad Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, yn arbennig gan ei fod nawr yn y Barri.  Hwn oedd y mwyaf o bum cydweithrediad rhanbarthol, ond gellid cynnig rhagor o wybodaeth yn crynhoi’r rheswm dros ôl troed rhanbarth y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd.

 

  •  

Ceisiodd Aelodau ragor o wybodaeth am y swydd Cydlynydd Marchnata a Recriwtio a chawsant wybod bod y swydd wedi ei chreu er mwyn helpu i dracio a thrin yr ymholiadau, gyda'r nod o gynyddu’r nifer a ddaw yn geisiadau.  Roedd Aelodau’n bryderus o ddeall mai contract tymor penodedig yw hwn, ond mae cynnydd eisoes o ran y modd proffesiynol ac amserol y caiff hyn ei drin. Mae'n bwysig sicrhau, fodd bynnag, bod y broses yn drylwyr, yn dilyn yr ymholiad cyntaf. 

 

  •  

Cyfeiriodd Aelodau at y rhwystredigaeth ynghlwm â’r problemau ariannol a staffio pan gyflwynwyd adroddiad blaenorol a gofynnont a fu gwelliant o ran y materion hyn.  Dywedodd y Rheolwr bod yr Adolygiad Arfer Gorau wedi ei gomisiynu o ganlyniad i waith a wnaed i ystyried capasiti’r gwasanaeth; nid oedd yr adnodd yn ateb y galw. Clywodd Aelodau bod dwy swydd Gweithiwr Cymdeithasol wedi eu creu ers yr adolygiad. Er y bu trosiant staff mawr yn ddiweddar, nid yw'r adnodd ychwanegol wedi ei werthfawrogi'n llawn; fodd bynnag, mae'r Tîm Gwasanaeth Mabwysiadu yn fwy sefydlog oherwydd yr adnodd ychwanegol ac yn gallu ymdopi’n well â’r galw yn ogystal â gostwng rhestrau aros. 

 

Dywedodd Swyddogion ei bod yn hanfodol cadw’r capasiti dan arolwg o ran recriwtio mabwysiadwyr a chymorth mabwysiadu.  

 

  •  

Holodd Aelodau ynghylch hyblygrwydd yr hyfforddiant a roddir i fabwysiadwyr posibl a chawsant wybod ei bod yn bwysig denu ystod ehangach o fabwysiadwyr posibl.  Mae’r hyfforddiant yn gwrs tridiau, ond mae un arall undydd wedi ei ychwanegu oherwydd y gwahaniaeth amser rhwng y cwrs a’r proses.  Cynigir y cwrs dros benwythnos er mwyn ceisio helpu teuluoedd sy’n gweithio.  Mae cynlluniau i newid y rheoliadau yng Nghymru y flwyddyn nesaf er mwyn gwneud hon yn broses dau gam, sef deufis ar gyfer yr ymholiad, hyfforddiant a phrofion ac yna pedwar mis ar gyfer asesu.

 

  •  

Gofynnodd Aelodau a yw rhieni geni yn dod yn fwy o ran o’r broses a chawsant wybod bod hyn yn dal i fod yn her yn lleol ac yn genedlaethol.  Caiff pob plentyn ei ddyrannu i gyrchwr teulu a fydd yn rhoi cwnsela i’r rhieni geni, anfon llythyrau dienw a mynd i gartref y rhieni geni.  Bydd y tîm yn profi amryw ffyrdd o gyrraedd rhieni a allant fod yn teimlo'n drwm trwy'r broses.  Yn aml, bydd rhieni'n cysylltu â’r tîm wedi cwblhau proses yr achos llys.

 

  •  

Deallodd Aelodau er bod yn rhaid derbyn bod rhai lleoliadau wedi mynd i’r wal, mae’r nifer yn gymharol isel ac yn gymharol isel yn genedlaethol hefyd.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Angela Harris (Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol) ar ran y Pwyllgor er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau yn ystod y drafodaeth ar y ffordd ymlaen.

Dogfennau ategol: