Penderfyniad:
Ni chaiff Atodiadau 1-6 yr adroddiad hwn eu cyhoeddi oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir fel y disgrifir ym mharagraffau 14 a 21 Rhestr 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1. nodi cynnydd wrth sicrhau lleoliad dewis y Cyngor ar gyfer gweithredu’r project Arena Dan Do newydd.
2. Cytuno y caiff costau diwydrwydd dyladwy’r Cyngor eu talu a derbyn y costau cyn datblygu yr aiff y Datblygwr a'r Tirfeddiannwr iddynt fel yr amcanir yn Atodiad Cyfrinachol 4 yn unol â’r cap ariannol a nodir hefyd yn Atodiad Cyfrinachol 4.
3. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r Swyddog Adran 51 i drin pob agwedd ar gaffael cynghorwyr annibynnol fel y nodir yn Atodiad Cyfrinachol 4.
4. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, yr Aelod Cabinet dros Foderneiddio Cyllid a Pherfformiad a’r Swyddog Adran 151 i archwilio’r dull ariannol gorau o weithredu’r project a chyflwyno manylion yn ôl i'r Cabinet fel rhan o achos busnes yr arena a’r strategaeth darparu ym mis Mawrth 2019.
Dogfennau ategol: