Eitem Agenda

Hysbysiad o Gynnig 1

Cynigiwyd gan:                       Y Cynghorydd Rodney Berman

 

Eiliwyd gan:                 Y Cynghorydd Emma Sandrey

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

 

1.            Mai diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) o ordewdra ydy gormodedd o fraster yn y corff, sy'n peri perygl o nifer o afiechydon cronig (yn cynnwys y clefyd siwgr, afiechydon ar y galon a rhai mathau o ganser).

2.            Mae WHO wedi rhybuddio mai bod dros eich pwysau neu’n ordew yw achos mwyaf canser y gellid ei osgoi, ar ôl, ac mae Cymdeithas y Llywodraethau Lleol wedi dadlau yr ystyrir mai gordewdra yw un o heriau mwyaf difrifol iechyd y cyhoedd yn y 21ain ganrif.

3.            Drwy’r DU, mae ystadegau wedi eu cyhoeddi’n dangos bod gordewdra – a ddiffinnir fel Mynegai Màs y Corff (BMI) o 30kg/m2 neu fwy – wedi cynyddu gan 15% ymhlith oedolion i 27% yn 2015.

4.            Mae’r data a gyhoeddodd Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos mai canran yr oedolion yng Nghaerdydd a gofnodwyd yn ordew trwy Arolwg Iechyd Cymru ar gyfer 2009-12 oedd 15% ymhlith oedolion o 16 i 44 oed, 26% o 45 i 64 oed a 18% ymhlith oedolion 64+oed.

5.            Mae gordewdra’n cynyddu ymhlith plant yng Nghymru.

Er bod yr ystadegau diweddaraf a gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer y Rhaglen Mesur Plant Cymru yn dangos bod y sefyllfa’n well yng Nghaerdydd nag yn rhan fwyaf awdurdodau lleol Cymru, maent yn dangos, fodd bynnag, mai canran plant y ddinas 4 i 5 oed a oedd yn ordew oedd 10.7%, sef cynnydd ers 9.4% yn 2015-16.

6.            Mae data gan Raglen Mesur Plant Cymru yn dangos bod cyfradd uwch o ordewdra ymhlith plant sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o’u cymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig; roedd cydberthynas debyg rhwng amddifadedd a gordewdra ymhlith oedolion, fel y dengys data Arolwg Iechyd Cymru 2009-12.

7.            Yn dilyn ymrwymiadau yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn ddiweddar ei fod wrthi’n datblygu strategaeth pwysau iach 10 mlynedd y bydd yn ymgynghori arni yn hwyrach eleni.

 

Gan gydnabod ddifrifwch y mater hwn yng Nghaerdydd a’i effaith ar iechyd ein dinasyddion, geilw’r Cyngor ar y Cabinet i wneud y canlynol:

 

1.            gweithio â’r sefydliadau partner perthnasol (yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Iechyd Cyhoeddus Cymru) i lunio strategaeth 5-10 mlynedd â’r nod o ostwng gordewdra ymhlith oedolion a phlant yng Nghaerdydd, a dod â hi'n ôl gerbron y cyngor llawn i'w hystyried yn hwyrach eleni; ac

2.            wrth ddatblygu’r strategaeth hon, rhoi ystyriaeth deilwng i ymgorffori’r cynigion canlynol:

 

a.    gosod targedau CAMPUS heriol ond cyraeddadwy i weithio tuag at ostwng gordewdra ymhlith oedolion a phlant yng Nghaerdydd;

b.    cynnwys camau gweithredu penodol wedi eu targedu, â’r nod o fynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant (yn cynnwys gweithio gydag ysgolion y ddinas) yn ogystal â’r rhai sy’n byw yng nghymunedau mwyaf difreintiedig y ddinas;

c.    cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus trwy’r ddinas tebyg i “Newcastle Can” Hugh Fearnley-Wittingstall: (https://www.newcastlecan.com/), a welwyd yn ddiweddar ar raglan “Britain’s Fat Fight” BBC 1;

d.    gweithio â busnesau lleol i hyrwyddo darpariaeth fwy o wybodaeth maeth, o bosibl try gynllun gwirfoddol yn cynnwys busnesau bwyd llai megis caffis a bwytai annibynnol, i alluogi cwsmeriaid i wneud penderfyniadau ar sail rhagor o wybodaeth wrth fwyta allan;

e.    gwahardd hysbysebu bwyd sothach ar holl safleoedd hysbysebu sy’n eiddo i’r Cyngor, yn cynnwys arosfannau bws, fel cynigion tebyg a gynigiodd Maer Llundain yn ddiweddar ar gyfer rhwydwaith bysus a metro Llundain;

f.     gweithio tuag at ddarpariaeth fwy eang o ffynhonnau d?r yfed a gorsafoedd llenwi poteli d?r i roi dewis arall i bobl yn hytrach na phrynu diodydd llawn siwgr;

g.    sicrhau y cydlynir camau gweithredu i fynd i’r afael â gordewdra – yn cynnwys trwy hyrwyddo teithio llesol yn strategaeth drafnidiaeth y ddinas, y fframwaith cynllunio lleol a thrwy gydnabod cyfraniad pwysig y gwasanaethau hamdden;

h.    archwilio y posibilrwydd ym mholisi cynllunio lleol o ddatblygu “parthau iach”, lle cyfyngir ar nifer y llefydd gwerthu bwyd brys yn ogystal â’r posibilrwydd o fabwysiadu canllaw cynllunio ategol gyda gofynion tebyg i ddogfen cynllunio ategol Cyngor Gateshead mewn perthynas â llefydd tecawê cynnes, sy’n gofyn am ystyried lle mae plant yn dueddol o ymgynnull; nifer y llefydd tecawê cynnes sydd yn barod a’r lefelau uchel o ordewdra;

i.      ystyried arfer gorau gan ddinasoedd eraill sydd wedi mabwysiadu rhaglenni lleol â’r nod o fynd i’r afael â gordewdra, yn cynnwys Amsterdam lle bu gostyngiad gan 12% yn nifer y plant dros eu pwysau a gordew rhwng 2012 a 2015.

 

Dogfennau ategol: