Eitem Agenda

Cynnig 2

Cynigiwyd gan:

Y Cynghorydd Mike Jones-Pritchard

 

 

Eiliwyd gan:

Y Cynghorydd Joel Williams

 

Mae’r Cyngor yn cydnabod y camau cadarnhaol a nodwyd yn nogfen Uchelgais Prifddinas y Cyngor i sicrhau bod pob plentyn yng Nghaerdydd yn mynychu ysgol dda neu ardderchog, a bod tua hanner o'n hysgolion naill ai'n dda neu'n ardderchog.  Mae hefyd yn cydnabod gwaith da swyddogion, athrawon, llywodraethwyr ac eraill sydd ynghlwm wrth addysg yng Nghaerdydd ac sydd wedi helpu i wella safonau yn y blynyddoedd diweddar, a’r angen a’r ymdrech parhaus i wella safonau ar bob lefel ac ym mhob maes yng Nghaerdydd.

 

Mae’r Cyngor yn cydnabod bod Uchelgais Caerdydd yn datgan:

 

  •  

Y byddwn yn cau’r bwlch o ran cyrhaeddiad plant mewn ysgolion er mwyn peidio â gadael unrhyw blentyn ar ôl

  •  

Bod addysg yn un o’r llwybrau mwyaf sicr allan o dlodi

  •  

Bod addysg yn fusnes i bawb

  •  

 Y dylwn fuddsoddi mewn uchelgais a chyfleoedd bywyd o oedran cynnar

  •  

Bod rhaid i ni weithio i alinio arian o bob rhan o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector… o amgylch anghenion pob plentyn a theulu yn unigol

  •  

Bod ymyrraeth gynnar yn hollbwysig

  •  

Bod angen i ni ddarparu datrysiadau hirdymor i broblemau cymhleth

  •  

Y bydd gan bob dinesydd y cyfle i gyflawni ei botensial, ac

  •  

Mai’r allwedd i lwyddiant a ffyniant hirdymor dinas yw’r ffordd y mae'n dewis i fuddsoddi mewn uchelgais a chyfleoedd bywyd o oedran cynnar.

 

 Mae’r cynnig hwn yn galw ar y Cabinet i fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol ac i ymdrin ag angen critigol, nas cyfeiriwyd ato, na'i nodwyd, yn Uchelgais Prifddinas, sef y sefyllfa druenus mewn perthynas â nifer sylweddol o blant, ym mhob rhan o’r ddinas, sy’n ymuno â meithrinfa â lefel isel o sgiliau cymdeithasol, sydd â braidd dim sgiliau hunangymorth neu ofal personol, a nifer ohonynt yn methu defnyddio’r t? bach na dal cwpan.

 

Mae’n galw ar y Cyngor i weithio gyda phob gwasanaeth a chyda sefydliadau eraill i ddatblygu, a rhoi ar waith, menter i alluogi’r rheiny a gofalwyr plant cyn oed ysgol i fanteisio ar wasanaethau Dechrau’n Deg, neu ddarpariaeth debyg, ym mhob ysgol gynradd yng Nghaerdydd lle bo'r angen.  Gellir manteisio ar ddarpariaeth lle ceir cymorth ac arweiniad ynghylch rhianta cadarnhaol ac ati heb stigma, i'n galluogi i sicrhau bod pob plentyn yng Nghaerdydd, p'un a ydynt yn byw mewn ardal ddifreintiedig neu beidio, neu y mae eu rhieni neu eu gofalwyr angen cymorth, yn cael cyfle i ddechrau yn y feithrinfa ar y lefel a’r cam datblygu a ddisgwylir.

 

Dogfennau ategol: