Eitem Agenda

Caerdydd Dwyieithog - Cyngor Dwyieithog: Hyrwyddo a Defnyddio Cymraeg yn y Cyngor

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: bod y polisi ar hyrwyddo a defnyddio Cymraeg yn y Cyngor (Atodiad A yr adroddiad) yn cael ei gymeradwyo yn unol â Safonau'r Gymraeg (Mesur y Gymraeg) (Cymru) 2011).

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet y polisi Caerdydd Ddwyieithog a ddisgrifiodd weledigaeth y Cyngor i greu sefydliad dwyieithog sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac yn esiampl dda i gyflogwyr eraill yn y ddinas.  Nod y polisi oedd datblygu defnydd ffurfiol a chymdeithasol ar Gymraeg ymhlith gweithlu'r Cyngor trwy gyfleoedd dysgu a chymdeithasol rheolaidd, a mwy o gyfranogiad mewn amrywiaeth o rwydweithiau a digwyddiadau iaith ffurfiol ac anffurfiol.

 

PENDERFYNWYD: bod y polisi ar hyrwyddo a defnyddio Cymraeg yn y Cyngor (Atodiad A yr adroddiad) yn cael ei gymeradwyo yn unol â Safonau'r Gymraeg (Mesur y Gymraeg) (Cymru) 2011).

 

 

Dogfennau ategol: