Cynigwyd gan: Y Cynghorydd Mike Jones-Pritchard
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd John Lancaster
Bod y cyngor hwn yn cydnabod y difrod mae plastigion gwastraff yn ei beri i’r amgylchedd byd-eang, yn cydnabod bod mesurau y gallwn eu cymryd yn awr i leihau neu roi terfyn ar ein cyfraniad at yr halogiad a’r difrod hynny ac ymrwymo i fod yn Ddinas Ddiblastig.
Mae’r Cyngor hwn wedi penderfynu dechrau’r broses i fod yn Ddinas Ddiblastig trwy:
· Gefnogi Arfordiroedd Diblastig, ymrwymo i ddewisiadau eraill nad ydynt yn defnyddio plastig a chefnogi mentrau diblastig yn y ddinas. Gosod esiampl dda ac arwain y ffordd drwy gael gwared â phlastigion defnydd untro o safleoedd y Cyngor, annog mentrau diblastig ac annog mannau eraill i gael gwared â phlastigion defnydd untro.
· Annog busnesau a manwerthwyr lleol i ymatal rhag defnyddio a gwerthu eitemau plastig defnydd untro, gan eu newid am ddewisiadau cynaliadwy amgen.
· Creu mannau cymunedol diblastig yn ein parciau, ein llyfrgelloedd, ein hybiau a’n canolfannau cymuned a hamdden.
· Gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod ysgolion, colegau a sefydliadau yn ddiblastig.
· Hyrwyddo neu drefnu digwyddiadau cymunedol i gael gwared â gwastraff plastig o’n harfordir a mannau eraill.
· Ceisio trefnu gr?p rhanddeiliaid â busnesau lleol a chynrychiolwyr cymunedol i gyflawni’r nod hwn.
Mae enghreifftiau o blastigau defnydd untro a dewisiadau amgen yn cynnwys:
· Gwellt papur yn hytrach na gwellt plastig,
· Cwpanau y gellir eu hailgylchu neu eu hail-ddefnyddio
· Deunydd metel y gellir ei gompostio neu ddeunydd arall yn hytrach na chyllyll a ffyrc o blastig
· Dim pecynnau pupur a halen na sawsiau defnydd untro
· Ffyn troi y gellir eu compostio neu eu hail-ddefnyddio
· Deunydd lapio neu fagiau papur yn hytrach na phlastig
· Poteli y gellir eu hail-ddefnyddio yn hytrach na phlastig i'w daflu
· Papurau wedi’u tyllu a’u rhwymo yn hytrach na phocedi plastig
· Chwilio am ddulliau eraill o lamineiddio hysbysebion cyhoeddus ar bapur yn hytrach na phlastig.
Cyfleoedd:
· Polisi diblastig i ysgolion
· Amodau cynllunio, o bosibl â chefnogaeth Llywodraeth Cymru, i gynnwys polisïau ar reoli neu gael gwared â gwastraff
· Cynyddu ein canran o wastraff y gellir ei ailgylchu, gan leihau swm y gwastraff sy’n cael ei losgi neu ei anfon i safleoedd tirlenwi
· Ein swyddfeydd, ein parciau, ein hybiau, ein hysgolion, ein llyfrgelloedd, ein canolfannau hamdden, ein cerbydau a miloedd o aelodau staff
· Ein p?er prynu a dylanwadu gyda chyflenwyr, partneriaid a rhanddeiliaid
· Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol – rhaid mai hwn yw yn un o’r penderfyniadau mwyaf cydymffurfiol posib!
Dogfennau ategol: