Eitem Agenda

Cynnig 4

Cynigiwyd gan:                       Y Cynghorydd Bernie Bowen - Thomson  

 

Eiliwyd gan:     Y Cynghorydd Saeed Ebrahim

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:

 

2.6 Bod miloedd o ferched a aned yn y 1950au wedi gweld eu pensiynau’n newid yn sylweddol yn sgil Deddfau Pensiwn 1995 a 2011.  Mae cannoedd o ferched yn dioddef cyni ariannol difrifol o ganlyniad i’r ffordd y cafodd y newidiadau hyn eu cyflwyno a’u cyfleu.

 

Mae WASPI (Women Against State Pension Inequality) wedi bod yn ymgyrchu i’r llywodraeth wneud ‘trefniadau pontio teg o ran Pensiwn y Wladwriaeth’ i ferched a aned yn y 1950au. Maent yn pwysleisio bod y cyni a ddioddefir gan lawer o ferched o ganlyniad i'r newidiadau hyn, yn enwedig gan na chafodd llawer ohonynt eu hysbysu'n bersonol am y newidiadau.

 

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cadarnhau na ysgrifennodd at y merched y mae Deddf Pensiwn Llywodraeth y Ceidwadwyr yn effeithio arnynt tan 14 mlynedd yn ddiweddarach, yn 2009.  Fodd bynnag, anfonwyd y llythyrau hyn at ferched a aned hyd at 5 Ebrill 1953 ond daeth hynny i ben eto yn 2011 wrth i’r Llywodraeth wneud newidiadau pellach i oedran pensiwn y wladwriaeth. Dechreuodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ysgrifennu at ferched a aned ar ôl 6 Ebrill 1953 yn 2012, dim ond 2 flynedd cyn y dyddiad yr oedd eu pensiwn y wladwriaeth i fod i ddechrau.

 

Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar ferched yng Nghaerdydd.Mae nifer y merched a aned yn y 1950au y mae'r newidiadau yn y Ddeddf  Pensiynau yn effeithio arnynt fesul etholaeth fel a ganlyn:

 

Canol Caerdydd = 3,400 o ferched

Gogledd Caerdydd = 5,300 o ferched

Gorllewin Caerdydd = 5,200 o ferched

De Caerdydd a Phenarth = 5,800 o ferched

(Amcangyfrifon Llyfrgell T?'r Cyffredin, Gorff 2017)

 

Mae’r newid yn nifer y merched 60+ oed sy’n hawlio’r Lwfans Cymorth Cyflogaeth, Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith rhwng Awst 2013 ac Awst 2017 fel a ganlyn:

 

Canol Caerdydd = +440% (Lwfans Cymorth Cyflogaeth) a +50% (Credyd Cynhwysol/Lwfans Ceisio Gwaith)

Gogledd Caerdydd = +440% (Lwfans Cymorth Cyflogaeth) a +100% (Credyd Cynhwysol/Lwfans Ceisio Gwaith)

Gorllewin Caerdydd = +430% (Lwfans Cymorth Cyflogaeth) a +150% (Credyd Cynhwysol/Lwfans Ceisio Gwaith)

De Caerdydd a Phenarth = +510% (Lwfans Cymorth Cyflogaeth) a +100% (Credyd Cynhwysol/Lwfans Ceisio Gwaith)

 

Mae canran y merched 60+ oed y mae angen iddynt hawlio’r Lwfans Cymorth Cyflogaeth neu Gredyd Cynhwysol/Lwfans Ceisio Gwaith, rhwng 2013 a 2017, wedi cynyddu’n anghyfartal o’i gymharu â grwpiau oedran eraill ac o gymharu â dynion.Mae newidiadau i oedran pensiwn yn ffactor allweddol yn y cynnydd hwn.

 

Bydd merched a oedd yn disgwyl hawlio’u pensiwn yn 60 oed sy’n colli incwm sylweddol yn cael effaith andwyol ar ein hardal leol.  Yn ôl WASPI, mae rhai merched mewn perygl o golli hyd at £45,000 o ganlyniad i beidio â chael eu pensiwn nes byddan nhw’n 66 mlwydd oed.Bydd llai o incwm gwario gan y merched a theuluoedd y mae’r newidiadau hyn yn effeithio arnynt . Mae rhai merched yn gorfod gwerthu eu cartrefi, hawlio cymhorthdal tai a/neu ganfod fod rhaid iddyn nhw hawlio budd-daliadau eraill i gadw dau ben llinyn ynghyd. Nid yw pob merch yn gallu gweithio oherwydd afiechyd, y cyfrifoldeb o ofalu am rieni a/neu wyrion, colli eu gwaith ac ati.

 

Mewn ymateb i hyn, mae’r Cyngor yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau ei fod yn rhoi trefniadau pontio teg ar waith mewn cysylltiad â Phensiwn y Wladwriaeth i’r holl ferched a aned ar 6 Ebrill 1951,ac wedi hynny, sydd wedi gorfod ysgwyddo’r baich annheg o ran y cynnydd yn Oedran Pensiwn y Wladwriaeth heb gael gwybod am hynny ymlaen llaw.

 

Mae’r Cyngor hefyd yn galw ar y Llywodraeth i ailystyried y trefniadau pontio ar gyfer merched a aned ar 6 Ebrill 1951, ac wedi hynny, fel nad yw merched yn wynebu cyni yn sgil newidiadau pensiwn na chawsant wybod amdanynt nes ei bod yn rhy hwyr i wneud trefniadau eraill.

 

Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn ymrwymo i gynorthwyo’r merched yr effeithiwyd arnynt gan y newid annheg i drefniadau pontio Pensiwn y Wladwriaeth.  Bydd yn gwneud hyn drwy gynnig cyngor a gwybodaeth drwy’r Hybiau a Llyfrgelloedd cymunedol ledled Caerdydd er mwyn helpu merched i fanteisio ar bob budd-dal y mae ganddynt hawl iddo.

 

Dogfennau ategol: