Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
y bydd y Cabinet yn cymeradwyo’r Datganiad Polisi Tâl 2018/19 atodedig (Atodiad 1) i’r Cyngor ei ystyried ar 22 Mawrth 2018 a nodi:
(i) bod cyfraniadau pensiwn y cyflogwr wedi’u cynnwys yng nghyfrifiad tâl wythnosol cyflogai, lle bo’n briodol
(ii) y bydd angen i’r Cyngor gymryd camau i weithredu newidiadau sy’n dod o’r NJC ar gyfer Tâl Llywodraeth Lleol ar gyfer 2018/20
(iii) cynnwys yr adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau
Cofnodion:
Mae gofyniad statudol ar y Cyngor dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 i baratoi datganiad polisi tâl bob blwyddyn. Felly ystyriodd y Cabinet y Polisi Tâl ar gyfer 2018/19 cyn i’r Cyngor ei ystyried. Rhoddodd y datganiad polisi fframwaith i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo yn deg ac yn wrthrychol ac yn ddiwahân. Yn unol ag ymrwymiad y Cyngor wrth degwch a didwylledd, mae datganiad y polisi tâl hefyd yn cynnwys adroddiad y Cyngor ar y bwlch tâl rhwng y ddau ryw.
PENDERFYNWYD:
y bydd y Cabinet yn cymeradwyo’r Datganiad Polisi Tâl 2018/19 atodol (Atodiad 1) i’r Cyngor ei ystyried ar 22 Mawrth 2018 a nodi:
(i) bod cyfraniadau pensiwn y cyflogwr wedi’u cynnwys yng nghyfrifiad tâl wythnosol cyflogai, lle bo’n briodol
(ii) y bydd angen i’r Cyngor gymryd camau i weithredu newidiadau sy’n dod o’r NJC ar gyfer Tâl Llywodraeth Lleol ar gyfer 2018/20
(iii) cynnwys yr adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau
(iv) ymrwymo wrth egwyddorion a chanllawiau ar y defnydd priodol o drefniadau oriau na sicrheir yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, fel y datblygwyd gan Gomisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus mewn partneriaeth gymdeithasol â Chyngor Partneriaeth Llywodraeth Cymru a’i grwpiau sector.
(v)
Dogfennau ategol: