Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo’r cynlluniau wedi’u blaenoriaethu dan Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
2. nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo mewn egwyddor Achos Amlinellol Strategol Band B Cyngor Caerdydd ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes i sicrhau cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru mewn egwyddor ar gyfer y cynlluniau sy’n rhan o’r rhaglen.
3. bydd adroddiad canlyniadol i’r Cabinet yn cynnig trefniadau i sicrhau capasiti digonol a llywodraethu priodol er mwyn cyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B Caerdydd.
Cofnodion:
Datganodd y Cynghorydd Bradbury fuddiant personol fel Llywodraethwr yn Ysgol Ty Gwyn
Datganodd y Cynghorydd Elsmore fuddiant personol gan fod Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi’i lleoli yn ei ward hi.
Datganodd y Cynghorydd Merry fuddiant personol gan fod Ysgol Uwchradd Cathays wedi’i lleoli yn ei ward hi.
Datganodd y Cynghorydd Thomas fuddiant personol fel Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Willows
Datganodd y Cynghorydd Weaver fuddiant personol fel Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Cathays
Datganodd y Cynghorydd Wild fuddiant personol fel Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Cathays
Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn cynnwys manylion am y cynlluniau blaenoriaeth i’w gwneud yn rhan o raglen ysgolion yr 21ain ganrif Band B Caerdydd. Nodwyd ei fod wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru trwy ddefnyddio methodoleg wedi'i alinio i amcanion strategol Llywodraeth Cymru a chan fod cyllid ond ar gael i fynd i’r afael â’r materion cyflwr a digonedd mwyaf acíwt yng Nghaerdydd, nodwyd yr ysgolion y mae angen buddsoddiad arnynt mwyaf.
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo’r cynlluniau wedi’u blaenoriaethu dan Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
2. nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo mewn egwyddor Achos Amlinellol Strategol Band B Cyngor Caerdydd ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes i sicrhau cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru mewn egwyddor ar gyfer y cynlluniau sy’n rhan o’r rhaglen.
3. bydd adroddiad canlyniadol i’r Cabinet yn cynnig trefniadau i sicrhau capasiti digonol a llywodraethu priodol er mwyn cyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B Caerdydd.
Dogfennau ategol: