Eitem Agenda

Aelodaeth a Chylch Gorchwyl

Aelodaeth - nodi bod y Cyngor wedi penodi’r Aelodau canlynol i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod blynyddol ar 25 Mai 2017:

 

Y Cynghorwyr Bridgeman, Boyle, Bowen-Thompson, Cowan, Joyce, Stubbs, Weaver a Walker

 

Cylch Gorchwyl

 

a)    Ystyried a phenderfynu ar faterion polisi a materion yn deillio o’r sefydliad, telerau ac amodau cyflogeion unigol ar lefel Prif Swyddog/Cyfarwyddwr Cynorthwyol ac uwch (ynghyd ag unrhyw gategori arall o gyflogai a nodir yn y Rheoliadau o bryd i’w gilydd) lle bo hynny’n briodol;

 

b)    Penderfynu ar geisiadau ail-raddio swyddi ar lefel Prif Swyddog ac uwch (ynghyd ag unrhyw gategori arall o gyflogai a nodir yn y Rheoliadau o bryd i'w gilydd) un ai drwy apêl gan gyflogai yn erbyn penderfyniad i wrthod cais ail-raddio neu i benderfynu ar geisiadau ail-raddio a gefnogir.