Mae’r Cyfansoddiad yn nodi sut mae’r Cyngor yn
gweithredu, sut y gwneir penderfyniadau a'r gweithdrefnau a
ddilynir. Mae rhai o’r prosesau
hyn yn ofynnol o dan y gyfraith, ac mae rhai eraill yn fater
i’r Cyngor eu dewis. Daeth y Cyfansoddiad yn weithredol ar 30
Mai 2002 ac fe’i hadolygir a’i addasu o dro i dro gan y
Cyngor, fel bo angen. Mae’n bosibl y bydd oedi wrth
ddiweddaru’r fersiwn sydd ar y we ond gall staff y
Gwasanaethau Cyfreithiol roi gwybod i chi p’un ai'r fersiwn
ddiweddaraf o unrhyw ran yw’r un sydd ar ddangos ar y
wefan.
Rhennir
y Cyfansoddiad yn 15 Erthygl sy’n rhestru’r rheolau
sylfaenol sy’n llywodraethu busnes y Cyngor. Darperir
gweithdrefnau a chodau ymarfer manylach mewn rheolau a phrotocolau
ar wahân ar ddiwedd y ddogfen.
Mae canllawiau
ar y cyfansoddiad wedi’u datblygui’ch helpu chi i
lywio a deall y ddogfen
allweddol hon.
D
Marles, Swyddog Monitro sy'n gyfrifol am gadw copi meistr o’r
Cyfansoddiad a’i ddiweddaru fel bo angen.
Am
gyngor yn y lle cyntaf ac i wneud ymholiadau am y Cyfansoddiad,
e-bostiwch gwasanaethaudemocrataidd@caerdydd.gov.uk
neu 02920 872427