Gwrando
a phenderfynu ar apeliadau (ac eithrio’r apeliadau hynny sydd
o fewn cylch gorchwyl unrhyw Bwyllgor arall) o
benderfyniadau’r Awdurdod lle mae gofyniad statudol i apelio
i Aelodau’r Cyngor neu lle caniateir apêl o’r
fath mewn unrhyw bolisi neu weithdrefn a gymeradwyir gan y
Cyngor.
Ar
glywed apêl, bydd y pwyllgor yn gallu, ar ran ac yn
enw’r Cyngor, gwneud gorchymyn priodol, o fewn yr ystod o
benderfyniadau a ganiateir gan y gyfraith.
Ni fydd
y Pwyllgor, wrth eistedd i glywed apêl, yn cynnwys unrhyw
Aelodau’r Cabinet neu Aelodau unrhyw Bwyllgor sy’n
gysylltiedig â’r gwasanaeth y gwneir y penderfyniad
arno, neu Aelodau sydd wedi bod yn gysylltiedig ag unrhyw
ystyriaeth flaenorol o’r mater, sydd wedi arwain at yr
apêl.
Bob tro
y bydd y Pwyllgor yn eistedd i glywed apêl, bydd y Pwyllgor,
yn y lle cyntaf, yn sicrhau bod yr apêl wedi’i wneud yn
briodol, ac yn ail, bod yr apelydd wedi cael y cyfle i gael ei
gynrychioli yn y gwrandawiad o’i apêl ef neu hi gan
gyfaill, cyfreithiwr neu gynrychiolydd arall o’i ddewis ef
neu hi.
Wrth
glywed apêl, bydd y Pwyllgor yn cydymffurfio â rheolau
cyfiawnder naturiol.
Bydd
angen i holl Aelodau’r Pwyllgor gyflawni hyfforddiant
perthnasol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n
briodol.