Agenda a Phenderfyniadau

Cabinet - Dydd Iau, 29ain Chwefror, 2024 2.00 pm

Lleoliad: YB 4, Neuadd y Sir, Cyfarfod Aml-Leoliad. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Deguara 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2024 pdf eicon PDF 185 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

2.

Cynllun Corfforaethol 2024-27 pdf eicon PDF 166 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: 

  

1.            cymeradwyo'r Cyngor i'r Cyngor gymeradwyo Cynllun Corfforaethol drafft 2024-27 (Atodiad A), yn amodol ar unrhyw ddiwygiadau a awdurdodwyd o dan argymhelliad 3, i'w ystyried gan y Cyngor ar 7 Mawrth 2024;

 

2.            bod yr ymateb i unrhyw argymhellion a wnaed gan unrhyw un o'r Pwyllgorau Craffu (Atodiad C) yn ymwneud â Chynllun Corfforaethol 2024-27 drafft i gael eu hystyried a'u cytuno;

 

3.         bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad i wneud unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i'r Cynllun Corfforaethol 2024-27 drafft sydd eu hangen i adlewyrchu'r ymateb i argymhellion y Pwyllgor Craffu (a gytunwyd o dan argymhelliad 2), cyn ei ystyried gan y Cyngor ar 7 Mawrth 2024;

 

4.            argymell i’r Cyngor ei fod yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i wneud unrhyw fân newidiadau yn ôl yr angen i Gynllun Corfforaethol 2024-27 yn dilyn ystyriaeth gan y Cyngor ar 7 Mawrth 2024 a chyn ei gyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2024.

 

3.

Addysg Caerdydd: Strategaeth Gydweithredu a Ffedereiddio pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae Atodiad 2 yr adroddiad hwn wedi’i olygu i dynnu gwybodaeth bersonol sydd wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 12 ac 13 Atodlen 12A, Rhan 4 Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

PENDERFYNWYD:

 

 

(i)               bod: Strategaeth Cydweithredu a Ffedereiddio Addysg Caerdydd yn cael ei gymeradwyo a’i fabwysiadu.

 

(ii)                bod y cyfrifoldeb dros ddatblygu a gweithredu’r cynlluniau gweithredol i ddarparu’r mesurau llwyddiant a nodir yn y strategaeth yn cael eu dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes.

 

4.

Monitro Cyllideb Mis 9 pdf eicon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

CYTUNWYD: bod

 

1.       yr alldro ariannol refeniw seiliedig ar y sefyllfa ragamcanol ym Mis 9 2023/24 yn cael ei nodi.

 

2.       y gwariant cyfalaf a'r sefyllfa ragamcanol ym Mis 9 2023/24 yn cael ei nodi.

 

5.

Premiymau Treth Gyngor pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

Argymhellir bod y Cyngor yn cytuno, yn weithredol o 1af o Ebrill 2024, bod y tâl premiwm o 100% ar anheddau gwag hirdymor yn cael ei gynyddu i 200% ar gyfer anheddau sydd wedi bod yn wag ac sydd heb eu dodrefnu yn sylweddol am fwy na 24 mis, ac i 300% ar gyfer anheddau sydd wedi bod yn wag ac sydd heb eu dodrefnu'n sylweddol am fwy na 36 mis.

 

6.

Adroddiad ar Gyllideb 2024/25 pdf eicon PDF 466 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae Atodiad 4(b) wedi ei eithrio rhag ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

PENDERFYNWYD: wedi ystyried sylwadau’r Swyddog Adran 151 yn ymwneud â chadernid y gyllideb a digonolrwydd arian wrth gefn fel sy’n angenrheidiol dan Adran 25 Deddf Llywodraeth Leol 2003, ac wedi ystyried yr ymatebion i’r Ymgynghoriad ar y Gyllideb, argymhellir bod y Cyngor yn:

 

1.0     Cymeradwyo’r cyllidebau Refeniw, Cyfalaf a Chyfrif Refeniw Tai gan gynnwys yr holl gynigion a thybiaethau cysylltiedig fel y’u nodir yn yr adroddiad hwn ac yn cynyddu’r Dreth Gyngor 6% a bod y Cyngor yn cadarnhau'r telerau canlynol.

 

2.0     Nodi y cyfrifodd y Cabinet yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr 2023 y symiau canlynol ar gyfer blwyddyn 2024/25 yn unol â’r rheoliadau a wnaed dan Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:

 

a)    151,372 sef y swm a gyfrifwyd yn unol â Rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd, fel sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn.

Llys-faen 

3,068

Pentyrch       

3,709

Radur

4,090

Sain Ffagan

2,006

Pentref Llaneirwg

 

2,512

Tongwynlais

830

 

sef y symiau a gyfrifwyd yn unol â Rheoliad 6 y Rheoliadau fel swm sylfaen y Dreth Gyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn rhannau’r ardal y mae eitemau arbennig yn gysylltiedig â nhw.

 

2.1     Cytuno bod y symiau canlynol bellach yn cael eu cyfrif gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:-

 

a)     Cyfanrediad y symiau yr amcangyfrifa’r Cyngor ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(2)(a) i (d) (gan gynnwys praeseptau’r Cynghorau Cymuned sy’n £568,735).               £1,326,949,735

 

b)     Cyfanrediad y symiau yr amcangyfrifa’r Cyngor ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(3)(a) a (c).

  £480,997,000

 

c)      Y swm y mae’r cyfanrediad yn 2.1(a) uchod yn fwy na’r cyfanrediad yn 2.1(b) uchod a gyfrifwyd yn unol ag Adran 32(4) fel y gofyniad ar gyfer cyllideb y flwyddyn.              £845,952,735

 

d)      Cyfanrediad y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif fydd yn daladwy ar gyfer y flwyddyn i Gronfa’r Cyngor o ran y Grant Cynnal Refeniw, ei gynllun gostyngiad treth gyngor, ac Ardrethi Annomestig wedi’u hailddosbarthu.

£623,157,566

 

e)      Y swm yn 2.1(c) uchod llai y swm yn 2.1(d) (net o’r swm ar gyfer rhyddhad yn ôl disgresiwn o £400,000), i gyd wedi’u rhannu gan y swm yn 2.0(a) uchod, wedi’i gyfrifo yn unol ag Adran 33(1) fel swm sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn.                                      

£1,474.48

 

f)      Swm cyfanredol yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1).  

£568,735

 

g)      Swm yn 2.1(e) uchod llai'r canlyniad a geir trwy rannu swm yn 2.1(f) uchod gan swm 2.0(a) uchod, yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, fel swm sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer aneddiadau yn y rhannau hynny o’r ardal lle nad oes eitemau arbennig yn berthnasol iddynt.                                              

£1,470.72

 

h)      Y  ...  view the full Penderfyniad text for item 6.

7.

Ymateb i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Bapur Gwyn 'Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru' pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD : fod

 

1)    Papur Gwyn Llywodraeth Cymru a’i gynnig i newid polisi a’r gyfraith, i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru yn cael ei nodi.

 

2)    ymateb y Cyngor i ymateb ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar  Bapur Gwyn ‘Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru’  (Atodiad A) yn cael ei gymeradwyo.