Lleoliad: YB 4, Neuadd y Sir, Cyfarfod Aml-Leoliad. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Deguara
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Chwefror 2024 PDF 219 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. |
|
Diweddariad y Cydbwyllgor Corfforaethol PDF 212 KB Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
a) nodi'r diweddariad ar y Cyd-bwyllgor Corfforaethol fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn.
b) dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i fynd i'r afael ag unrhyw faterion ariannol a chyfreithiol gweddilliol yn y drefn honno (gan gynnwys cwblhau unrhyw drefniadau), sy'n codi fel rhan o'r cyfnod pontio (yn ôl yr angen) ac awdurdodi gwasanaethau cyfreithiol i gyflawni'r holl ddogfennau angenrheidiol sy'n gysylltiedig â'r newyddiad a'r pontio i'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol.
c) nodi newyddiad y cytundebau perthnasol ar gyfer y Fargen Ddinesig o'r Corff Atebol i'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol newydd.
d) nodi nad Cyngor Caerdydd fydd y corff atebol o 1 Ebrill 2024.
e) Nodi y bydd adroddiad yn y dyfodol yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor llawn ynghylch terfynu'r Cytundeb Cydweithio a gweithredu unrhyw drefniadau newydd.
|
|
Ymddiriedolaethau - Trefniadau Llywodraethu PDF 225 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. sefydlu Pwyllgor(au) Cabinet, 'Pwyllgor Cabinet yr Ymddiriedolaethau', sy'n cynnwys 5 aelod Cabinet, gyda'r Cylchoedd Gorchwyl canlynol yn cael eu cymeradwyo:
‘(a) Mewn perthynas ag unrhyw Ymddiriedolaeth y mae'r Cyngor yn Ymddiriedolwr Corfforaethol ohoni, arfer holl swyddogaethau'r Cyngor fel Ymddiriedolwr Corfforaethol, gan ystyried yr holl faterion perthnasol a chyngor proffesiynol priodol, a gweithredu bob amser er budd yr Ymddiriedolaeth. (b) Mabwysiadu unrhyw bolisïau a gweithdrefnau priodol i lywodraethu cyflawni ei swyddogaethau, gan gynnwys ond heb gyfyngiad i Bolisi a Gweithdrefn Gwrthdaro Buddiannau Ymddiriedolaeth. (c) Bydd gofyn i bob Aelod o Bwyllgor y Cabinet wneud hyfforddiant perthnasol i’w alluogi i gyflawni ei ddyletswyddau’n iawn.’
2. Yn amodol ar gymeradwyo argymhelliad 1, penodir 5 aelod Cabinet i Bwyllgor(au) Cabinet yr Ymddiriedolaethau gyda chyngor gan y Swyddog Monitro yn enwedig os bydd angen mwy nag un pwyllgor ar unrhyw adeg; a
3 Argymhellir y Cyngor i sefydlu Pwyllgor Ymgynghorol, 'Pwyllgor Ymgynghorol yr Ymddiriedolaethau', sy'n cynnwys 3 aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau a Moeseg, gyda'r Cylch Gorchwyl canlynol:
‘Mewn perthynas ag unrhyw Ymddiriedolaeth y mae'r Cyngor yn Ymddiriedolwr Corfforaethol iddi ac unrhyw gynnig y mae gan y Cyngor wrthdaro buddiannau difrifol mewn perthynas ag ef, yn unol â chanllawiau'r Comisiwn Elusennau a neu gyngor cyfreithiol, i wneud argymhelliad/ion i Bwyllgor Cabinet yr Ymddiriedolaethau neu'r Cabinet ynghylch a ddylid cytuno ar y cynnig ai peidio, gydag addasiadau neu hebddynt, er budd yr Ymddiriedolaeth, gan ystyried yr holl faterion a chyngor perthnasol.'
|
|
Caerdydd Un Blaned - Adolygiad Blynyddol PDF 357 KB Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1) nodi’r cynnydd a wnaed ar leihau carbon dros gyfnod Strategaeth Caerdydd Un Blaned.
2) cymeradwyo dechrau'r gwaith ar "Bapur Gwyrdd" Ymateb i Newid Hinsawdd i gynnwys darlun clir o heriau, nodau a chyfleoedd buddsoddi posibl sy'n gysylltiedig â nhw.
|
|
Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2025/26 PDF 166 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: pennu Trefniadau Derbyn i Ysgolion drafft 2025/2026 atodedig y Cyngor, fel y nodir ym Mholisi Derbyn 2025/2026.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. awdurdodi swyddogion i fynd ati i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i:
· sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 8 lle newydd ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Baden Powell o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.
· sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 8 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. Byddai hyn yn cymryd lle'r Dosbarth Lles presennol.
· sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 16 lle newydd ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Herbert Thompson o fis Medi 2025, o fewn adeiladau presennol neu adeilad newydd.
· sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 16 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Lakeside o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. Byddai hyn yn cymryd lle'r Dosbarth Lles presennol.
· sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 8 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Springwood o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. Byddai hyn yn cymryd lle'r Dosbarth Lles presennol.
· sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 20 lle ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.
· sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 20 lle ar gyfer Awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Coed Glas o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.
· sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 20 lle ar gyfer Anghenion Dysgu Cymhleth a/neu Awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Greenway o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.
· sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 20 lle ar gyfer Anghenion Dysgu Cymhleth a/neu Awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Severn o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.
2. peidio â symud ymlaen â'r cynnig i sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 8 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gymraeg Pwll Coch.
3. Nodi y bydd adroddiad pellach yn cael ei roi i’r Cabinet cyn rhoi’r cynigion ar waith yn nodi manylion unrhyw wrthwynebiadau a dderbyniwyd, yr ymateb i’r gwrthwynebiadau hynny ac argymhellion i roi’r cynigion ar waith neu fel arall.
|
|
Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2024/25 PDF 217 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mae Atodiad 4 yr adroddiad hwn wedi'i eithrio rhag cael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 14 (gwybodaeth sy'n ymwneud â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol) a 21 (prawf budd y cyhoedd) rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ac ym mhob un o amgylchiadau'r achos, mae budd y cyhoedd mewn cynnal yr eithriad yn drech na budd y cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.
Datganodd y Cynghorydd Ash Lister fuddiant personol a rhagfarnus yn yr eitem hon, gan fod perthynas yn byw mewn llety a nodir yn yr adroddiad. Gadawodd y Cynghorydd Lister y cyfarfod ac ni fu’n rhan o’r broses benderfynu.
PENDERFYNWYD: cymeradwyo Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2024-2025 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
|
|
Gosod cladin ar Dŷ Nelson / Tŷ Loudon PDF 207 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mae Atodiadau 3 a 4 i'r adroddiad hwn wedi'u heithrio rhag cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth yn unol â pharagraff 16 Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo'r llwybr caffael arfaethedig ar gyfer gosod cladin ar D? Nelson a Th? Loudoun; a chymeradwyo’r meini prawf gwerthuso a nodir yn yr adroddiad, a chytuno ar ddechrau'r broses gaffael.
2. dirprwyo pob agwedd ar y broses gaffael ar gyfer y gwaith o osod cladin ar D? Nelson a Th? Loudoun (hyd at ac yn cynnwys dyfarnu contract/au ac unrhyw faterion ategol) i'r Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau Oedolion mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Tai a Chymunedau, y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a’r Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol, yn amodol ar sicrhau cymeradwyo cyllid grant priodol gan Lywodraeth Cymru.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nid yw Atodiadau C a D yr adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei heithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 21 rhan 5 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd (mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro) i drafod a chytuno ar benawdau’r telerau ac ymdrin â phob agwedd ar gaffael tir yn Pengam Green a gwaredu'r tir a'r adeiladau yn Fferm New House, gan gynnwys priodoli unrhyw dir sy'n ofynnol at ddibenion ehangu mynwentydd, fel y nodir yn yr adroddiad hwn o fewn paramedrau'r cyngor prisio a ddarperir yn Atodiadau C a D.
|
|
Strategaeth Blaenoriaeth Bysus PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo’r ddogfen Cynllun Seilwaith Blaenoriaeth Bysus drafft, fel y nodir yn Atodiad 1.
2. cymeradwyo dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Seilwaith Blaenoriaeth Bysus.
3. Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Trafnidiaeth, Cynllunio a'r Amgylchedd ar y cyd â'r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth i wneud mân ddiwygiadau i'r Cynllun Seilwaith Blaenoriaeth Bysiau a llunio rhaglen o brosiectau blaenoriaeth bysiau y gellir eu cyflawni ac ymgysylltu perthnasol â rhanddeiliaid allweddol, ac i symud ymlaen i gyflawni'r prosiectau allweddol hynny.
4. Nodir y bydd pob nodwedd sy’n gysylltiedig â phrosiect trafnidiaeth sy'n cael ei chynnwys, a/neu ei chynhyrchu o'r Cynllun Seilwaith Blaenoriaeth Bysus, yn amodol ar geisiadau cyllido llwyddiannus, ymgynghoriad cyhoeddus, dichonoldeb dylunio, asesiadau (gan gynnwys Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb AEG) a Gorchmynion Rheoli Traffig (GRhT).
|
|
Cledrau Croesi Caerdydd Cam 1 PDF 864 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ddylid cyhoeddi Atodiad 1 yr adroddiad hwn gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth a eithriwyd o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 (Gwybodaeth sy’n ymwneud â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol gan gynnwys yr awdurdod sy’n cadw’r wybodaeth honno) Rhan 4 ac yn bodloni’r prawf budd y cyhoedd ym mharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1. awdurdodi lansio Tendr Cam 2 Cyfranogiad Contractwyr Cynnar (ECI) ar gyfer Cam 1A o Brosiect Cledrau Croesi.
2. dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd i ddyfarnu Cam 1 Cyfnod Dylunio ECI i'r cynigydd llwyddiannus gan ddefnyddio'r meini prawf gwerthuso a nodir ym Mharagraff 11 yr adroddiad hwn.
3 Nodir y bydd Cam 2 yr ECI yn amodol ar gymeradwyaeth cabinet yn y dyfodol. Bydd hyn yn seiliedig ar gytundeb o bris cost targed yn dilyn proses Cam 1.
4. dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr PTE (fel Uwch Berchennog Cyfrifol (UBC) a Chadeirydd y Bwrdd y Rhaglen) i symud ymlaen gyda'r holl broses ymgynghori ac ymgysylltu sy'n gysylltiedig â Phrosiect Cledrau Croesi Cam 1.
|
|
Rhan A Dogfen Polisi Cynnal a Chadw Priffyrdd wedi’i Diweddaru (2024) PDF 216 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: cymeradwyo Rhan A Dogfen Polisi Cynnal a Chadw Priffyrdd wedi'i ddiweddaru (2024) fel y polisi rheoli presennol ar gyfer y swyddogaeth hon.
|
|
Adnewyddu cytundeb trwydded 3 blynedd Microsoft PDF 132 KB Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1) Ei gymeradwyo mewn egwyddor i'r Cyngor gaffael ei adnewyddiad meddalwedd Microsoft trwy naill ai gytundeb fframwaith Cynhyrchion Technoleg a Gwasanaethau Cysylltiedig Gwasanaeth Masnachol y Goron (CCS) (gan ddefnyddio agregiad Microsoft Gwanwyn 2024 - NFC166), neu (ii) Gytundeb Fframwaith Cynnyrch a Gwasanaethau TG GCLlC (Gwasanaeth Cyflawni Llywodraeth Cymru) / GCC (Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol).
2) dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad a’r Swyddog Monitro i benderfynu pa fframwaith i’w ddefnyddio ac ymdrin yn gyffredinol â phob agwedd ar y broses gaffael a materion cysylltiedig hyd at ac yn cynnwys dyfarnu'r contract.
|
|
Datganiad ar Bolisïau Tâl 2024/25 PDF 261 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Datganodd Paul Orders, Sarah McGill, Chris Lee, Debbie Marles a Tracey Thomas fuddiant personol ac ariannol yn yr eitem hon. Gadawodd Paul Orders, Sarah McGill, Chris Lee y cyfarfod. Arhosodd Debbie Marles a Tracey Thomas yn y cyfarfod tan y pwynt penderfynu er mwyn ateb unrhyw gwestiynau technegol.
PENDERFYNWYD: argymhell i’r Cyngor
1. I gadarnhau bod y penderfyniad i gytuno ar y Datganiad Polisi Tâl hwn yn gytundeb i weithredu'r codiadau cyflog costau byw a bennir gan y corff negodi perthnasol sy’n weithredol o 1 Ebrill 2024, fel y rhoddwyd cyfrif amdano yn y Gyllideb a bennwyd ac y cytunwyd arno gan y Cyngor ar 7 Mawrth 2024.
2. I bennu bod unrhyw oblygiadau ariannol ychwanegol sy'n deillio o'r cytundebau cyflog cenedlaethol a benderfynir ar ôl y dyddiad hwn na ellir eu bodloni o fewn Cyllideb Refeniw y Cyngor yn cael eu cyfeirio at y Cyngor i'w hystyried a'u penderfynu.
3. cymeradwyo'r Datganiad Polisi Tâl (2023/24) atodedig yn Atodiad 1.
|