Lleoliad: YB 4, Neuadd y Sir, Cyfarfod Aml-Leoliad. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Deguara
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2024 PDF 185 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd |
|||||||||||||
Cynllun Corfforaethol 2024-27 PDF 166 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo'r Cyngor i'r Cyngor gymeradwyo Cynllun Corfforaethol drafft 2024-27 (Atodiad A), yn amodol ar unrhyw ddiwygiadau a awdurdodwyd o dan argymhelliad 3, i'w ystyried gan y Cyngor ar 7 Mawrth 2024;
2. bod yr ymateb i unrhyw argymhellion a wnaed gan unrhyw un o'r Pwyllgorau Craffu (Atodiad C) yn ymwneud â Chynllun Corfforaethol 2024-27 drafft i gael eu hystyried a'u cytuno;
3. bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad i wneud unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i'r Cynllun Corfforaethol 2024-27 drafft sydd eu hangen i adlewyrchu'r ymateb i argymhellion y Pwyllgor Craffu (a gytunwyd o dan argymhelliad 2), cyn ei ystyried gan y Cyngor ar 7 Mawrth 2024;
4. argymell i’r Cyngor ei fod yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i wneud unrhyw fân newidiadau yn ôl yr angen i Gynllun Corfforaethol 2024-27 yn dilyn ystyriaeth gan y Cyngor ar 7 Mawrth 2024 a chyn ei gyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2024.
|
|||||||||||||
Addysg Caerdydd: Strategaeth Gydweithredu a Ffedereiddio PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mae Atodiad 2 yr adroddiad hwn wedi’i olygu i dynnu gwybodaeth bersonol sydd wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 12 ac 13 Atodlen 12A, Rhan 4 Deddf Llywodraeth Leol 1972
PENDERFYNWYD:
(i) bod: Strategaeth Cydweithredu a Ffedereiddio Addysg Caerdydd yn cael ei gymeradwyo a’i fabwysiadu.
(ii) bod y cyfrifoldeb dros ddatblygu a gweithredu’r cynlluniau gweithredol i ddarparu’r mesurau llwyddiant a nodir yn y strategaeth yn cael eu dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes.
|
|||||||||||||
Monitro Cyllideb Mis 9 PDF 174 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: CYTUNWYD: bod
1. yr alldro ariannol refeniw seiliedig ar y sefyllfa ragamcanol ym Mis 9 2023/24 yn cael ei nodi.
2. y gwariant cyfalaf a'r sefyllfa ragamcanol ym Mis 9 2023/24 yn cael ei nodi.
|
|||||||||||||
Premiymau Treth Gyngor PDF 203 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
Argymhellir bod y Cyngor yn cytuno, yn weithredol o 1af o Ebrill 2024, bod y tâl premiwm o 100% ar anheddau gwag hirdymor yn cael ei gynyddu i 200% ar gyfer anheddau sydd wedi bod yn wag ac sydd heb eu dodrefnu yn sylweddol am fwy na 24 mis, ac i 300% ar gyfer anheddau sydd wedi bod yn wag ac sydd heb eu dodrefnu'n sylweddol am fwy na 36 mis.
|
|||||||||||||
Adroddiad ar Gyllideb 2024/25 PDF 466 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mae Atodiad 4(b) wedi ei eithrio rhag ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD: wedi ystyried sylwadau’r Swyddog Adran 151 yn ymwneud â chadernid y gyllideb a digonolrwydd arian wrth gefn fel sy’n angenrheidiol dan Adran 25 Deddf Llywodraeth Leol 2003, ac wedi ystyried yr ymatebion i’r Ymgynghoriad ar y Gyllideb, argymhellir bod y Cyngor yn:
1.0 Cymeradwyo’r cyllidebau Refeniw, Cyfalaf a Chyfrif Refeniw Tai gan gynnwys yr holl gynigion a thybiaethau cysylltiedig fel y’u nodir yn yr adroddiad hwn ac yn cynyddu’r Dreth Gyngor 6% a bod y Cyngor yn cadarnhau'r telerau canlynol.
2.0 Nodi y cyfrifodd y Cabinet yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr 2023 y symiau canlynol ar gyfer blwyddyn 2024/25 yn unol â’r rheoliadau a wnaed dan Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:
a) 151,372 sef y swm a gyfrifwyd yn unol â Rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd, fel sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn.
sef y symiau a gyfrifwyd yn unol â Rheoliad 6 y Rheoliadau fel swm sylfaen y Dreth Gyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn rhannau’r ardal y mae eitemau arbennig yn gysylltiedig â nhw.
2.1 Cytuno bod y symiau canlynol bellach yn cael eu cyfrif gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:-
a) Cyfanrediad y symiau yr amcangyfrifa’r Cyngor ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(2)(a) i (d) (gan gynnwys praeseptau’r Cynghorau Cymuned sy’n £568,735). £1,326,949,735
b) Cyfanrediad y symiau yr amcangyfrifa’r Cyngor ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(3)(a) a (c). £480,997,000
c) Y swm y mae’r cyfanrediad yn 2.1(a) uchod yn fwy na’r cyfanrediad yn 2.1(b) uchod a gyfrifwyd yn unol ag Adran 32(4) fel y gofyniad ar gyfer cyllideb y flwyddyn. £845,952,735
d) Cyfanrediad y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif fydd yn daladwy ar gyfer y flwyddyn i Gronfa’r Cyngor o ran y Grant Cynnal Refeniw, ei gynllun gostyngiad treth gyngor, ac Ardrethi Annomestig wedi’u hailddosbarthu. £623,157,566
e) Y swm yn 2.1(c) uchod llai y swm yn 2.1(d) (net o’r swm ar gyfer rhyddhad yn ôl disgresiwn o £400,000), i gyd wedi’u rhannu gan y swm yn 2.0(a) uchod, wedi’i gyfrifo yn unol ag Adran 33(1) fel swm sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn. £1,474.48
f) Swm cyfanredol yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1). £568,735
g) Swm yn 2.1(e) uchod llai'r canlyniad a geir trwy rannu swm yn 2.1(f) uchod gan swm 2.0(a) uchod, yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, fel swm sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer aneddiadau yn y rhannau hynny o’r ardal lle nad oes eitemau arbennig yn berthnasol iddynt. £1,470.72
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD : fod
1) Papur Gwyn Llywodraeth Cymru a’i gynnig i newid polisi a’r gyfraith, i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru yn cael ei nodi.
2) ymateb y Cyngor i ymateb ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Bapur Gwyn ‘Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru’ (Atodiad A) yn cael ei gymeradwyo.
|