Lleoliad: YB 4, Neuadd y Sir, Cyfarfod Aml-Leoliad. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Deguara
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Medi 2023 PDF 163 KB Penderfyniad: Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo fel y’u diwygiwyd.
Cofnodion: Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo fel y’u diwygiwyd.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Datganodd y Cynghorydd Chris Weaver a Norma Mackie fuddiant personol a rhagfarnol yn yr eitem hon, fel Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Gladstone, gadawodd y Cynghorwyr Weaver a Mackie yr ystafell er mwyn i’r eitem hon gael ei hystyried.
Datganodd y Cynghorydd Burke fuddiant personol yn yr eitem hon, gan fod ei phlant yn mynd i ysgol mewn ward yr effeithir arni. Datganodd y Cynghorydd Merry fuddiant personol yn yr eitem hon, gan ei bod yn aelod ward dros yr ardal. Datganodd y Cynghorydd Sangani fuddiant personol yn yr eitem hon, gan ei bod yn aelod ward dros ardal yr effeithir arni.
PENDERFYNWYD:
1. bod yr ystyriaeth gan Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica i drosglwyddo Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol, o fis Medi 2025, yn cael ei nodi.
2. Yn amodol ar gytundeb Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica i fwrw ymlaen i gyhoeddi’r cynigion, bod Swyddogion yn cael awdurdodiad i fwrw ymlaen i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ar gynigion i:
· Drosglwyddo Ysgol Mynydd Bychan i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank. · Cynyddu capasiti Ysgol Mynydd Bychan o 192 o leoedd (0.9DM) i 420 o leoedd (2DM), a chynyddu nifer y lleoedd meithrin yn Ysgol Mynydd Bychan o 64 i 96. · Cyfuno Ysgolion Cynradd Allensbank a Gladstone: · Cau Ysgol Gynradd Allensbank yn ffurfiol. · Cau Ysgol Gynradd Gladstone yn ffurfiol. · Sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd â 420 o leoedd (2DM) gyda dosbarth meithrin ar safle presennol Ysgol Gynradd Gladstone / Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica a rennir ar hyn o bryd.
Byddai’r newidiadau arfaethedig yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2025.
3. Noder, cyn gweithredu'r cynigion, bod yn rhaid nodi adnoddau ariannol i hwyluso proses newid sefydliadol o sefydlu'r ysgol gynradd dau ddosbarth mynediad newydd a throsglwyddo Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica.
4. Dylid nodi, cyn rhoi’r cynigion ar waith, y bydd adroddiad pellach yn cael ei roi i’r Cabinet yn nodi manylion unrhyw wrthwynebiad a dderbyniwyd, yr ymatebion arfaethedig i’r gwrthwynebiadau hynny ac argymhellion i weithredu’r cynigion neu fel arall, a ffynonellau ariannu ar gyfer y set lawn o gynigion. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Chris Weaver a Norma Mackie fuddiant personol a rhagfarnol yn yr eitem hon, oherwydd eu bod yn Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Gladstone, gadawodd y Cynghorwyr Weaver a Mackie yr ystafell er mwyn i’r eitem hon gael ei hystyried.
Datganodd y Cynghorydd Burke fuddiant personol yn yr eitem ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 141. |
|
Contract Haplogi Cerbydau Fflyd PDF 129 KB Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1) bod proses gaffael gofyniad llogi cerbydau Fflyd y Cyngor yn ôl y galw drwy Fframwaith Cyflenwi Masnachol Llywodraeth Cymru (WGCD) ar gyfer darparu cerbydau i’w llogi yn ôl y galw WGCD Cyf: NPS-FT-0110-2 yn cael ei gymeradwyo.
2) bod y meini prawf gwerthuso lefel uchel a nodir yn yr adroddiad ar gyfer y dyfarniad uniongyrchol i un cyflenwr ar gyfer lotiau 1 a 2 gyda Lot 3 yn rhedeg fel cystadleuaeth fach pan fydd angen cerbyd o'r math hwn yn cael eu cymeradwyo.
3) Bod awdurdod yn cael ei roi i benderfynu ar ac ymdrin â phob agwedd ar y broses gaffael a materion ategol hyd at ac yn cynnwys dyfarnu'r contract i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Adnoddau mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a'r Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol.
Cofnodion: Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i ddechrau ymarfer caffael ar gyfer llogi cerbydau yn y fan a'r lle drwy Fframwaith Cyflenwi Masnachol Llywodraeth Cymru. Amcangyfrif gwerth y contract yw £6.1m.
Nodwyd bod y Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog (GTC) yn darparu cyfleusterau llogi ar gyfer pob adran ar draws ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 142. |
|
Caffael Tanwydd Hylif PDF 141 KB Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1) bod y broses gaffael trwy gystadleuaeth fach ar gyfer cyflenwi tanwydd hylif ar gyfer fflyd y Cyngor drwy fframwaith Gwasanaethau Caffael Cenedlaethol WGCD -FT-0122-23 am gyfnod hyd at 12 Ebrill 2027 yn cael ei gymeradwyo.
2) Bod y meini prawf gwerthuso lefel uchel a nodir yn yr adroddiad hwn yn cael eu cymeradwyo.
3) Bod awdurdod yn cael ei roi i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Adnoddau mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a'r Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol i benderfynu ac ymdrin yn gyffredinol â phob agwedd ar y broses gaffael a materion ategol hyd at ac yn cynnwys dyfarnu’r contract.
Cofnodion: Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn gofyn am awdurdodiad i ddechrau ymarfer caffael mewn perthynas â chaffael tanwydd hylif ar gyfer y Cyngor. Nodwyd bod y trefniadau blaenorol wedi dod i ben yn ystod y pandemig, a bod trefniadau dros dro yn dod i ben ar 1 Chwefror 2024. Bydd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 143. |
|
Ailddatblygiad Band B Campws Cymunedol Y Tyllgoed PDF 223 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mae Atodiadau 2 a 4 yr adroddiad hwn wedi’u heithrio o’u cyhoeddi oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r natur a ddisgrifir ym mharagraffau 14 a 21 Rhan 4 o atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac yn holl amgylchiadau'r achos, mae budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn fwy na budd y cyhoedd o ran datgelu’r wybodaeth, ac wedi’i eithrio o’i ddatgelu gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth yn unol â pharagraff 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Datganodd y Cynghorydd Peter Bradbury fuddiant personol yn yr eitem hon fel Llywodraethwr yn Ffederasiwn Dysgu’r Gorllewin.
PENDERFYNWYD:
(i) yn amodol ar gymeradwyaeth y Gweinidog, awdurdodi’r arian o Raglen Band B Cymunedau Dysgu Cynaliadwy y Cyngor (a amlinellir yn Atodiad 2 sydd yn Gyfrinachol) yr Achos Busnes Terfynol, i gael ei ddefnyddio i alluogi dechrau’r prif waith sydd ei angen i symud ymlaen â Champws Cymunedol y Tyllgoed.
(ii) nodi’r ymrwymiad a wnaed ar gyfer y gorchmynion gwaith cynnar i symud y prosiect sydd mewn perygl ymlaen cyn ymrwymo i gontract. Cofnodion: Mae Atodiadau 2 a 4 yr adroddiad hwn wedi’u heithrio o’u cyhoeddi oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r natur a ddisgrifir ym mharagraffau 14 a 21 Rhan 4 o atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac yn holl amgylchiadau'r achos, mae budd y cyhoedd o ran cynnal yr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 144. |
|
Tendr ar gyfer Polisïau Yswiriant y Cyngor gan gynnwys Ymdrin â Hawliadau o 1 Ebrill 2024 PDF 194 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mae Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad hwn wedi’u heithrio rhag eu cyhoeddi yn dilyn darpariaethau Atodlen 12A Rhan 4 Paragraff 14 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
PENDERFYNWYD:
1. awdurdodi’r gwahoddiad tendrau trwy DPS Yswiriant YPO ar gyfer polisïau yswiriant y Cyngor gan gynnwys gwasanaethau Atebolrwydd, Modur, Eiddo ac Amrywiol a delio â hawliadau am gyfnod cychwynnol o 3 blynedd o 1 Ebrill 2024 gydag opsiwn i ymestyn am gyfnod pellach o hyd at 2 flynedd yn unol â Rheolau'r Weithdrefn Gontractau.
2) bod y meini prawf gwerthuso lefel uchel a nodir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.
3) Bod awdurdod yn cael ei roi i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, i benderfynu ar ac ymdrin â phob agwedd ar y broses gaffael (yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i ddadansoddiad o’r meini prawf gwerthuso a chyhoeddi dogfennaeth) a materion ategol hyd at ac yn cynnwys dyfarnu'r contract.
Cofnodion: Mae Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad hwn wedi’u heithrio rhag eu cyhoeddi yn dilyn darpariaethau Atodlen 12A Rhan 4 Paragraff 14 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn ceisio awdurdodiad i wahodd tendrau ar gyfer adnewyddu polisïau yswiriant y Cyngor, gan gynnwys trin hawliadau.
Nodwyd iddynt ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 145. |
|
Adroddiad Cwynion Blynyddol PDF 132 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: y byddai cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi. Cofnodion: Derbyniodd y Cabinet yr adroddiad Cwynion a Chanmoliaeth Blynyddol ar gyfer y cyfnod 2022-2023. Nodwyd bod cyfanswm o 3,071 o gwynion (Corfforaethol) wedi'u cofnodi. Gostyngiad 15.5% ar y flwyddyn flaenorol. Daeth cyfanswm o 1,265 o ganmoliaethau i law hefyd. Mae hyn yn ostyngiad o 14.9% o’r flwyddyn flaenorol, pan gofnodwyd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 146. |
|
Adroddiad Monitro Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd Blynyddol PDF 158 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: y câi seithfed Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol ei gymeradwyo i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2023.
Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet Seithfed Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd Nodwyd bod Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd (2006 i 2026) wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor ar 28 Ionawr 2016. Fel rhan o'r broses cynllun datblygu statudol, mae'n ofynnol i'r Cyngor baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) a'i gyflwyno i Lywodraeth ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 147. |
|
Dogfennau ychwanegol: |