Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion

Cabinet - Dydd Iau, 21ain Medi, 2023 1.00 pm

Lleoliad: YB 4, Neuadd y Sir, Cyfarfod Aml-Leoliad. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Deguara 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

130.

Cofnodion y Cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023 pdf eicon PDF 202 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023.

 

131.

Derbyn Adroddiad Ymchwiliad Pwyllgor Craffu’r Economi a Diwylliant o'r enw Amgueddfa Caerdydd pdf eicon PDF 1 MB

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd Bradbury ddiddordeb personol yn yr eitem hon.

 

PENDERFYNNWYD:  derbyn adroddiad Ymchwiliad Pwyllgor Craffu’r Economi a Diwylliant o'r enw "Amgueddfa Caerdydd" a darparu ymateb o fewn dau gylch.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Bradbury ddiddordeb personol yn yr eitem hon.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Wong Adroddiad Ymchwiliad Pwyllgor Craffu’r Economi a Diwylliant ynghylch Amgueddfa Caerdydd   Mae gan yr adroddiad ymchwiliad 48 o ganfyddiadau allweddol a 19 o argymhellion.

 

PENDERFYNNWYD:  derbyn adroddiad Ymchwiliad Pwyllgor Craffu’r Economi a Diwylliant o'r enw "Amgueddfa Caerdydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 131.

132.

Diweddariad ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd Wild fuddiant personol a rhagfarnus yn yr eitem hon. Gadawodd y Cynghorydd Wild y cyfarfod ac ni chymerodd ran yn y broses o wneud penderfyniadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     cymeradwyo Rhaglen ac Adolygiad drafft y Gronfa Ffyniant Gyffredin fel y nodir yn Atodiad A.

 

2.     dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, y swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i wneud mân newidiadau i Raglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin y cyfeirir ati yn argymhelliad 1 uchod os oes angen yn dilyn unrhyw drafodaethau pellach gyda'r sefydliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 29.

 

3.     cymeradwyo'r cyllid sydd i'w ddyrannu ar gyfer cyflawni'r prosiectau a nodwyd ym mharagraffau 30 i 31.

 

4.     dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd ddyrannu unrhyw danwariant ar gyfer y rhaglen i'r cynllun Galwad Agored a nodwyd ym mharagraffau 16 i 21.

 

5.     dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Tai a Chymunedau i ddod ag unrhyw drefniadau grant i ben o ganlyniad i'r Alwad Agored fel yr amlinellir ym mharagraff 21.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Wild fuddiant rhagfarnol yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra bod yr eitem hon yn cael ei hystyried.

 

Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r gronfa Ffyniant Gyffredin.  Mae'r adroddiad yn manylu ar y camau nesaf ar gyfer cyflawni ac yn tynnu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 132.

133.

Monitro Cyllideb Mis 4 pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

1.   nodi’r alldro ariannol refeniw a ragamcanwyd yn seiliedig ar y sefyllfa a ragwelir ym Mis 4 2023/24

 

2.   nodir gwariant cyfalaf a'r sefyllfa a ragwelir ym Mis 4 2023/24.

 

 

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet fanylion am sefyllfa monitro ariannol 2023/24 a ragwelir ar ddiwedd mis Gorffennaf 2023 (Mis 4) a addaswyd ar gyfer unrhyw welliannau sylweddol ers y dyddiad hwnnw, yn erbyn y gyllideb a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 9 Mawrth 2023.

 

Nodwyd bod y Cyngor yn parhau i wynebu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 133.

134.

Rheoli Risg Corfforaethol – Chwarter 4 2022/23 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: nodi'r cynnwys a'r newidiadau a gynigiwyd wrth symud ymlaen yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet y sefyllfa rheoli risg wedi'i diweddaru yn chwarter 4 ar gyfer 2022/23. Nodwyd y newid i'r risg gorfforaethol o amgylch monitro'r gyllideb.  Nodwyd hefyd fod gan y gwasanaeth Tai a Chymunedau risg gynyddol newydd ar eu Cofrestr Risg Cyfarwyddiaeth sy'n monitro’r cymorth y mae trigolion y ddinas  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 134.

135.

Diweddariad ar gaffael Partner Datblygwr ar gyfer Prosiect Adfywio Trem y Môr. pdf eicon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni fydd Atodiadau 2A a 2b, 3 a 4 yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithriodanydisgrifiada geirymmharagraffau 14, 16 a 21  Atodlen12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Datganodd y Cynghorydd Ash Lister fuddiant personol a rhagfarnus yn yr eitem hon. Gadawodd y cyfarfod ac ni chymerodd ran yn y broses o wneud penderfyniadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.          cymeradwyo'r broses dyfarnu tendr ar gyfer prosiect adfywio Trem y Môr.

 

2.            dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau a'r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad a’r Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151, i benodi'r cynigydd a ffefrir, gan gynnwys:

 

a.         dirprwyo pob mater o'r fath sy'n deillio o'r adroddiad hwn sy'n ofynnol i gwblhau'r penodiad, gan gynnwys materion y cyfeirir atynt o fewn y cyngor cyfreithiol a eithriwyd fel y nodir yn Atodiad 4;

b.         cymeradwyo geiriad terfynol y contract ac ymrwymo i'r Cytundeb Ymbarél ar gyfer y rhaglen gyfan gyda'r cynigydd a ffefrir

c.         ymrwymo i gontract Dylunio ac Adeiladu Tribiwnlys Adeiladu ar y Cyd (JCT) 2016 ar gyfer Cam 1 yn dilyn yr holl gamau diwydrwydd dyladwy ôl-dendro angenrheidiol a chadarnhad bod y cynllun o fewn paramedrau hyfywedd; a

ch.         Ymrwymo i Gytundeb Gwasanaethau Cyn Contract (PCSA) ar gyfer camau yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Nid yw Atodiadau 2a a 2b, 3 a 4 i’w cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithriodanydisgrifiada geirymmharagraffau 14, 16 a 21  Atodlen12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Datganodd y Cynghorydd Ash Lister fuddiant rhagfarnol yn yr eitem hon a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 135.

136.

Marchnad Caerdydd pdf eicon PDF 169 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Nid yw Atodiadau 1, 3, 4, 5, 6 a 7 yr adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei heithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraffau 14, 16 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

 

 

1.            cymeradwyo'r cynigion ar gyfer ailddatblygu Marchnad Caerdydd a'r strategaeth ariannu fel y nodir yn yr atodiadau i'r adroddiad hwn.

 

2.            dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro, i ymdrin â phob mater sy'n ymwneud â'r cynnig ailddatblygu gan gynnwys y cais am gyllid, caffaeliadau a grantiau mewn perthynas â marchnad Caerdydd (ac unrhyw gytundebau ategol) fel sy'n ofynnol mewn perthynas â'r mater hwn.

 

Cofnodion:

Nid yw Atodiadau 1, 3, 4, 5, 6 a 7yr adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei heithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraffau 14, 16 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 136.

137.

Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol 2022/23 pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol ar gyfer 2022/23 i’w ystyried gan y Cyngor.

 

Cofnodion:

Cabinet yn derbyn 14eg Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol.  Mae'r adroddiad yn darparu trosolwg o'r cynnydd ar gyfer 2022/2023, manylion sut y bydd blaenoriaethau'n cael eu cyflawni fel yr amlinellir yn y Cynlluniau Cyflawni Cyfarwyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Plant ac Oedolion, Tai a Gwasanaethau Cymunedol ar gyfer 2023/24  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 137.

138.

Cynyddu'r defnydd o Daliadau Uniongyrchol ar gyfer Darparu Gofal a Chymorth pdf eicon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae Atodiad 3 yr adroddiad hwn wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 16 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     nodi’r dull gweithredu sy'n cael ei ddefnyddio i annog taliadau uniongyrchol, gan gynnwys gwaith i gefnogi datblygiad microfentrau i ddarparu gofal a chymorth a'r adolygiad sydd ar y gweill i wella gwasanaethau cymorth ar gyfer y bobl sy’n derbyn taliadau uniongyrchol.

 

2.     cytuno ar gyfradd taliad uniongyrchol newydd o £16.86 yr awr ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth a ddarperir gan ficro-fentrau, i gydnabod eu costau ychwanegol ac i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn gynaliadwy.  

 

Cofnodion:

Mae Atodiad 3 yr adroddiad hwn wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 16 Rhan 4 Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

 

Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sydd ar y gweill i wella mynediad at daliadau uniongyrchol ar gyfer gofal a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 138.

139.

Rhestr Leol o Adeiladau o Ddiddordeb Hanesyddol neu Bensaernïol pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.     cymeradwyo meini prawf dethol ar gyfer y rhestr leol (fel y nodir ym mharagraff 18) ar gyfer ymgynghori ar adolygiad cam cyntaf o’r rhestr leol, a bydd y canlyniadau'n cael eu hadrodd yn ôl i'r Cabinet i'w cymeradwyo.

 

2.     dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Cynllunio i wneud, gwasanaethu a chadarnhau unrhyw gyfarwyddiadau Erthygl 4 uniongyrchol ac anuniongyrchol yn y dyfodol mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet perthnasol, a/neu Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a’r y swyddog Adran 151 os ystyrir yn briodol gan y Pennaeth Cynllunio.

 

3.     nodi'r defnydd o bwerau Gweithredu ar Frys i gyhoeddi cyfarwyddyd Erthygl 4 mewn perthynas â Chastell Rompney, Heol Gwynll?g, Tredelerch, Caerdydd CF3 3EB.

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer adolygiad cam cyntaf Rhestr Leol Caerdydd o Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol.  Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr ymrwymiad yn Cryfach, Tecach, Gwyrddach i warchod a dathlu adeiladau lleol. Nodwyd bod Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y gall  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 139.