Agenda a Phenderfyniadau

Cabinet - Dydd Iau, 13eg Gorffennaf, 2023 2.00 pm

Lleoliad: YB 4, Neuadd y Sir, Cyfarfod Aml-Leoliad. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Deguara 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2023 pdf eicon PDF 139 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

2.

Adroddiad Lles Blynyddol pdf eicon PDF 175 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.            nodi cynnwys yr adroddiad a'i atodiadau, gan gynnwys yr arsylwadau ac unrhyw argymhellion a wnaed gan (i) y Panel Perfformiad (Atodiad 3A); (ii) Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (Atodiad 4a) a (iii) y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad (Atodiad 5a);

 

2.           dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Pobl a Chymunedau), mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, i wneud unrhyw newidiadau canlyniadol i'r Adroddiad Llesiant Blynyddol drafft 2022/23 sy'n codi o argymhelliad 1 uchod; a

 

3.            yr argymhellir bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Adroddiad Llesiant Blynyddol 2022/23, gan gynnwys unrhyw welliannau y cytunwyd arnynt o dan argymhelliad 2 uchod..

 

3.

Disodli'r fflyd ailgylchu ar gyfer casgliadau preswyl pdf eicon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.  Caffael fflyd casgliadau ailgylchu newydd yn raddol dros gyfnod o dair blynedd gyda gwerth amcangyfrifedig o £9.7M.

 

2.  Cymeradwyo dyfarnu contract cychwynnol (fel y nodir yn yr adroddiad).

 

3.  Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd, yn amodol ar ymgynghori â'r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Swyddog A.151 a Chyfarwyddwr Llywodraethu a Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Monitro, i ddelio â dyfarnu contractau yn y dyfodol (ac unrhyw gytundebau ategol) fel sy'n ofynnol mewn perthynas â'r caffaeliad hwn.

 

4.

Neuadd Dewi Sant pdf eicon PDF 210 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nid yw Atodiadau 1-3 i’r adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei heithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 16 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.Yn holl amgylchiadau’r achos, ystyrir bod budd y cyhoedd o gynnal yr eithriad yn bwysicach na budd y cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth. 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Cyfreithiol i orffen negodiadau gydag AMG a rhanddeiliaid perthnasol eraill i:

 

a.  cwblhau'r Memorandwm gyda rhanddeiliaid yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodir yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft sydd ynghlwm wrth Atodiad 1 cyfrinachol;

 

b.   cwblhau’r brydles a'r dogfennau cysylltiedig fel y nodir yn Atodiad 1 cyfrinachol; a

 

c.  cwblhau'r cytundeb gwerthu busnes gydag AMG ar gyfer Neuadd Dewi Sant yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodir yn y cytundeb gwerthu busnes drafft fel y nodir yn Atodiad 1 cyfrinachol.

 

2.    awdurdodi'r trosglwyddiad [pob gweithiwr] i AMG o dan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymryd (Diogelu Cyflogaeth 2006) (TUPE).

 

 

5.

Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion: Darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol pdf eicon PDF 362 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae Atodiadau 5 a 6 yr adroddiad hwn wedi’u heithrio rhag cael eu cyhoeddi oherwydd eu bod yn cynnwys y fath wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraffau 14 (gwybodaeth sy’n ymwneud â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol) a 21 (prawf budd y cyhoedd) o rannau 4 a 5 Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac o dan holl amgylchiadau’r achos, mae budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn gwrthbwyso budd y cyhoedd o ran datgelu’r wybodaeth.

 

 PENDERFYNWYD:

 

1. mae swyddogion wedi'u hawdurdodi i: 

 

a)   ymgynghori ar y cynigion i gynyddu nifer y lleoedd i ddysgwyr ag Anghenion Iechyd Emosiynol a Lles a nifer y lleoedd ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Cymhleth. 

 

b)   bwrw ymlaen, o flaen y rhaglen dreigl Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, gyda dyluniad a chaffael safleoedd T? Glas a Th?'r Dderwen, a'r llety dros dro ar safle waith yr Ysgol Uwchradd Fitzalan bresennol drwy'r Rhaglen Trefniadaeth Ysgolion.  

 

2.      Mae'r canlynol yn nodi:

 

a)    cynnydd yn y ddarpariaeth Uned Cyfeirio Disgyblion ac ehangu'r ystod oedran i gynnwys disgyblion Cyfnod Allweddol 3.

 

b)    ehangu'r ddarpariaeth Addysgu Cymunedol a throsglwyddo'r gwasanaeth i hen Ganolfan Addysg Oedolion Severn.

 

c)     adleoli Ysgol Gynradd Lansdowne dros dro i safle presennol Ysgol Uwchradd Fitzalan. 

 

d)    y bydd swyddogion yn dod ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod yn y dyfodol i geisio awdurdod i fwrw ymlaen i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

3.      Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd gaffael buddiannau rhydd-ddaliadol ar gyfer tir ger safle presennol Ysgol Arbennig Greenhill, yn unol â phrisiad annibynnol, er mwyn caniatáu cyflawni’r Ysgol Arbennig Greenhill newydd, yn amodol ar gymeradwyaeth Weinidogol ar gyfer cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru.

6.

Cyllideb 2024/25 a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig: Adroddiad Diweddaru pdf eicon PDF 425 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

      i.      y cytunir ar egwyddorion y gyllideb y bdd yr Adroddiad ar Strategaeth y Gyllideb yn seiliedig arnynt, a’r dull i fodloni’r Gofyniad am Leihau’r Gyllideb yn 2024/25 ac ar draws cyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig 

 

    ii.    bod cyfarwyddiaethau’n gweithio gyda’r Aelodau Cabinet Portffolio perthnasol, mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol a’r Aelod Cabinet dros Adnoddau a Rheoli Perfformiad er mwyn nodi arbedion posibl er mwyn cynorthwyo wrth fynd i’r afael â’r bwlch yn y gyllideb o £36.7 miliwn ar gyfer 2020/21 a £119.2 miliwn yn ystod cyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

   iii.     Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, weithredu unrhyw gynnig arbedion cyn 2024/25 lle nad oes angen argymhelliad polisi neu pan fo penderfyniad polisi eisoes wedi’i wneud.

 

   iv.        Nodir y bydd gwaith yn parhau i ddiweddaru ac adnewyddu’r CATC ac y caiff ei adrodd i Aelodau fel y bo’n briodol. 

 

    v.   Nodir bod y Fframwaith Creu Incwm yn Atodiad 2 ac yn cytuno ar hyn yn cael ei ddefnyddio fel y dull o bennu ffioedd a thaliadau ar gyfer 2024/25.  

 

   vi.    cynigir  bod y Cyngor yn cytuno y caiff y Fframwaith Amserlen Cyllidebol a osodir yn Atodlen 3 ei fabwysiadu ac y caiff y gwaith a amlinellir ei symud ymlaen gyda'r nod o lywio paratoadau ar gyfer y gyllideb.

 

  vii.     Bydd ymgynghoriad ar gynigion cyllideb 2024/25 yn digwydd pan fydd manylion yr opsiynau ar gael er mwyn llywio'r gwaith o baratoi Cyllideb ddrafft 2024/25.

 

7.

Cyflawni Darpariaeth Asiantaeth a Chaerdydd ar Waith fodern pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.  Nodir bod y cynnydd sy'n cael ei wneud gan wasanaeth recriwtio mewnol y Cyngor "Caerdydd ar Waith".

 

2.  cymeradwyo'r dull trosfwaol ar gyfer caffael Gwasanaethau Gweithwyr Asiantaeth Niwtral Gwerthwr.

 

3.  Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio & Perfformiad, i bennu pob agwedd ar y broses gaffael (gan gynnwys cymeradwyo'r meini prawf gwerthuso i'w defnyddio, dechrau'r broses gaffael, dyfarnu'r contractau a'r holl faterion ategol sy'n ymwneud â'r caffaeliad).

 

 

8.

Ymateb i Ymholiad y Pwyllgor Craffu ar Wasanaethau Oedolion a Chymunedol i Gymorth Cyngor Caerdydd i Drigolion gyda Chostau Byw pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion o'r enw 'Cefnogaeth Cyngor Caerdydd i Breswylwyr gyda'r Costau Byw’.

 

 

 

9.

Cynllun Eiddo Blynyddol pdf eicon PDF 208 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

     i) bod Rhestr Drafodion Cynllun Eiddo Blynyddol 2023/24 (Atodiad 1) a Chynllun Eiddo Blynyddol 2023/24 (Atodiad 2) yn cael eu cymeradwyo.

 

   ii) y gofynion posibl o ran refeniw a buddsoddiad cyfalaf posibl i sicrhau cydymffurfiaeth barhaus mewn meysydd presennol a hefyd mewn perthynas â deddfwriaeth sy'n dod i'r amlwg, megis gwaith sy'n ymwneud â Thystysgrifau Perfformiad Ynni.

 

10.

Ymateb Adroddiad y Pwyllgor Craffu ar yr Economi a Diwylliant Llunio Adferiad Economaidd Caerdydd ar ôl y Pandemig pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD: bod yr ymateb i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Craffu Economi a Diwylliant o'r enw 'Llunio adferiad economaidd ôl-bandemig Caerdydd' fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad hwn yn cael eu cymeradwyo.

11.

Diweddariad ar Uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd pdf eicon PDF 193 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Nid yw Atodiadau 1-3 a 5-9 i’r adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei heithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 16 rhan 4 a pharagraff 21 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 PENDERFYNWYD:

 

1)     estyniad ac amrywiad i'r Cytundeb Gwasanaeth Cyn-Contract (PCSA) ar gyfer cyflawni'r Arena Dan Do newydd yn unol â'r amodau cyfreithiol a nodir yn Atodiad 1 cyfrinachol a'r Adroddiad Ariannol Atodiad cyfrinachol 9 gael ei gymeradwyo.

 

2)      dylid cymeradwyo’r Cytundeb Datblygu ac Ariannu yn Atodiad Cyfrinachol 1 a dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, Swyddog Adran 151, a’r Swyddog Cyfreithiol i:

 

a.     cymeradwyo telerau terfynol y DFA ac wrth wneud hynny gymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i'r ddogfennaeth gyfreithiol a gymeradwywyd fel y bo'n angenrheidiol, am resymau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i sicrhau cysondeb rhyngddynt a chwblhau unrhyw feysydd sy'n weddill; a

 

b.     cymeradwyo unrhyw weithredoedd a dogfennau pellach sy'n ategol i'r dogfennau cyfreithiol a gymeradwywyd;

 

gyda mynediad i'r DFA amodol ar gymeradwyo'r strategaeth ariannu mewn cyfarfod Cabinet yn y dyfodol.

 

3)     cymeradwyo’r Cynnig Prosiect Amlinellol ar gyfer Stiwdios Cynhyrchu Capella fel y nodir yn Atodiad 7 cyfrinachol.

 

4) cymeradwyo’r strategaeth gaffael a nodir yn Atodiad 6 cyfrinachol gan gynnwys datblygu Achos Busnes Llawn ar gyfer cynnig Capella Production Studios fel y nodir yn Atodiad 7 cyfrinachol ac Achos Busnes Llawn ar gyfer y cynllun datblygu ar gyfer Ardal A fel y nodir yn Atodiad 4, a dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Cyfreithiol, i ymdrin â phob agwedd ar y strategaeth gaffael a dychwelyd i'r Cabinet i gymeradwyo'r Achosion Busnes Llawn cyn penodi unrhyw gontractwyr.

 

5)     cymeradwyo ymarfer profi'r farchnad pellach ar gyfer yr ardal a nodwyd B ar y cynllun sydd ynghlwm wrth Atodiad 4 i gynorthwyo â chwblhau'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer ailddatblygu Canolfan y Ddraig Goch a dirprwyir awdurdod i'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Cyfreithiol, i nodi tir i gefnogi Cynllun Partneriaeth y Cyngor fel y nodir yn yr adroddiad hwn.

 

12.

Pentref Chwaraeon Rhyngwladol - Achos Busnes Llawn pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nid yw Atodiadau 2 - 5 yr adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei heithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraffau 14, 16 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Dosbarthwyd taflen welliant, a ddiwygiodd baragraff deg o'r adroddiad, mae'r paragraff diwygiedig bellach yn enwi'r datblygwr, roedd hyn yn dilyn adborth gan graffu. 

 

PENDERFYNWYD:

 

1)        cymeradwyo cael gwared ar blotiau preswyl a masnachol fel y’i nodir yn yr adroddiad hwn a'r adroddiad cyfreithiol sydd ynghlwm wrth Atodiad cyfrinachol 2 ac yn unol â chyngor priswyr annibynnol ynghlwm wrth Atodiad cyfrinachol 3 a'r cynigion yn Atodiad 5 cyfrinachol, a dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Cyfreithiol, i ddod â'r holl gytundebau cyfreithiol i ben i gwblhau'r strategaeth waredu.

 

2)       cyflwyno’r amlinelliad rhwymedigaeth yn Atodiad cyfrinachol 2 a nodi datblygiad Achos Busnes Llawn i bennu datrysiad parcio ceir hirdymor ar gyfer y safle Pentref Chwaraeon Rhyngwladol i'r Cabinet i'w gymeradwyo cyn nodi’r tir cyntaf i’w alw gan y datblygwr dynodedig.

 

3)        awdurdodi ymarfer profi marchnad meddal i lywio datblygiad pellach yr Achos Busnes Amlinellol i'r Strategaeth Ynni i’w gyflwyno'n ôl i gyfarfod o'r Cabinet yn y dyfodol.

 

 

13.

Strategaeth Gyfranogi pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.      cymeradwyo Strategaeth Cyfranogiad 2023-27 (Atodiad A) ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

2. Nodi y bydd y Canllaw drafft i'r Cyfansoddiad (Atodiad B) yn rhan o'r broses ymgynghori.

 

3. ystyried adroddiad pellach ar Strategaeth Cyfranogiad 2023-27 i'w gymeradwyo'n derfynol yn hydref 2023.