Lleoliad: YB 4, Neuadd y Sir, Cyfarfod Aml-Leoliad. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Deguara
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Mai 2023 PDF 145 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd
|
|
Safonau'r Gymraeg: Adroddiad Blynyddol 2022-23 PDF 203 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2022-23 (ynghlwm fel Atodiad A) cyn ei gyhoeddi'n ffurfiol yn unol â Safonau’r Gymraeg (Mesur y Gymraeg) (Cymru) 2011). |
|
Tennis mewn Parciau PDF 174 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1) cymeradwyo'r cytundeb arfaethedig â Tenis Cymru fel y nodir yn yr adroddiad hwn.
2) cynnwys y tri safle cwrt tenis a nodwyd yn yr adroddiad hwn yn y cytundeb.
3) dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau a'r Swyddog Cyfreithiol i:
a. nodi tri safle cwrt tenis arall i'w cynnwys yn y cytundeb yn amodol ar ddiwydrwydd dyladwy a llywodraethu priodol sy'n ymwneud ag unrhyw drefniadau Ymddiriedolaeth a/neu gyfamodau cyfyngu;
b. ymrwymo i Gytundebau Trwyddedau/Cytundebau Rheoli yn ôl yr angen ar gyfer y safleoedd sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun.
4) Nodi y bydd angen cyflwyno adroddiadau pellach yn ôl i'r Cabinet fel Ymddiriedolwr i gymeradwyo cynnwys unrhyw safleoedd sy'n ddarostyngedig i Ymddiriedolaethau Elusennol.
|
|
Canolfan Hamdden Pentwyn PDF 190 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nid yw Atodiadau 2, 3, 4 a 5 yr adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei heithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraffau 14, 16 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1) cymeradwyo'r cynllun arfaethedig ar gyfer Canolfan Hamdden Pentwyn fel y dangosir gan y cynlluniau dylunio yn Atodiad 1 a dirprwyo’r cynnig ariannol yn Atodiad 3 Cyfrinachol a'r awdurdod i'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Swyddog Adran 151, a'r Swyddog Monitro i:
i. gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ac ystyried newidiadau posibl fel sy'n ofynnol o fewn terfynau'r gyllideb gymeradwy a nodir yn Atodiad 3 Cyfrinachol;
ii. ymdrin â phob agwedd ar gaffael contractwr/contractwyr i ymgymryd â'r gwaith a nodir yn yr adroddiad hwn yn ddarostyngedig i'r amlen ariannol a nodir yn Atodiad 3 Cyfrinachol; iii. Cwblhau cytundebau prydlesu gyda thenantiaid ar y telerau a nodir yn Atodiadau Cyfrinachol 3 a 4, yn amodol ar ddiwydrwydd dyladwy manwl a phrisio annibynnol i ddangos y gwerth gorau.
2) cymeradwyo'r cynllun ynni solar fel y nodir yn Atodiad 5 Cyfrinachol.
3) dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Swyddog Adran 151, a'r Swyddog Cyfreithiol i ymdrin â phob agwedd ar gaffael contractwr/contractwyr i gyflawni'r cynllun ynni solar fel y nodir yn yr adroddiad hwn ac yn Atodiad 5 Cyfrinachol, yn ddarostyngedig i'r amlen ariannol a nodir yn Atodiad 5 Cyfrinachol.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. nodi'r adroddiad a'r camau a gymerwyd mewn cysylltiad â sefyllfa Alldro Refeniw a Chyfalaf y Cyngor ar gyfer 2022/23.
2. Nodi y bydd yr adroddiad hwn yn ffurfio atodiad i’r adroddiad Datganiadau Ariannol a fydd yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cyngor yn hydref 2023.
|
|
Strategaeth y Swyddfeydd Craidd PDF 217 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Ni chyhoeddir Atodiad 1 yr adroddiad hwn gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio o’r math a ddisgrifir ym mharagraffau 14, 16 a 21 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1) cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Strategaeth y Swyddfa Graidd sydd yn Atodiad 1 Cyfrinachol.
2) dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Swyddog Adran 151, a'r Swyddog Cyfreithiol i gyflawni'r Strategaeth Interim arfaethedig ar gyfer Neuadd y Ddinas fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn ac yn Atodiad 1 Cyfrinachol o fewn cyllidebau penodedig.
3) awdurdodi datblygiad yr Achos Busnes Llawn ar gyfer yr opsiwn a ffefrir fel y nodir yn yr adroddiad hwn ac yn Atodiad 1 Cyfrinachol.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol 2022-2023 PDF 148 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: argymell bod y Cyngor yn nodi cynnwys Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol 2022-2023. |
|
Cydgynllun Ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro 2023-2028 PDF 167 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: cymeradwyo Cynllun Ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg 2023-2028 (fel y nodir yn Atodiad A).
|
|
Cynllun Datblygu Lleol Newydd Caerdydd 2021-2036: Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir PDF 203 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: yr argymhellir i’r Cyngor
1. cymeradwyo Strategaeth a ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (fel y nodir yn Atodiad 1) at ddibenion ymgynghori.
2. cymeradwyo'r amserlen ddiwygiedig ar gyfer paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd fel y nodir yn yr adroddiad hwn fel y gellir ei gyflwyno'n ffurfiol i Lywodraeth Cymru ei ystyried a'i gytuno.
|