Lleoliad: Neuadd y Sir
Cyswllt: Jo Watkins
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2018 PDF 153 KB Penderfyniad: Wedi’u cytuno
|
|
Diwygio Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru PDF 152 KB Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. nodi Papur Gwyn ac ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch diwygio Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru; a
2. dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i gymeradwyo ymateb i Lywodraeth Cymru gan nodi barn y Cyngor ar gynigion y Papur Gwyn.
|
|
Ysgolion yr 21ain Ganrif, Band B: Ysgol Uwchradd Fitzalan Newydd PDF 227 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mae Atodiad 10 wedi’i eithrio o gael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth yn ôl paragraff 16 Deddf Llywodraeth Leol Act 1972
PENDERFYNWYD:
1. nodi’r ymatebion a ddaeth i law yn ystod yr ymarfer ymgysylltiad cyhoeddus ynghylch y cynnig i roi adeilad ysgol newydd sbon i Ysgol Uwchradd Fitzalan
2. dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes mewn ymgynghoriad â’r Aelodau Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, a Chyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Cyfreithiol, a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau) i bennu holl agweddau ar y broses gaffael (gan gynnwys, er mwyn osgoi amheuaeth, llunio’r holl ddogfennaeth sy’n ymwneud â chaffael a’r meini prawf dethol a dyfarnu, dechrau’r broses gaffael tan ddyfarnu’r contractau) ar gyfer yr ysgol newydd sbon.
|
|
Perfformiad Ysgolion Caerdydd yn 2017-18 PDF 347 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: nodi perfformiad ysgolion Caerdydd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017/2018 |
|
Adroddiad ar Gynnydd y Bwrdd Diogelu Corfforaethol PDF 127 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: cymeradwyo Adroddiad Cynnydd Diogelu Corfforaethol y Bwrdd Diogelu Corfforaethol (Atodiad A) |
|
Polisi'r Bwrdd Diogelu Corfforaethol PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: cymeradwyo Polisi Diogelu Corfforaethol Cyngor Caerdydd (2018-2021), gan gynnwys Datganiad Caethwasiaeth Fodern y Cyngor. |
|
Ardrethi Annomestig Cenedlaethol - Dileu Dyledion PDF 145 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mae Atodiadau A a B i’r adroddiad hwn wedi’u heithrio rhag cael eu cyhoeddi drwy rinwedd paragraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
PENDERFYNWYD: rhoi awdurdod i ddileu dyledion sy’n dod i £527,447.35
|
|
Papur Gwyn Stretegaeth Economaidd Ddrafft PDF 128 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: cymeradwyo’r gwaith o gyhoeddi “Papur Gwyn” Strategaeth Economaidd Drafft cyn iddo gael ei gymeradwyo’n swyddogol gan y Cabinet er mwyn gallu cyflwyno’r adroddiad hwn, a dadlau’r “Papur Gwyn” drafft, yng Nghyfarfod Llawn y Cyngor ym mis Ionawr 2019 |
|
Y Gwasanaeth Byw â Chymorth i Oedolion ag Anabledd Dysgu PDF 169 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. cytuno i’r dull cyffredinol arfaethedig o ail-gomisiynu gwasanaethau byw â chymorth i oedolion ag anabledd dysgu; a
2. dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet (Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant), Swyddog 151 y Cyngor a Swyddog Monitro’r Cyngor, i bennu holl agweddau ar y broses gaffael a’r model byw â chymorth (gan gynnwys cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso i’w ddefnyddio, ac awdurdodi’r gwaith o ddyfarnu contractau) a’r holl faterion cysylltiedig eraill sy’n ymwneud â chaffael.
|
|
Canllaw Cynllunio Atodol ar Lety i Fyfyrwyr a Fflatiau PDF 146 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: argymell i’r Cyngor gymeradwyo’r Canllawiau Cynllunio Atodol canlynol fel y’u diwygiwyd a’u hatodwyd i’r adroddiad hwn:
· Addasu Fflatiau · Llety i Fyfyrwyr
|
|
Penderfyniad: RESOLVED: that the report of Children and Young People Scrutiny Committee & Community and Adult Services Scrutiny Committee entitled 'Preventing Young People's Involvement in Drug Dealing' be received and a response be provided by April 2019
|
|
Penderfyniad: RESOLVED: that the Report of Economy & Culture Scrutiny Committee entitled 'Council Workshops & Innovation Premises' be received and a response be provided by April 2019
|