Lleoliad: Neuadd y Sir
Cyswllt: Jo Watkins
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion Cyfarfod y Cabinet ar 14 Mehefin 2018 PDF 116 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd
Cofnodion: PENDERFYNWYD: bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2018 yn cael eu cymeradwyo.
|
|
Penderfyniad: PENDERRFYNWYD: derbyn adroddiad Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad o’r enw ‘Arweiniad y Cwsmer’ a chyflwyno ateb erbyn mis Tachwedd 2018.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Walker adroddiad y Pwyllgor Craffu ar ‘Arweinyddiaeth y Cwsmer’ i’r Cabinet. Roedd 35 o ganfyddiadau allweddol a 7 o argymhellion yn yr adroddiad i’r Cabinet eu hystyried.
PENDERFYNWYD: derbyn adroddiad Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad o’r enw ‘Arweinyddiaeth y Cwsmer’ a chyflwyno ateb erbyn mis ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11. |
|
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Derbyn adroddiad Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc o’r enw ‘Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir a chyflwyno ateb erbyn mis Tachwedd 2018.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Len Bridgeman adroddiad y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc o’r enw ‘Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir’. Roedd yr adroddiad yn cynnwys 20 o argymhellion i’r Cabinet eu hystyried.
PENDERFYNWYD: Derbyn adroddiad Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc o’r enw ‘Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir’ ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo'r cynigion a nodir ym mharagraff 2 yr yr adroddiad heb eu newid.
2. Yn dibynnu ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, cymeradwyo‘r cynnig i ymestyn yr ystod oedran yn Greenhill o 11 - 16 i 11 - 19 (mae angen penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wneud hyn)
3. Yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gorff Llywodraethu Ysgol yr Forwyn Fair: cynnwys adeiladau CAA yng nghynllun Band B ar gyfer adeiladau newydd Ysgol y Forwyn Fair.
4. awdurdodi swyddogion i gymryd camau priodol i weithredu'r cynigion a nodir ym mharagraff 2 yr adroddiad.
5. awdurdodi swyddogion i gyhoeddi’r penderfyniad ymhen 7 diwrnod ar ôl penderfynu ar y cynnig.
6. dirprwyo gwaith cymeradwyo unrhyw gontractau angenrheidiol i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, wedi ymgynghori â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a Swyddog Adran 151, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Aelodau Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad ac Addysg a Sgiliau.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Bradbury fuddiant personol fel Llywodraethwr yn Ysgol T? Gwyn
Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn rhoi gwybod nad oes unrhyw wrthwynebiadau i’r hysbysiadau statudol sy’n ymwneud â chynigion i gynyddu darpariaeth arbenigol i blant a phobl ifanc wedi’u derbyn. Byddai’r cynigion yn helpu i fynd i’r afael ag ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13. |
|
Strategaeth Gweithlu 2018-2021 PDF 155 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. cytuno ar y Strategaeth Gweithlu 2018-2021 fel y mae yn Atodiad 1 yr adroddiad
2. cytuno ar y newidiadau i’r broses recriwtio fel y manylir ym mharagraff 11 yr adroddiad
Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet y strategaeth y gweithlu sy’n gosod fframwaith o’i flaenoriaethau ac ymrwymiadau angenrheidiol er mwyn creu diwylliant sy’n cynorthwyo gweithlu hyblyg, medrus, ymrwymedig ac amrywiol er mwyn cefnogi’r amcanion sydd yn yr Uchelgais Prifddinas y Weinyddiaeth.
PENDERFYNWYD:
1. cytuno ar y Strategaeth Gweithlu 2018-2021 fel y mae yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 14. |
|
Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 2017-18 PDF 201 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: nodi’r sefyllfa bresennol o ran perfformiad, sut mae cyflawni’r prif ymrwymiadau a blaenoriaethau fel yn Chwarter 4, a'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i’r afael â heriau i’r Cyngor. Cofnodion: Derbyniodd y Cabinet fanylion am berfformiad y Cyngor ar gyfer Chwarter 4 2017-18 gan gynnwys crynodeb o’r cynnydd a’r heriau a wynebir gan bob cyfarwyddiaeth.
PENDERFYNWYD: nodi’r sefyllfa bresennol o ran perfformiad, sut mae cyflawni’r prif ymrwymiadau a blaenoriaethau fel yn Chwarter 4, a'r camau sy'n cael eu cymryd i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 15. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
(1) cymeradwyo'r adroddiad a’r camau a wnaed mewn perthynas â chyfrifon y Cyngor yn 2017/18.
(2) nodi y bydd yr adroddiad yn ffurfio Atodlen i adroddiad Datganiadau Ariannol y Cyngor a fydd yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Medi 2018.
Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor fanylion am sefyllfa ariannol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018. Nododd y sefyllfa alldro refeniw derfynol fod y Cyngor wedi cadw ei wariant o fewn ei gyllideb net gyffredinol o £587 miliwn yn 2017/18 gyda sefyllfa gytbwys wedi’i hadrodd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 16. |
|
Gwasanaethau Trafnidiaeth Corfforaethol PDF 216 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. nodi’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r rhaglen wella’r Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog a chytuno gwneud y gwaith pellach angenrheidiol fel y nodir yn yr adroddiad.
2. cytuno ar egwyddor ymchwilio dull newid â’r sector preifat a dirprwyo’r awdurdod i’r Uwch Swyddogion perthnasol mewn ymgynghoriad â’r Aelodau Cabinet perthnasol i ddelio ag unrhyw agwedd ar gomisiynu dull newydd sy’n cynnwys caniatáu contractau ac unrhyw drefniadau cysylltiedig angenrheidiol. 3. cadw’r Rolls Royce a’r rhif cofrestru ac mai bwriad y Cyngor o ran yr Amgueddfa Moduron Cenedlaethol yw rhoi benthyg y Rolls Royce dros dro gan ddisgwyl ei ddychwelyd i Gaerdydd i’w roi ar ddangos yn barhaol mewn cyfleuster priodol. Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn amlinellu cynnydd o ran rhoi rhaglen Gwella Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog ar waith.Adroddwyd bod angen archwilio’r gallu o arbed arian trwy ddulliau effeithlonrwydd a chreu mwy o incwm ymhellach a chynigiwyd archwilio partneriaeth gyda’r sectorau preifat.
Cynigiwyd hefyd y gofynnir i’r Amgueddfa Cerbydau Modur Genedlaethol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 17. |