Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion: Lleoedd mewn Ysgolion Cynradd i Wasanaethu Cathays a Rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd
PENDERFYNWYD:
1. i swyddogion cael eu hawdurdodi
· i ymgynghori ar gynigion i gynyddu capasiti Ysgol Mynydd Bychan o tua 0.9DM (192 o leoedd) i 1.5DM (hyd at 315 o ddisgyblion) o fis Medi 2022.
· i gynnal ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid i ffurfio cynigion a fyddai'n cael eu datblygu i ddarparu cydbwysedd priodol o leoedd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg i wasanaethu'r ardal.
2. nodi y bydd yr ymgynghoriad ar y Trefniadau Derbyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 yn cynnwys cynnig lleihau nifer derbyn Ysgol Gynradd Allensbank o 45 i 30 o leoedd.
3. Nodi y bydd swyddogion yn dod ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod yn y dyfodol i geisio cymeradwyaeth er mwyn bwrw ymlaen i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.