Mater - cyfarfodydd

Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor

Cyfarfod: 19/12/2019 - Cabinet (Eitem 6.)

6. Cyfrif Sylfaen y Dreth Gyngor pdf eicon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

(1) cymeradwyo cyfrifiad sail dreth y Cyngor ar gyfer blwyddyn 2020/21;

 

(2) yn unol â’r adroddiad hwn ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau lleol (Cyfrifo Sail Dreth) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd, y swm a gyfrifwyd gan Gyngor Caerdydd fel Sail Dreth y Cyngor ar gyfer 2020/21 fydd 147,277;

 

(3) yn unol â’r adroddiad hwn ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail Dreth) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd y swm a gyfrifwyd gan Gyngor Caerdydd fel Sail Dreth y Cyngor ar gyfer 2020/21 yn yr ardaloedd cymuned sy’n destun praesept fydd fel a ganlyn;

Llys-faen

2,499

Pentyrch        

3,316

Radur

3,841

Sain Ffagan

1,592

Pentref Llaneirwg

2,047

Tongwynlais

820

 

(4)     y trefniadau ar gyfer talu praeseptau yn 2020/21 i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru i fod drwy randaliadau cyfartal ar ddiwrnod olaf pob mis o fis Ebrill 2020 hyd fis Mawrth 2021 a’r cynghorau Cymuned i fod drwy un taliad ar 1 Ebrill 2020, ac ar yr un sail a hwnnw a ddefnyddiwyd yn 2019/20 ac i’r awdurdodau praesepu gael eu hysbysu yn unol a hynny.