Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Eithrir Atodiad B yr adroddiad hwn rhag cyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth fel y disgrifir ym mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Rhestr 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo'r polisi newydd ar gyfer clampio a symud cerbydau sy’n peri niwsans oherwydd parcio anghyfreithlon neu gerbydau heb dreth (atodiad 1)
2. bod y Cyngor yn derbyn y grymoedd a ddatganolwyd ar Reoliadau Treth Car (Atal, Symud a Gwaredu Cerbydau) 1997.
3. Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Strydlun i arwyddo’r llythyr cytundeb rhwng DVLA a Chyngor Caerdydd (Partner Pwerau a Ddatganolwyd).