Mater - cyfarfodydd

Sicrhau buddsoddiad i adeiladau treftadaeth sy'n eiddo i'r Cyngor

Cyfarfod: 15/11/2018 - Cabinet (Eitem 14.)

14. Sicrhau Dyfodol Adeiladau Treftadaeth Caerdydd pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni fydd Atodiadau 1-3 yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

 

(1)   dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r swyddogion perthnasol i archwilio’r amryw ddulliau sydd yn yr adroddiad hwn a'u cyflyno yng nghyfarfodydd y Cabinet yn y dyfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau terfynol ar bob cyfle.  

 

(2)   dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r swyddogion perthnasol i sicrhau tenant ar gyfer yr Eglwys Norwyaidd, yn dibynnu ar ddatrys yn briodol unrhyw faterion sy'n berthnasol i statws bresennol yr Ymddiriedolaeth.