7. Tendr am bolisïau Yswiriant y Cyngor, gan gynnwys trin hawliadau o 1 Ebrill 2019 PDF 150 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mae Atodiad 1 a 2 yr adroddiad hwn wedi’u heithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â darpariaethau Paragraff 12A Rhan 4 Paragraff 14 Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1. awdurdodi dechrau’r tendr yswiriant a chytundebau trin hawliau am 5 mlynedd, neu 3 blynedd gydag opsiwn i ymestyn am 2 flynedd arall fel y nodir yn yr adroddiad
2. cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso lefel uchel wedi’u nodi yn yr adroddiad
3. bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i benderfynu ar bob agwedd ar y broses gaffael a delio â nhw yn gyffredinol (gan gynnwys ac nid yn gyfyngedig i’r dadansoddiad o’r meini prawf gwerthuso a chyhoeddi dogfennaeth) a materion ategol hyd at a chan gynnwys gwobrwyo’r contract i Gyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad.