Mater - cyfarfodydd

Darparu Gwasanaethau Seibiant Byr Caerdydd yn Nhŷ Ty Storrie

Cyfarfod: 12/07/2018 - Cabinet (Eitem 1.)

1. Darparu Gwasanaethau Seibiant Byr Caerdydd yn Nhŷ Ty Storrie pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   Cytuno mewn egwyddor ar drosglwyddiad arfaethedig y gwasanaethau Seibiant Byr i dîm mewnol y Cyngor, fel y nodwyd yng nghorff yr adroddiad, yn amodol ar ganlyniad ymgynghori pellach â rhanddeiliaid gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth; a

 

2.   Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd y Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr y Gyfraith a Llywodraethiant, i ddelio â’r holl faterion o bwys er mwyn gwireddu’r cynnig (gyhyd a bod y Gyfarwyddiaeth wedi ystyried canlyniad yr ymgynghori pellach y cyfeirir ato yn argymhelliad 1) gan gynnwys (heb gyfyngiad):-

 

 

(i) Cydgysylltu â’r darparwr presennol i gytuno ar ddyddiad cyfleus i bawb i ddwyn y trefniadau cytundebol presennol i ben ac i drosglwyddo darpariaeth y gwasanaeth Seibiant Byr i dîm mewnol y Cyngor;

(ii)   Mynd i’r afael â’r holl faterion cysylltiedig, gan gynnwys (heb gyfyngiad) gofrestru eiddo y T? Storrie a therfynu y trefniadau trwydded presennol.