17 Gwasanaethau Trafnidiaeth Corfforaethol PDF 216 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. nodi’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r rhaglen wella’r Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog a chytuno gwneud y gwaith pellach angenrheidiol fel y nodir yn yr adroddiad.
2. cytuno ar egwyddor ymchwilio dull newid â’r sector preifat a dirprwyo’r awdurdod i’r Uwch Swyddogion perthnasol mewn ymgynghoriad â’r Aelodau Cabinet perthnasol i ddelio ag unrhyw agwedd ar gomisiynu dull newydd sy’n cynnwys caniatáu contractau ac unrhyw drefniadau cysylltiedig angenrheidiol.
3.
cadw’r Rolls Royce a’r rhif cofrestru ac mai bwriad y Cyngor o ran yr Amgueddfa Moduron Cenedlaethol yw rhoi benthyg y Rolls Royce dros dro gan ddisgwyl ei ddychwelyd i Gaerdydd i’w roi ar ddangos yn barhaol mewn cyfleuster priodol.
Cofnodion:
Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn amlinellu cynnydd o ran rhoi rhaglen Gwella Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog ar waith.Adroddwyd bod angen archwilio’r gallu o arbed arian trwy ddulliau effeithlonrwydd a chreu mwy o incwm ymhellach a chynigiwyd archwilio partneriaeth gyda’r sectorau preifat.
Cynigiwyd hefyd y gofynnir i’r Amgueddfa Cerbydau Modur Genedlaethol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 17