Mater - cyfarfodydd

Cydgomisiynu a Chydgyllideb Caerdydd a Bro Morgannwg ar gyfer Gwasanaethau Pobl Hŷn

Cyfarfod: 18/01/2018 - Cabinet (Eitem 72)

72 Comisiynu ar y Cyd a Chyllideb Gyfun ar gyfer Gwasanaethau Pobl Hŷn Caerdydd a Bro Morgannwg pdf eicon PDF 184 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae Atodiad 2 wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â darpariaethau Atodlen 12A Rhan 4 paragraff 16 Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

PENDERFYNWYD:

 

1.      y dylid nodi’r cynnydd mewn perthynas â bodloni gofynion Rhan 9, gan gynnwys sefydlu cyllideb gronnol ar gyfer llety gofal

 

2.      cymeradwyo sefydlu cyllideb gronnol ar gyfer llety gofal i bobl h?n, gyda Chyngor Caerdydd yn gweithredu fel sefydliad cynnal fel y nodir yn yr adroddiad. Bydd trefniadau o'r fath yn weithredol o 1 Ebrill 2018 ymlaen.

 

3.      y dylid rhoi awdurdod i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cyd â’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr Llywodraethu a'r Gwasanaethau Cyfreithiol i ymdrin â phob agwedd ar y Gytundeb Partneriaeth (gan gynnwys gosod yr un peth) ac unrhyw faterion cysylltiedig perthnasol

 

4.      cymeradwyo Datganiad Sefyllfa’r Farchnad a’r Strategaeth Gomisiynu Gwasanaethau Gofal a Chymorth Pobl H?n fel y nodir yn Atodiad 1

 

Cofnodion:

Mae Atodiad 2 i’r adroddiad hwn wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn dilyn darpariaethau Paragraff 12A Rhan 4 paragraff 16 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ystyriwyd adroddiad yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer comisiynu ar y cyd gwasanaethau pobl h?n ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Cynigiwyd y bydd Caerdydd yn cynnal  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 72