Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Fuddsoddi Adfywio Wedi ei Dargedu

Cyfarfod: 15/03/2018 - Cabinet (Eitem 95)

95 Rhaglen Buddsoddi Adfywio Wedi ei Dargedu pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   y nodir y cyfle cyllid a gyflwynwyd gan Raglen Buddsoddi Adfywio Wedi ei Dargedu Llywodraeth Cymru a gofynion arian cyfatebol cysylltiedig;

 

2.  y cytunir ar themâu a phrojectau â blaenoriaeth ar gyfer y Rhaglen Buddsoddi Adfywio Wedi ei Dargedu a nodir yn yr adroddiad;

3.  y dirprwyir awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pobl a Chymunedau, Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd a Chyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, i gwblhau manylion am gyfraniad y Cyngor at y Cynllun Adfywio Rhanbarthol a pharatoi ceisiadau cyllid i’w hystyried dan y Rhaglen Buddsoddi Adfywio Wedi ei Dargedu.

 

Cofnodion:

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am raglen ariannu newydd i gynorthwyo projectau adfywio economaidd, cyflwynwyd canllawiau ar y Rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi ei Dargedu ym mis Hydref 2017. Nod cyffredinol y Rhaglen Buddsoddi yw cynorthwyo projectau sy'n hyrwyddo adfywio economaidd, yn canolbwyntio ar bobl ac ardaloedd sydd fwyaf mewn angen.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 95