Mater - cyfarfodydd

Newid Arfaethedig i Statws Coleg Chweched Dosbarth Dewi Sant - Ymateb ffurfiol i'r cynnig gan Goleg Dewi Sant i newid eu statws i ddod yn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir

Cyfarfod: 18/01/2018 - Cabinet (Eitem 69)

69 Newid Arfaethedig yn Statws Coleg Catholig Dewi Sant – Goblygiadau i’r Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 199 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: rhoi awdurdod i'r Cyfarwyddwr Addysg a Chyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau i:

 

1.   Ymateb i Gorff Llywodraethu Coleg Dewi Sant ac Archesgobaeth Caerdydd yn cadarnhau cefnogaeth y Cyngor i’w  cynnig i newid statws y Coleg i statws Ysgol GG;

 

2.   Ymgymryd â’r diwydrwydd dyladwy angenrheidiol ac, yn seiliedig ar gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, hwyluso newid statws Coleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir.

 

Cofnodion:

Dywedwyd bod Coleg Catholig Dewi Sant yn ystyried newid ei statws yn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r goblygiadau, y manteision a’r peryglon i’r Cyngor ac yn argymell y dylid rhoi ymateb cadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD: dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Addysg a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau i:

 

1.            Ymateb i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 69