Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. Fel y nodwyd yn Strategaeth Rheoli Gwastraff Ailgylchu 2015-18,
a. cymeradwyo’r cynnig i ehangu ymhellach y darpariaeth biniau olwynion fel y nodir yn Atodiad A2 i'r adroddiad
b. cymeradwyo’r cynnig i greu gorsafoedd addysg Canolfan Ailgylchu Gwastraff Y Cartref (CAGC); a
c. cymeradwyo cynllun peilot ar gyfer casglu gwastraff gwydr domestig, ar wahân i gasgliadau gwastraff eraill y cartref
2. cymeradwyo cynnal ymgynghoriad dinas gyfan ar Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu 2018-21, gan gynnwys y prif gynigion ar gyfer newidiadau i'r strategaeth ddrafft, gofynion seilwaith newydd, safonau gwasanaeth a chynigion eraill a godwyd yn yr adroddiad
3. Cymeradwyo gwneud adolygiad gwastraff ac ailgylchu annibynnol a fydd yn cynorthwyo gyda sicrhau bod holl agweddau ar y Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu drafft yn flaengar ac yn gadarn
4. cytuno i archwilio cydweithredu rhanbarthol, law yn llaw â Llywodraeth Cymru, ar ddatblygu achos busnes amlinellol cychwynnol a dewisiadau gwerthuso ar gyfer y cynnig i ddatblygu cyfleuster ailgylchu rhanbarthol.
5. derbyn adroddiad pellach yn dilyn ymgynghoriad ac erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2018/19 a fydd yn ystyried y posibilrwydd o weithredu casgliadau gwastraff gwydr ar wahân yn ehangach a fersiwn derfynol o Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu 2018-21 i’w chymeradwyo.
Cofnodion:
Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn cynnwys y Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu drafft er mwyn ymgynghori arno. Amlinellodd yr adroddiad hefyd gynigion i ehangu’r ddarpariaeth ymhellach yn y ddinas ar gyfer biniau ag olwynion, darparu gorsafoedd addysg canolfan ailgylchu gwastraff y cartref a chynllun peilot i gasglu gwastraff gwydr domestig ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 109