Mater - cyfarfodydd

Ailgomisiynu Gwasanaethau Tai a Chymorth ar gyfer Pobl Ifanc

Cyfarfod: 18/01/2018 - Cabinet (Eitem 71)

71 Cynllun Cyflenwi Lleol Cefnogi Pobl pdf eicon PDF 179 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cynllun Cyflenwi Lleol Cefnogi Pobl

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   cymeradwyo’r Cynllun Cyflenwi a Gwariant Lleol Cefnogi Pobl fel a nodir yn Atodiad A i'r adroddiad

 

2.   nodi'r cynnydd o ran ail-gomisiynu gwasanaethau cam un, a chytuno ar y dull gwahanol mewn perthynas â gwasanaethau cymorth yn ôl yr angen i bobl h?n

3.   cytuno ar y dull cyffredinol arfaethedig o ran ail-gomisiynu gwasanaethau llety a chymorth i bobl ifanc fel a nodir yng nghorff yr adroddiad

4.   rhoi awdurdod i Gyfarwyddwr Cymunedau, Tai a Gwasanaethau Cwsmeriaid ar y cyd â'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, Swyddog Adran 151 y Cyngor, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol i ymdrin â phob agwedd ar ail-gomisiynu gwasanaethau llety a chymorth i bobl ifanc fel y nodir yng nghorff yr adroddiad, hyd at a chan gynnwys dyfarnu contractau a phob mater cysylltiedig yn ymwneud â’r un peth.

5.   Nodi bod bwriad i gyflwyno mwy o adroddiadau i’r Cabinet i geisio awdurdodaeth i ddechrau’r prosesau caffael i’r gwasanaethau eraill gael eu comisiynu yn rhan o gamau 2, a'r gwasanaethau cam 3, pan a phryd y caiff y strategaethau caffael manwl eu datblygu.

 

Cofnodion:

Daeth y cynllun Gwario a Chyflenwi Lleol Cefnogi Pobl 2018/2019 i law ynghyd â'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran ail-gomisiynu’r gwasanaethau llety a chymorth. Ystyriodd y Cabinet hefyd ymagwedd ddiwygiedig ar wasanaethau cymorth yn ôl yr angen i bobl h?n ac ar ail-gomisiynu'r gwasanaethau llety  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 71