Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mae Atodiad 11(d) wedi’i eithrio rhag cael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD: wedi ystyried sylwadau’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn perthynas â chadernid y gyllideb a digonoldeb arian wrth gefn fel sy’n angenrheidiol dan Adran 25 Deddf Llywodraeth Leol 2003, ac wedi ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i’r Ymgynghoriad ar y Gyllideb yr argymhellir y Cyngor i:
1.0 Gymeradwyo’r cyllidebau Refeniw, Cyfalaf, Cyfrif Refeniw Tai gan gynnwys yr holl gynigion a chynyddu’r Dreth Gyngor gan 5.0% fel y nodir yn yr adroddiad hwn a bod y Cyngor yn cadarnhau y termau canlynol.
2.0 Nodi i’r Cyngor yn y cyfarfod ar 14 Rhagfyr 2017 gyfrif y symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2018/19 yn unol â’r rheoliadau a wnaed dan Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:-
a) 143,453 – sef y swm a gyfrifwyd yn unol â Rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd, fel sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn.
b) Llys-faen 2,350
Pentyrch 3,263
Radur 3,709
Sain Ffagan 1,311
Hen Bentref Llaneirwg 1,543
Tongwynlais 823
sef y symiau a gyfrifwyd yn unol â Rheoliad 6 y Rheoliadau fel symiau sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer aneddiadau yn y rhannau hynny o’r ardal y mae eitemau arbennig yn berthnasol iddynt.
2.1 Cytuno bod y symiau canlynol bellach yn cael eu cyfrif gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd ar gyfer y flwyddyn 2018/19 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Gyllid Llywodraeth Leol 1992:-
a) Cyfansymio’r symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(2)(a) i (d) (gan gynnwys praeseptau’r Cyngor Cymuned sy’n dod i £366,815).
£1,007,699,815
b) Cyfansymio’r symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(3)(a) a (c).
£401,119,579
c) Y swm y mae’r cyfanswm yn 2.1(a) y fwy na’r cyfanswm yn 2.1(b) uchod a gyfrifwyd yn unol ag Adran 32(4) fel y gofyniad ar gyfer y gyllideb ar gyfer y flwyddyn. £606,580,236
d) Cyfansymio’r symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y cânt eu talu yn ystod y flwyddyn i Gronfa’r Cyngor mewn perthynas â’r Grant Cynnal Refeniw, cynllun gostyngiad treth gyngor, Ardrethi Annomestig wedi’u hailddosbarthu.
£440,946,781
e) Y swm ar 2.1(c) uchod ond gan dynnu swm 2.1(d) (net y swm ar gyfer rhyddhad diamod o £350,000), i gyd wedi’u rhannu gan y swm ar 2.0(a) uchod, wedi’i gyfrifo yn unol ag Adran 33(1) fel swm sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn.
£1,157.06
f) Cyfansymio swm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1).
£366,815
g) Swm 2.1(e) uchod ond gan dynnu y canlyniad a geir trwy rannu swm 2.1(f) uchod gan swm 2.0(a) uchod, yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, fel swm sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer aneddiadau yn y rhannau hynny o’r ardal lle ... view the full Penderfyniad text for item 77
Cofnodion:
Ni fydd Atodiad 11(d) yn cael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Datganodd y Cynghorydd Bradbury fuddiant personol yn yr eitem gan ei fod yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 77